Geirfa filwrol
A B C Ch D Dd E F Ff G Ng H I J L Ll M N O P Ph R Rh S T Th U W Y |
A
golygu- Aide-de-camp
- Term Ffrangeg sydd yn cyfeirio at gynorthwywr swyddog, neu gadweinydd. Fel arfer, yn y fyddin, byddai swyddog o reng capten yn gwasanaethu cadfridog fel aide-de-camp ar faes y gad.[1]
- AWOL
- Acronym Saesneg sydd yn golygu "absennol heb ganiatâd" (absent without leave).
- Awyrfilwr
- Milwr a hyfforddir i barasiwtio.
- Awyrlu
- Y gangen o'r lluoedd arfog sydd yn ymladd yn yr awyr.
B
golygu- Batmon, batwas
- Yn hanesyddol, milwr neu awyrluyddwr a benodwyd yn was personol i swyddog â chomisiwn yn y Fyddin Brydeinig neu'r Awyrlu Brenhinol.
- Biled
- Llety dros dro ar gyfer milwyr. Yn hanesyddol, trigfan sifilaidd a orchmynnwyd i'w defnyddio i luestu milwyr.
- Blocâd
- Ymgais i dorri cyflenwad bwyd, adnoddau rhyfela, neu gyfathrebu rhag ardal benodol, a hynny gan ddefnyddio grym ar y môr.
- Blocdy
- Mân-amddiffynfa, neu adeilad amddiffynnol syml, fel arfer gydag agennau er mwyn i'w amddiffynwyr saethu at y gelyn o sawl cyfeiriad.
- Byddin
- Y gangen o'r lluoedd arfog sydd yn ymladd ar y tir.
- Byddino
- Trefnu a pharatoi lluoedd milwrol cenedlaethol ar gyfer gwasanaeth milwrol mewn rhyfel.
C
golygu- Caci
- Lliw brown golau gydag arlliw gwyrdd neu felyn a ddefnyddir ar gyfer gwisgoedd y fyddin a chuddliw cerbydau milwrol.
- Cadoediad
- Cytundeb rhwng dwy neu ragor o wledydd neu bleidiau i atal rhyfel.
- Cyfrif cyrff
- Nifer y gelyn a laddwyd mewn brwydr neu gyrch penodol.
- Cyrchfilwr
- Milwr neu fôr-filwr elît neu yn y lluoedd arbennig a hyfforddir mewn tactegau afreolaidd neu herwfilwrol, yn enwedig dwyn cyrchoedd ar y gelyn.
- Cyrchlu
- Uned o gyrchfilwyr.
D
golygu- Difrod ystlysol
- Difrod anfwriadol neu ddamweiniol yw difrod ystlysol. Defnyddir y term yn bennaf fel gair teg am farwolaethau sifiliaid o ganlyniad i weithred milwrol.
- Dragŵn
- Milwr hanesyddol, a frwydrai ar draws Ewrop yn yr 17g a'r 18g, a oedd yn cyfuno sgiliau'r troedfilwr a'r marchfilwr. Ymladdai'r dragŵn fel marchfilwr ysgafn pan yn ymosod, a byddai'n disgyn oddi ar gefn ei geffyl pan yn amddiffyn.
E
golygu- Esielon
- Trefniant tactegol sydd yn gosod milwyr, cerbydau, neu awyrennau mewn rhesi cyfochrog, a phob un res yn hirach na'r rhes o'i blaen.[2]
Ff
golygu- Troedfilwr hanesyddol gyda mwsged ysgafn o'r enw ffiwsil.
- Enw ar droedfilwr mewn catrawd o grenadwyr.
G
golygu- Gorfodaeth filwrol
- Ymrestriad gorfodol ar gyfer gwasanaeth milwrol.
- Grenadwr
- Troedfilwr elît sydd yn taflu grenadau, a oedd yn gyffredin mewn byddinoedd Ewrop yn yr 17g a'r 18g.
- Gwaharddiad hedfan
- Atal awyrennau rhag hedfan dros diriogaeth benodol.
- Gwarchae
- Amgylchynu tref, caer neu amddiffynfa arall gan luoedd milwrol fel ag i rwystro lluniaeth rhag mynd i mewn iddi er mwyn ei darostwng.
- Gwaywr
- Marchfilwr hanesyddol gyda gwaywffon neu bicell hir.
- Gynnwr
- Magnelwr; milwr mewn catrawd magnelau.
- Swyddog gwarant neu uwch-swyddog digomisiwn sydd yn ben ar fagnelfa ar long ryfel.[3]
H
golygu- Hurfilwr
- Milwr proffesiynol sydd yn gwasanaethu mewn llu arfog gwlad estron am gyflog.
- Hwsâr
- Marchfilwr ysgafn a ddefnyddiwyd yn hanesyddol yn Ewrop i sgowtio.
- Hyfforddiant sylfaenol
- Cyfnod o hyfforddiant milwrol ar gyfer recriwtiaid newydd.
M
golygu- Magnel
- Yn hanesyddol, math o gatapwlt a ddefnyddid i hyrddio cerrig yn erbyn muriau castell neu at luoedd y gelyn.
- Gwn mawr; canon.
- Magnelaeth, magnelau
- Enw cyffredin ar gynnau, taflegrau, ac arfau gwrthawyrennol o galibr mawr, yn fwy na'r mân-arfau.
- Y rhan o'r fyddin sydd yn defnyddio'r arfau hyn.
- Magnelwr
- Milwr sydd yn gwasanaethu mewn catrawd magnelau.
- Milwr hanesyddol ar gefn ceffyl.
- Milwr modern sydd yn rhan o gatrawd o danciau, hofrenyddion, neu luoedd rhagchwilio arfogedig eraill.
- Matériel
- Term Ffrangeg sydd yn cyfeirio at gyfarpar, adnoddau, a chyflenwadau milwrol.
- Môr-filwr
- Aelod o lu milwrol sydd yn ymladd ar y tir ac ar y môr.
- Morlu
- Uned o fôr-filwyr.
- Llynges.
Ll
golygu- Llam llyffant
- Tacteg gan droedfilwyr er mwyn symud lluoedd tuag at gyrchfan a amddiffynnir gan y gelyn.
- Llynges
- Y gangen o'r lluoedd arfog sydd yn ymladd ar y môr.
S
golygu- Saethu cyfeillgar
- Gweithred milwrol sydd yn lladd neu anafu milwyr ar yr un ochr â'r milwyr sydd yn saethu, a hynny yn anfwriadol,
T
golygu- Troedfilwr
- Milwr sydd yn gorymdeithio ac sydd yn ymladd ar droed.