Agor y brif ddewislen

Caeredin

prifddinas yr Alban
(Ailgyfeiriad oddi wrth Edinburgh)

Prifddinas yr Alban er 1492 yw Caeredin (Gaeleg: Dùn Èideann;[1] Sgoteg a Saesneg: Edinburgh). Mae hi ar arfordir dwyreiniol y wlad ac ar lan deheuol y Firth o Forth. Yma mae Senedd yr Alban, a gafodd ei hail-sefydlu ym 1999. Gyda phoblogaeth o 495,360 in 2011 (cynnydd o 1.9% ers 2010),[2] dyma'r ddinas fwyaf yn Lothian a saif yng nghanol ardal boblog sy'n cynnwys odeutu 850,000 o drigolion.[3]

Caeredin
EdinburghFromCastle.jpg
Council coat of arms col 72dpi-1.tif
Math Prifddinas Edit this on Wikidata
Poblogaeth 513,210 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 7G Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraeth Frank Ross Edit this on Wikidata
Cylchfa amser UTC±00:00, UTC+01:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Daearyddiaeth
Sir Dinas Caeredin Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Yr Alban Yr Alban
Arwynebedd 259 ±1 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr 47 ±1 metr Edit this on Wikidata
Gerllaw Water of Leith, Afon Almond, Afon Forth, Moryd Forth Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 55.95°N 3.1989°W Edit this on Wikidata
Cod SYG S12000036 Edit this on Wikidata
Cod OS NT275735 Edit this on Wikidata
Cod post EH1-EH13 Edit this on Wikidata
GB-EDH Edit this on Wikidata
Pennaeth y Llywodraeth Frank Ross Edit this on Wikidata
Caeredin yn yr Alban

Mae Dinas Caeredin yn un o awdurdodau unedol yr Alban. Mae'r ddinas yn enwog am Ŵyl Caeredin, ei chastell hond a'r dathliadau Hogmanay.

Mae enw'r ddinas yn dod o'r Frythoneg Din Eidyn, sef Caer Eidyn. Safai un o amddiffynfeydd y Gododdin ar y lle, efallai yn perthyn i'r brenin Clydno Eiddin, yng nghanol y chweched ganrif. Ar ôl ei goresgyn gan y deyrnas Seisnig Bernicia newidiwyd yr enw i Edin-burh, efallai gyda dylanwad enw Edwin, brenin Northumbria. Ond ni lwyddodd yr Eingl-Sacsoniaid i ymsefydlu dim pellach i'r gogledd na Chaeredin, ac erbyn y 10g roedd y Saeson wedi colli gafael ar yr ardal hon i frenhinoedd yr Alban.

Nodweddion hynodGolygu

Dau o nifer o rosod mewn cerigos wedi eu gosod ar wyneb Rose Street, Caeredin yn adlewyrchu daeareg yr ardal. (Llun: Duncan Brown 16/10/2010)

 
Rhosod cerigos, Rose Street, Caeredin, wedi eu seilio ar ddaeareg yr Alban, 2010

Dyma’r cenadwri a gafodd y daearegydd Ray Roberts gan ei gydweithwyr yn yr Alban am rosod Rose Street, Caeredin (Bwletin 34):

Mike Browne came up with information from a web site."There are eight large pebble mosaics by Maggy Howarth. As well as foot traffic, they were designed to withstand the weight of delivery vans and service vehicles. The mosaics are around 2 metres across and each one is a different variation on the rose design. I found this on a web page trying “mosaic roses" : ‘mosaicists will know the difficulties of hand collecting legally in the UK, not to mention the backache. Cobblestone Designs has been importing stones from the Far East, China and India for several years, primarily for our own use’. So it looks as if the stone came from much further east than Eastern Scotland.[4]

HanesGolygu

Mae Prince's Street Gardens yn ffordd fawr trwy ganol y ddinas. I'r de i'r ffordd hon mae Castell Caeredin a adeiladwyd uwchben craig clogwyn basalt, sydd yn hen losgfynydd, a'r Hen Dref (Old Town). I'r gogledd i'r ffordd mae Princes Street a'r Dref Newydd (New Town). Dechreuwyd adeiladu Princes Street Gardens ym 1816 ar safle gwern o'r enw Nor Loch a oedd yn llyn cyn hynny.

Roedd safle'r castell yn gaer naturiol, ac mae'r lle wedi cael ei ddefnyddio ers diwedd Oes yr Efydd (tua 850 CC).

Yn ôl adroddiadau Rhufeinig o'r ganrif 1af, roedd gan llwyth y Votadini (Gododdin yr Hen Ogledd) eu canolfan yno ac mae cerdd arwrol o'r enw 'Y Gododdin' (tua 600), a briodolir o'r bardd Aneirin, yn sôn am ryfelwyr yn gwledda yn Neuadd Fawr Din Eidin (Caeredin), wedi cael eu gwahodd yno gan y brenin Mynyddog Mwynfawr.

Hyd heddiw, mae llawer o strydoedd canoloesol a hen adeiladau yn yr Hen Dref. Mae yna lu o strydoedd cul o'r enw close neu wynd a sgwarau i gynnal marchnadoedd. Yn ystod y 1700au roedd tua 80,000 o bobl yn byw yn yr Hen Dref gyda wal cryf o'i chwmpas, ond does dim ond 4,000 yn byw yno heddiw. Dinistriwyd y rhan fwyaf o'r Hen Dref a'i hadeiladau uchel gan dân ym 1824. Bu tân mawr arall ar 7 Rhagfyr, 2002, a ddinistriodd ardal Cowgate o'r Hen Dref, gan gynnwys Llyfrgell AI a rhai o adeiladau eraill Prifysgol Caeredin.

Dechreuwyd adeiladu'r Ddinas Newydd yn ystod y ddeunawfed ganrif ac mae hi'n enghraifft dda iawn o gynllun tref a phensaernïaeth Sioraidd.

Adeiladau a chofadeiladauGolygu

EnwogionGolygu

GefeilldrefiGolygu

CyfeiriadauGolygu

  1. Gwefan Ainmean-Àite na h-Alba; adalwyd 3 Hydref 2019
  2. "City of Edinburgh factsheet" (PDF). gro-scotland.gov.uk. Cyrchwyd 27 Chwefror 2013.
  3. "Population and living conditions in Urban Audit cities, larger urban zone (LUZ)". Cyrchwyd 24 Mawrth 2013.
  4. Bwletin Llên Natur rhifyn 35

Gweler hefydGolygu