Mae Global Witness yn gorff anllywodraethol rhyngwladol a sefydlwyd ym 1993 ac sy’n gweithio i dorri’r cysylltiadau rhwng ecsbloetio adnoddau naturiol, gwrthdaro, tlodi, llygredd, a cham- drin hawliau dynol ledled y byd. Mae gan y sefydliad swyddfeydd yn Llundain a Washington.

Global Witness
Enghraifft o'r canlynolsefydliad anllywodraethol Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1993 Edit this on Wikidata
SylfaenyddPatrick Alley, Charmian Gooch, Simon Taylor Edit this on Wikidata
PencadlysLlundain Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.globalwitness.org Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Dywed Global Witness nad oes ganddo unrhyw gysylltiad gwleidyddol. Mike Davis yw Prif Swyddog Gweithredol y sefydliad ers 2020.[1][2]

Proffil golygu

Dywed Global Witness mai ei nodau yw datguddio'r camfanteisio llwgr o adnoddau naturiol ac ecsploitio systemau masnach rhyngwladol, drwy yrru ymgyrchoedd sy'n rhoi terfyn ar wrthdaro sy'n gysylltiedig ag adnoddau, a cham-drin hawliau dynol a'r amgylchedd.[3] Mae'r sefydliad hefyd yn archwilio sut y gall diemwntau ac adnoddau naturiol gwerthfawr eraill ariannu gwrthdaro a llwgrwobrwyo. Mae'n cynnal ymchwiliadau i gyfranogiad unigolion ac endidau busnes penodol mewn gweithgareddau megis ecsbloetio coedwigoedd yn anghyfreithlon ac a llygredd mewn diwydiannau olew, nwy a mwyngloddio.[4]

Mae methodoleg Global Witness yn cyfuno ymchwil, cyhoeddi adroddiadau a chynnal ymgyrchoedd eiriolaeth. Dosberthir adroddiadau i lywodraethau, sefydliadau rhynglywodraethol, cymdeithas sifil a'r cyfryngau. Bwriad hyn yw llunio polisi byd-eang a newid meddwl rhyngwladol am echdynnu a masnachu adnoddau naturiol a'r effeithiau y gall ecsbloetio llwgr ac anghynaliadwy eu cael ar ddatblygiad, hawliau dynol a sefydlogrwydd Daer-wleidyddol ac economaidd.[5]

Prosiectau golygu

Yn y gorffennol, mae Global Witness wedi gweithio ar ddiemwntau, olew, pren, coco, nwy, aur a mwynau eraill. Mae wedi cynnal ymchwiliadau ac astudiaethau achos yn Cambodia, Angola, Liberia, Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo, Gini Cyhydeddol, Casachstan, Myanmar, Indonesia, Simbabwe, Tyrcmenistan a'r Arfordir Ifori. Mae hefyd wedi helpu i sefydlu mentrau rhyngwladol megis Menter Tryloywder Diwydiannau Echdynnol,[6][7] Proses Kimberley,[8][9] a'r glymblaid Cyhoeddi'r Hyn a Dalwch (Publish What You Pay).[10] (Tynnodd Global Witness yn ôl o Broses Kimberley yn 2011, gan ddweud nad yw’n gweithio mwyach.[11] )

Roedd ymgyrch gyntaf y sefydliad yn ymwneud â gwaith yn erbyn masnachu pren anghyfreithlon rhwng Cambodia a Gwlad Thai a oedd yn ariannu herwfilwyr y Khmer Rouge.[12]

Mae Global Witness yn dadlau fod llawer dros y blynyddoedd wedi manteisio ar adnoddau naturiol i ariannu byddinoedd a milisia sy'n llofruddio, treisio, ac yn cam-drin hawliau dynol eraill yn erbyn sifiliaid. Mae'n dweud y "gall adnoddau naturiol o bosibl gael eu defnyddio i drafod a chynnal heddwch"[13] ac y "gallai fod yn allweddol i ddod â thlodi Affrica i ben".[3]

Incwm golygu

Daw mwyafrif cyllid Global Witness o grantiau a wneir gan sefydliadau, llywodraethau ac elusennau.[14] Un o'u prif gymwynaswyr yw'r Sefydliad Cymdeithas Agored, (Open Society Institute) sydd hefyd yn ariannu Human Rights Watch.[15] Mae Global Witness hefyd yn derbyn arian gan lywodraethau Norwy a gwledydd Prydain, Sefydliad Adessium,[16] ac Oxfam Novib.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Meet our CEO Mike Davis". www.globalwitness.org. Cyrchwyd 3 October 2020.
  2. "The Oil Heist of the Century - Skoll World Forum ... 'Chaired by: Mike Davis – CEO, Global Witness'". www.youtube.com. 21 April 2020. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-09-28. Cyrchwyd 3 October 2020.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
  3. 3.0 3.1 Mark Boulton Design. "Global Witness about_us". globalwitness.org. Cyrchwyd 17 September 2020.
  4. "Global Witness quits Kimberley Process as Zimbabwe 'blood diamonds' exported". theecologist.org (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-10-18.
  5. Mark Boulton Design. "Global Witness- Home page". globalwitness.org. Cyrchwyd 17 September 2020.
  6. "Stakeholders". eiti.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-06-24. Cyrchwyd 2015-06-24.
  7. "EITI Blog: The first session". eiti.org. 3 March 2011. Cyrchwyd 4 October 2020.
  8. Cauvin, Henri E. (30 Nov 2001). "Plan Backed to End Diamond Trade That Fuels War". The New York Times. Cyrchwyd 12 January 2020. This week's final round of talks, here in the capital of this peaceful mining country, were the culmination of negotiations that began in May 2000 in Kimberley, South Africa, and have come to be called the Kimberley Process.
  9. "Working Groups (kimberleyprocess.com, Dec 2009)". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-12-16. Cyrchwyd 2020-01-12. The Kimberley Process (KP) unites administrations, civil societies, and industry in reducing the flow of conflict diamonds - ‘rough diamonds used to finance wars against governments’ - around the world.
  10. "Who we are". Publish What You Pay. Cyrchwyd 12 January 2020. With more than 700 member organisations and 50 national coalitions, we campaign for an open and accountable extractive sector.
  11. Eligon, John (5 December 2011). "Global Witness Quits Group on 'Blood Diamonds'". NY Times. Cyrchwyd 12 January 2020.
  12. "Our History". globalwitness.org. September 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-09-02. Cyrchwyd 2012-10-08.
  13. "GlobalWitness Annual Review 2009" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2010-09-02. Cyrchwyd 2010-09-28.
  14. "Our supporters". globalwitness.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-09-02.
  15. "Open Society Foundations". soros.org. Cyrchwyd 18 September 2020.
  16. "Adessium". adessium.org. Cyrchwyd 18 September 2020.