Gwatwarwr aeliog

rhywogaeth o adar
Gwatwarwr aeliog
Mimus saturninus

,

Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Passeriformes
Teulu: Mimidae
Genws: Mimus[*]
Rhywogaeth: Mimus saturninus
Enw deuenwol
Mimus saturninus
Dosbarthiad y rhywogaeth

Aderyn a rhywogaeth o adar yw Gwatwarwr aeliog (sy'n enw gwrywaidd; enw lluosog: gwatwarwyr aeliog) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Mimus saturninus; yr enw Saesneg arno yw Chalk-browed mockingbird. Mae'n perthyn i deulu'r Gwatwarwyr (Lladin: Mimidae) sydd yn urdd y Passeriformes.[1]

Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn M. saturninus, sef enw'r rhywogaeth.[2] Mae'r rhywogaeth hon i'w chanfod yn Ne America.

Mae'r gwatwarwr aeliog yn perthyn i deulu'r Gwatwarwyr (Lladin: Mimidae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:

Rhestr Wicidata:

rhywogaeth enw tacson delwedd
Cathaderyn du Melanoptila glabrirostris
 
Cathaderyn llwyd Dumetella carolinensis
 
Crynwr brown Cinclocerthia ruficauda
 
Gwatwarwr cefnwinau Mimus dorsalis
 
Gwatwarwr glas Melanotis caerulescens
 
Gwatwarwr y Gogledd Mimus polyglottos
 
Gwatwarwr y paith Mimus patagonicus
 
Tresglen Cozumel Toxostoma guttatum
 
Tresglen Sorocco Mimus graysoni
 
Tresglen grymbig Toxostoma curvirostre
 
Tresglen gynffonhir Toxostoma rufum
 
Tresglen hirbig Toxostoma longirostre
 
Tresglen saets Oreoscoptes montanus
 
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Gwatwarwyr Y Wladfa

golygu

Yr adar mwyaf cyffredin ac eang eu dosbarthiad yn Nyffryn Camwy yw aelodau o deulu’r gwatwarwyr (Mimidae). Fe’u gwelir ar lwyni’r paith, ar dir amaethyddol, yn y trefi a phentrefi, ac maent yn adar bywiog a chwilfrydig. Mae yna 34 aelod yn nheulu’r Mimidae, i gyd yn byw yn ne a gogledd America, 5 rhywogaeth yn yr Ariannin a 3 o’r rhain yn Nyffryn Camwy.[3]

Adnabod

golygu

Adar main ydynt, yr un maint a mwyalchen neu fronfraith yng Nghymru, ond â chynffon hirach. Cefnau llwyd-frown, boliau golau, a llinell wen uwchben y llygad. Ceir rhywfaint o wyn ar y gynffon a’r adenydd a bydd yr amrywiaeth ym mhatrwm y gwyn, ynghyd â maint yr aderyn a dwyster y llinell wen uwch y llygad yn fodd i wahaniaethu rhwng y rhywogaethau welir yn y Dyffryn.[4]

Ymddygiad

golygu

Ystyr yr enw Mimidae yw gwatwarwyr neu ddynwaredwyr – rhain yw mocking birds yr UD am eu bod yn dynwared caneuon adar eraill i ychwanegu at eu repertoire cyfoethog eu hunain. Dyma strategaeth welir hefyd ymysg teuluoedd eraill o adar ar draws y byd, a thybir mai y rheswm am hynny yw bod yr iâr yn debycach o ddewis cymar gyda’r amrywiaeth fwyaf yn ei gân. Bydd hynny’n arwydd o geiliog profiadol a llwyddiannus; goroeswr sy’n gwybod be ydi be ac wedi cael amser i gyfoethogi ei gân. Bydd yn debycach felly o wneud job dda o fagu’r cywion.[5]

Y gwatwarwyr yw’r enw safonol Cymraeg ar y mathau welir yn Nyffryn Camwy, a’r ddau mwyaf cyffredin yw y gwatwarwr aeliog (Mimus saturninus) sydd i’w weld amlaf o fewn ac o gwmpas tref y Gaiman, a gwatwarwr y paith (Mimus patagonicus) sydd fwyaf cyffredin ar y paith. Enwau Sbaenaidd y gwatwarwr yw calandria, ond mae enw Cymraeg gan Gymry Patagonia, sef y cantor. Enw addas iawn o ystyried cyfoeth ei gân. Mae’n debyg mai yr un aeliog fyddai’n ennill o ryw ychydig pe cynhelid Eisteddfod yr adar, a dywedir ei fod yn aml yn dynwared chwiban ddynol. Bum yn chwibannu nodau amrywiol ar rai ohonynt sawl gwaith, a’r deryn yr ymateb drwy ddistewi, dod yn nes, a gwrando’n astud â’i ben wedi gwyro ychydig i un ochr. Ond wnaeth yr un fy nynwared. E’lla y byddai gwell siawns o hynny yn y tymor nythu, oedd rai misoedd i ffwrdd, neu fy mod yn chwibanwr gwael iawn, pwy a ŵyr?[6]

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. [https://web.archive.org/web/20040610130433/http://www.cymdeithasedwardllwyd.org.uk/ Archifwyd 2004-06-10 yn y Peiriant Wayback Gwefan Cymdeithas Edward Llwyd]; adalwyd 30 Medi 2016.
  2. Gwefan Avibase; adalwyd 3 Hydref 2016.
  3. Twm Elias ym Mwletin Llên Natur Glas rhifyn 173
  4. Twm Elias ym Mwletin Llên Natur Glas rhifyn 173
  5. Twm Elias ym Mwletin Llên Natur Glas rhifyn 173
  6. Twm Elias ym Mwletin Llên Natur Glas rhifyn 173
  Safonwyd yr enw Gwatwarwr aeliog gan un o brosiectau  . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.