Grenville Morris
Roedd Arthur Grenville Morris (13 Ebrill 1877 - 27 Tachwedd 1959) yn chwaraewr pêl droed rhyngwladol Cymreig a enillodd 21 cap rhyngwladol i Gymru. Ef yw'r sgoriwr gyda'r nifer o goliau a sgoriwyd erioed ar gyfer Nottingham Forest gyda 217 o goliau. Chwaraeodd hefyd ar gyfer tîm Swindon Town.
Grenville Morris | |
---|---|
Ganwyd | 13 Ebrill 1877 Llanfair-ym-Muallt |
Bu farw | 27 Tachwedd 1959 West Bridgford |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Galwedigaeth | pêl-droediwr, rheolwr pêl-droed |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Swindon Town F.C., C.P.D. Tref Aberystwyth, Nottingham Forest F.C., Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru |
Safle | blaenwr |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Gyrfa Lawn* | |||
---|---|---|---|
Blwyddyn | Tîm | Ymdd† | (Gôl)† |
Llanfair-ym-Muallt | |||
–1897 | Tref Aberystwyth | ||
1897–1898 | Swindon Town | 47 | (43) |
1898–1913 | Nottingham Forest | 421 | (199) |
Tîm Cenedlaethol | |||
1896–1912 | Cymru | 21 | (9) |
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd.. † Ymddangosiadau (Goliau). |
Cefndir
golyguGanwyd Morris yn Llanfair-ym-muallt yn fab i Philip S Morris, fferyllydd a Jane ei wraig.
Cafodd rhywfaint o addysg yn Ellesmere College, Swydd Amwythig rhwng Ma1 1892 a Rhagfyr 1893.
Ym 1902 priododd Hariet Marian (Minnie) Scrimgeour (1880 - 1950) yn Nottingham,[1] bu iddynt un ferch. Roedd Mrs Morris hefyd yn amlwg yn y byd chwaraeon. Yn chwarae golff a thenis, bu'n capten ar dîm tenis merched swydd Nottingham am gyfnod o bum mlynedd [2]
Gyrfa clwb
golyguAberystwyth a Swindon Town
golyguCychwynnodd ei yrfa pêl-droed yn chware i dîm Aberystwyth, yno llwyddo i sgorio dros 100 o goliau mewn dim ond 75 o gemau. Symudodd o Aberystwyth i Swindon Town yn gynnar ym 1897, wedi ei lofnodi fel chwaraewr amatur. Gwnaeth ei ymddangosiad gyntaf mewn gem a enillwyd 4-0 oddi gartref yn Northfleet ar 6 Chwefror, 1897. Aeth ymlaen i chwarae 50 gêm i Swindon gan sgorio 44 o goliau i'r clwb. Cafodd cytundeb proffesiynol gan y clwb ym mis Hydref 1897. Roedd yn un o chwaraewyr gorau ei genhedlaeth ac fe'i gelwid yn dywysog y mewnwyr.[3]
Nottingham Forest
golyguCafodd Morris ei drosglwyddo i Nottingham Forest ym 1898 [4] am swm o £200, arian mawr ar y pryd, bron cymaint o arian ag oedd Swindon yn casglu wrth y giât mewn tymor lawn.[3] Roedd Forest newydd ennill Cwpan Lloegr ac yn benderfynol o droi'n dîm o bwys yn Lloegr a herio Notts County i ddyfod yn brif dîm y fro. Roedd y tîm newydd symud i faes newydd ar lannau'r Afon Trent ac yn fodlon talu swm "hurt o uchel" i gaffael chwaraewr byddai'n helpu'r clwb i wneud ei farc.
Chwaraeodd 457 gêm dros Forest yn gwisgo'r crys rhif 10 dros gyfnod o 15 mlynedd, gan wasanaethu fel capten y tîm am 5 mlynedd. Sgoriodd 199 o goliau cynghrair i Forest a 217 dros bob cystadleuaeth. Mae ei record fel sgoriwr gorau Forest yn parhau i sefyll hyd heddiw [5]. Mewn saith o'r deg tymor bu'n chwarae efo'r tîm ef oedd y sgoriwr uchaf. Sgoriodd ddwywaith ym muddugoliaeth fwyaf erioed y clwb pan gurwyd tîm Leicester Fosse 12-0 ym 1909 mewn gêm dyngedfennol i osgoi darostyngiad i'r ail adran.[6]
Gyrfa ryngwladol
golyguEnillodd ei gap lawn Gymreig gyntaf yn 18 oed ym 1896 mewn gêm yn erbyn yr Iwerddon yn y Cae Ras, Wrecsam [7]. Enillodd Cymru 6 - 0 gyda Morris yn sgorio'r bedwaredd gôl trwy beniad.[8] Roedd ei ail ymddangosiad yn erbyn Lloegr yn y gêm bêl droed cyntaf i'w chware ar Barc yr Arfau [9] yn drychineb i Gymru gyda'r ymwelwyr yn ennill o 9 gôl i 1.[10] Aeth ymlaen i chwarae 21 gwaith dros ei wlad.
Daeth ei gap Cymreig olaf ar 11 Mawrth 1912 yn erbyn Lloegr. Sgoriodd gyfanswm o naw gôl mewn pêl-droed rhyngwladol.
Ystadegau
golyguClwb
golyguClwb | Tymor | Cynghrair | Cwpan Lloegr | Cyfanswm | ||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cyngrhair | Ymddangos | Gôl | Ymddangos | Gôl | Ymddangos | Gôl | ||
Swindon Town[11] | 1896-97 | Cynghrair Pêl-droed De Lloegr | 4 | 2 | 0 | 0 | 4 | 2 |
1897-98 | Cynghrair Pêl-droed De Lloegr | 18 | 12 | 3 | 1 | 21 | 13 | |
1898-99 | Cynghrair Pêl-droed De Lloegr | 9 | 9 | 0 | 0 | 9 | 9 | |
Cyfanswm | 31 | 23 | 3 | 1 | 34 | 24 | ||
Nottingham Forest[12] | 1898–99 | Adran Gyntaf Y Gynghrair Bêl-droed | 17 | 7 | 3 | 0 | 19 | 7 |
1899–00 | Adran Gyntaf | 29 | 8 | 6 | 3 | 35 | 11 | |
1900–01 | Adran Gyntaf | 31 | 14 | 3 | 1 | 34 | 15 | |
1901–02 | Adran Gyntaf | 27 | 7 | 3 | 2 | 30 | 9 | |
1902–03 | Adran Gyntaf | 33 | 24 | 4 | 2 | 37 | 26 | |
1903–04 | Adran Gyntaf | 24 | 12 | 3 | 2 | 27 | 14 | |
1904–05 | Adran Gyntaf | 26 | 12 | 2 | 1 | 43 | 13 | |
1905–06 | Adran Gyntaf | 32 | 19 | 4 | 3 | 36 | 22 | |
1906–07 | Ail Adran | 36 | 21 | 2 | 1 | 38 | 22 | |
1907–08 | Adran Gyntaf | 23 | 7 | 1 | 0 | 25 | 7 | |
1908–09 | Adran Gyntaf | 34 | 12 | 3 | 0 | 37 | 12 | |
1909–10 | Adran Gyntaf | 30 | 19 | 1 | 1 | 31 | 20 | |
1910–11 | Adran Gyntaf | 26 | 11 | 1 | 1 | 44 | 12 | |
1911–12 | Ail Adran | 19 | 10 | 1 | 0 | 20 | 10 | |
1912–13 | Ail Adran | 34 | 16 | 1 | 1 | 35 | 17 | |
Cyfanswm | 421 | 199 | 38 | 18 | 459 | 217 | ||
Cyfanswm gyrfa | 452 | 222 | 41 | 19 | 493 | 241 |
Rhyngwladol
golyguCymru[13] | ||
---|---|---|
Blwyddyn | Chwaraewyd | Goliau |
1896 | 3 | 1 |
1897 | 1 | 0 |
1898 | 1 | 0 |
1899 | 2 | 0 |
1903 | 2 | 0 |
1905 | 2 | 2 |
1907 | 2 | 1 |
1908 | 1 | 0 |
1910 | 3 | 2 |
1911 | 3 | 3 |
1912 | 1 | 0 |
Total | 21 | 9 |
Tu allan i bêl droed
golyguWrth chware fel amatur yn Aberystwyth a Swindon bu Morris yn ennill ei damaid trwy weithio fel peiriannydd trydanol.[14]. Wedi priodi prynodd iard gwerthu a chludo glo yn Nottingham [15].
Yn ogystal â chware pêl-droed roedd Morris yn cael ei ystyried yn chwaraewr tenis penigamp, ac yn un o obeithion mawr Gymru i ragori yn Wimbeldon. Wedi troi yn chwaraewr proffesiynol trwy dderbyn tâl am chware pêl-droed roedd yn rhaid iddo roi'r gorau i denis a oedd yn cael ei hystyried yn gamp amatur ar y pryd. Ond parhaodd i fod yn hyfforddwr tenis hyd at doriad yr Ail Ryfel Byd [16]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "LOCAL WEDDING - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1902-01-30. Cyrchwyd 2018-11-11.
- ↑ Nottingham Evening Post 17 Mai 1950 Late Mrs Morris of West Bridgeford
- ↑ 3.0 3.1 Swindon Advertiser 7th Chwefror 2012 Grenville was footballing royalty adalwyd 11 Tachwedd 2018
- ↑ "FOOTBALL - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1898-12-03. Cyrchwyd 2018-11-11.
- ↑ Me Owd Duck remembers our top scorer - Forest History adalwyd 11 Tachwedd 2018
- ↑ Nottingham Post Nottingham Forest's 50 all-time best players adalwyd 11 Tachwedd 2018
- ↑ "Football - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1896-02-20. Cyrchwyd 2018-11-11.
- ↑ "FOOTBALL - The Aberystwith Observer". David Jenkins. 1896-03-05. Cyrchwyd 2018-11-11.
- ↑ "InternationalFootball - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1896-03-16. Cyrchwyd 2018-11-11.
- ↑ Archif pêl-droed Cymru Ystadegau Cymru v Lloeggr 1896 adalwyd 11 Tachwedd 2018
- ↑ Swindon Town FC Grenville MORRIS adalwyd 11 Tachwedd 2018
- ↑ English National Football Archive (angen tanysgrifiad)
- ↑ National Footbal Teams - Morris, Grenville adalwyd 11 Tachwedd 2018
- ↑ Yr Archif Genedlaethol; Kew Llundain. Cyfrifiad 1901 ar gyfer 9 Strafford Terrace, Nottingham. Cyfeirnod RG13/3186 Ffolio 58, Tudalen 22
- ↑ Nottingham Journal 21 Ionawr 1905 tud. 4
- ↑ Yr Archif Genedlaethol; Kew, Llundain. Cofrestr poblogaeth 1939; Cyfeirnod: RG 101/6245G