Cyn bêl-droediwr Cymreig oedd Frederick Charles "Fred" Keenor (31 Gorffennaf 189419 Hydref 1972) oedd yn gapten Dinas Caerdydd pan enillodd yr Adar Gleision Gwpan FA Lloegr ym 1927, yr unig glwb y tu allan i Loegr i wneud hynny.[1] Llwyddodd hefyd i ennill 32 o gapiau dros Gymru rhwng 1920 a 1932.

Fred Keenor
Ganwyd31 Gorffennaf 1894 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
Bu farwTachwedd 1972 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Galwedigaethpêl-droediwr Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auTunbridge Wells F.C., C.P.D. Dinas Caerdydd, Crewe Alexandra F.C., Oswestry Town F.C., Brentford F.C., Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Safleamddiffynnwr Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata
Fred Keenor
Gwybodaeth Bersonol
Taldra5 tr 7 modf
SafleAmddiffynnwr
Gyrfa Lawn*
BlwyddynTîmYmdd(Gôl)
1912–1931Dinas Caerdydd432(17)
1931–1934Crewe Alexandra123(5)
1934-1935Oswestry Town
1935-1937Tunbridge Wells
Tîm Cenedlaethol
1920–1932Cymru32(2)
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd..
† Ymddangosiadau (Goliau).

Yn 2012 dadorchuddiwyd cofeb iddo tu allan i Stadiwm Dinas Caerdydd.[1]

Bywyd cynnar

golygu

Mab i saer maen oedd Fred Keenor a chafodd ei addusg yn Ysgol Gynradd Stacey Road, Waunadda.[2]

Gyrfa clwb

golygu

Chwaraeodd Keenor yn y gêm ysgolion rhyngwladol cyntaf rhwng Cymru a Lloegr ym 1907 cyn ymuno â Chaerdydd fel chwaraewr amatur ym 1912.[2] Ar ôl troi'n broffesiynol ym mis Tachwedd 1912 cafodd ei gyfle cyntaf gyda thîm cyntaf Caerdydd ym mis Rhagfyr 1913 ond cyn sefydlu ei hun yn y tîm, torrodd y Rhyfel Mawr.[2] Ymunodd Keenor â 17eg Bataliwn Middlesex, bataliwn enwog y pêl-droedwyr a bu'n brwydro ym Mrwydr y Somme lle cafodd anaf cas i'w glun.[3]

Ar ôl gwella o'r anaf, treuliodd Keenor weddill y rhyfel yn Chatham fel Hyfforddwr Ffitrwydd gan chwarae i Gaerdydd yn y Southern League ac i Brentford yn y London Combination.

Ym 1920 ymunodd Caerdydd â'r Gynghrair Bêl-droed gan ennill dyrchafiad o'r Ail Adran i'r Adran Gyntaf yn eu tymor cyntaf. Ym 1925 roedd Keenor yn gapten ar dîm Caerdydd gollodd yn rownd derfynol Cwpan FA Lloegr yn erbyn Sheffield United [4] Ar ôl y golled, dywedodd Keenor "Just because we lost in our very first Cup Final, I don't think there is any cause to get down in the mouth. I can say here and now that one day soon our followers can be sure that Cardiff City will bring that cup to Wales."[5]

Dychwelodd Caerdydd i Stadiwm Wembley ym 1927 ond bu bron i Keenor golli ei awr fawr ar ôl gofyn am drosglwyddiad yn gynharach yn y flwyddyn[6] ond dychwelodd Keenor i'r tîm ar gyfer y rownd derfynol gan arwain Caerdydd i fuddugoliaeth 1-0 dros Arsenal er mwyn cipio'r gwpan.[7]

Parhaodd Keenor gyda Chaerdydd hyd nes 1931 pan symudodd i Crewe Alexandra cyn gorffen ei yrfa gyda Chroesoswallt.

Gyrfa ryngwladol

golygu

Llwyddodd Keenor i ennill 32 o gapiau dros Gymru rhwng 1920 a 1932 gan wneud ei ymddangosiad cyntaf mewn gêm gyfartal 2-2 yn erbyn Gogledd Iwerddon.[8]. Roedd yn aelod o'r tîm lwyddodd i ennill Pencampwriaeth y Pedair Gwlad ym 1920, 1924 a 1928.

Ar 4 Rhagfyr 2009 cafodd y ffordd tuag at Stadiwm Dinas Caerdydd ei enwi yn Ffordd Fred Keenor [9] ac ar 10 Tachwedd 2012 dadorchuddiwyd cofeb o Keenor yn dal Cwpan FA Lloegr tu allan i'r Stadiwm.[10]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1  Dadorchuddio cofeb Fred Keenor tu allan i Stadiwm Dinas Caerdydd. BBC (10 Tachwedd 2012). Adalwyd ar 12 Tachwedd 2012.
  2. 2.0 2.1 2.2 James Leighton (2010). Fred Keenor The Man Who Never Gave Up. dbpublishing. ISBN 9 781859 838280.
  3. "Frederick Charles Keenor | Service Record | Football and the First World War". Football and the First World War.
  4. "1925 FA Cup Final". fa-cupfinals.co.uk.
  5. "1920–1943". Wrexham.gov.uk.
  6. "Keenor 'out of favour' in 1927 FA Cup run up". South Wales Echo.
  7. "The roaring twenties". cardiffcityfc.co.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-03-27. Cyrchwyd 2016-03-16.
  8. "Ireland 2-2 Wales". welshsoccerarchive.co.uk.
  9. "Road to honour Cardiff 1927 FA Cup hero Fred Keenor". BBC News. BBC.
  10. "A tribute to Cardiff City legend Fred Keenor". South Wales Echo.