Y Pandy, Wrecsam
Pentref yng nghymuned Llansantffraid Glyn Ceiriog, Sir Wrecsam, Cymru, yw Y Pandy (hefyd Pandy; Saesneg: The Pandy). Fe'i lleolir yng ngogledd-ddwyrain y sir, 1 filltir i'r dwyrain o Wersyllt ar Afon Alun, ger Gresffordd. Ceir dwy stad ddiwydiannol fechan yn y pentref.
Math | pentref ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Wrecsam |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 53.0722°N 2.9933°W ![]() |
![]() | |
- Am leoedd eraill o'r un enw, gweler Pandy (gwahaniaethu).
Mae olion hen felin dŵr ar lan yr afon o hyd, dyma'r lle oedd y merched yn pannu, ac ar y bryn yma bydd safle canolfan sgio llethr sych Cymru, ar y tip glo enfawr. Gohirwyd y cynllun mwy nag unwaith yn ddiweddar. Mae cylchfan i'r ffordd osgoi Wrecsam-Caer yn wneud y lle yn addas i ddatblygiad o'r fath. Mae cynllun arall i agor mynwent newydd i Wrecsam ar ochr gogleddol y pentref.
Y pentrefi agosaf yw Llai i'r gogledd, a Gresffordd i'r gorllewin. Mae'r Pandy yn rhan o Gymuned Gwersyllt.
Yng nghanol y pentref mae safle Glofa Gresffordd, sy'n enwog am y drychineb a ddigwyddodd ar 22 Medi 1934. Cafodd 265 o bobl eu lladd wedi ffrwydrad nwy. Mae hi'n un o'r trychinebau pyllau glo mwyaf yn hanes Prydain. Cauwyd y pwll yn Nhachwedd 1973 a datblygwyd rhan o'r safle. Er gwaethaf enwocrwydd y Ddrychineb roedd rhaid aros tan 1982 i gael cofeb deilwng yn defnyddio olwyn o'r gêr weindio. Ers 1998 mae stad o dai newydd ar safle y siediau glo, ceiswyd newid enw'r pentref i Gresford Heath gan y datblygwyr (am fod prisiau tai yn uwch yng Ngresffordd ac i Seisnigo ar yr enw). Mae cofeb i'r rhai bu farw yn Nrychineb Gresffordd yn Y Pandy o flaen Clwb y Glowyr.
Dolenni allanolGolygu
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
- Pwll Glo Gresffordd (CBSW)
- Llyfr Coffadwriaeth Gresffordd Ar-Lein (CBSW)
Trefi
Y Waun ·
Wrecsam
Pentrefi
Acrefair ·
Bangor-is-y-coed ·
Y Bers ·
Bronington ·
Brymbo ·
Brynhyfryd ·
Bwlchgwyn ·
Caego ·
Cefn Mawr ·
Coedpoeth ·
Erbistog ·
Froncysyllte ·
Garth ·
Glanrafon ·
Glyn Ceiriog ·
Gresffordd ·
Gwersyllt ·
Hanmer ·
Holt ·
Llai ·
Llanarmon Dyffryn Ceiriog ·
Llannerch Banna ·
Llan-y-pwll ·
Llechrydau ·
Llys Bedydd ·
Marchwiail ·
Marford ·
Y Mwynglawdd ·
Yr Orsedd ·
Owrtyn ·
Y Pandy ·
Pentre Bychan ·
Pentredŵr ·
Pen-y-bryn ·
Pen-y-cae ·
Ponciau ·
Pontfadog ·
Rhiwabon ·
Rhosddu ·
Rhosllannerchrugog ·
Rhostyllen ·
Rhosymedre ·
Talwrn Green ·
Trefor ·
Tregeiriog ·
Tre Ioan ·
Wrddymbre