Llanarmon Dyffryn Ceiriog
Pentref yng nghymuned Ceiriog Uchaf, Bwrdeistref Sirol Wrecsam, yw Llanarmon Dyffryn Ceiriog.[1][2] Saif ar lan Afon Ceiriog, ar ddiwedd ffordd y B4500, 5 milltir (8 km) i'r de-orllewin o Lyn Ceiriog a 10 milltir (16 km) i'r gogledd-ddwyrain o Groesoswallt.
Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Wrecsam |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.8862°N 3.2493°W |
Cod OS | SJ159328 |
Cod post | LL20 |
AS/au y DU | Andrew Ranger (Llafur) |
Statws treftadaeth | Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
- Gweler hefyd Ceiriog (gwahaniaethu).
Saif dwy ywen nodedig ychydig fetrau o ddrws Eglwys Sant Garmon, sy'n enghreifftiau prin o bâr o yw; yn 1998 mesurwyd o gwmpas gwaelod y coed ac roedd yr ywen ar y chwith (wrth edrych ar yr eglwys) yn 25 troedfedd a'i phartner gwrywaidd ar y dde dros yn 25 troedfedd a hanner.[3]
Daearyddiaeth a gweinyddiaeth
golyguHanes Dinesig
golyguO ganol yr 16g tan 1974, llywodraethwyd Llanarmon Dyffryn Ceiriog gan sir weinyddol Dinbych. O 1895 tan 1935, roedd Llanarmon Dyffryn Ceiriog yn rhan o ardal wledig Llansilin, a gyfunwyd yn 1935 gydag ardal wledig Y Waun i greu ardal wledig Y Waun. Arhosodd Llanarmon Dyffryn Ceiriog yn rhan o ardal gwledig Y Waun o 1935 tan 1974.
Yn 1974, cafwyd wared ar yr hen Sir Ddinbych fel sir weinyddol, a cafodd Llanarmon Dyffryn Ceiriog ei gynnwys o fewn ardal Glyndŵr yn sir newydd Clwyd. Newidiwyd y trefn eto yn 1996, pan gafwyd wared o Glwyd ac Ardal Glyn Dŵr, daeth Llanarmon Dyffryn Ceiriog yn rhan o fwrdeistref sirol Wrecsam, fel yma mae hi heddiw fyth.
Cynyrchiolaeth gwleidyddol
golyguGweinyddir Llanarmon Dyffryn Ceiriog o fewn bwrdeistref sirol Wrecsam, awdurdod unedol a grewyd yn 1996. Mae Llanarmon Dyffryn Ceiriog yn etholaeth Dyffryn Ceiriog, ac mae genddi Gynghorwr annibynnol.
Enwogion
golyguGaned y bardd nodweddiadol, John Ceiriog Hughes yn fferm Pen-y-Bryn, Llanarmon Dyffryn Ceiriog yn 1832, a treuliodd ei blentyndod yno.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
- ↑ British Place Names; adalwyd 9 Gorffennaf 2022
- ↑ Gwefan www.ancient-yew.org; Archifwyd 2016-03-04 yn y Peiriant Wayback adalwyd 26 Hydref 2014
Trefi
Y Waun · Wrecsam
Pentrefi
Acrefair · Bangor-is-y-coed · Y Bers · Bronington · Brymbo · Brynhyfryd · Bwlchgwyn · Caego · Cefn Mawr · Coedpoeth · Erbistog · Froncysyllte · Garth · Glanrafon · Glyn Ceiriog · Gresffordd · Gwersyllt · Hanmer · Holt · Llai · Llanarmon Dyffryn Ceiriog · Llannerch Banna · Llan-y-pwll · Llechrydau · Llys Bedydd · Marchwiail · Marford · Y Mwynglawdd · Yr Orsedd · Owrtyn · Y Pandy · Pentre Bychan · Pentredŵr · Pen-y-bryn · Pen-y-cae · Ponciau · Pontfadog · Rhiwabon · Rhos-ddu · Rhosllannerchrugog · Rhostyllen · Rhosymedre · Talwrn Green · Trefor · Tregeiriog · Tre Ioan · Wrddymbre