Gwilym Tilsley
Bardd o Gymru oedd Gwilym Richard Tilsley (enw barddol: Tilsli; 26 Mai 1911 – 30 Awst 1997). Fe'i ganed yn Nhŷ-llwyd, ger Llanidloes, Powys. Roedd yn archdderwydd yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru o 1969 i 1972.
Gwilym Tilsley | |
---|---|
Ganwyd | 1911 Llanidloes |
Bu farw | 1997 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | bardd, gweinidog yr Efengyl |
Bywgraffiad
golyguBu'n ddisgybl yn ysgol gynradd Manledd ac ysgol uwchradd sir Llanidloes. Yna ymunodd â Phrifysgol Aberystwyth a Wesley House, Caergrawnt.
Priododd ag Anne Eluned Jones (1908–2003) ym 1945. Ganwyd mab iddynt, Gareth Maldwyn Tilsley, ym 1946.
Gweinidog
golyguFel gweinidog Methodist, gwasanaethodd yng Nghomins Coch ger Machynlleth (1939 i 1942), Pontrhydygroes yng Ngheredigion (1942 i 1945), Aberdâr (1945 i 1950), Bae Colwyn (1950 i 1955), Llanrwst (1955 i 1960), Caernarfon (1960 i 1965), y Rhyl (1965 i 1970) a Wrecsam (1970 i 1975) cyn ymddeol i Brestatyn.
Bardd
golyguNodweddir gwaith barddonol Tilsli gan serch a chydymdeimlad diffuant â gweithwyr diwydiannol Cymru, ffrwyth ei gyfnodau fel gweinidog ym maes glo De Cymru ac ardaloedd llechi'r gogledd. Enillodd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Caerffili, 1950 gyda'r awdl rymus 'Moliant i'r Glöwr'. Enillodd y Gadair am yr ail waith yn 1957 gyda'r awdl 'Cwm Carnedd', seiliedig ar fywyd chwarelwyr Gogledd Cymru.
Ysgrifennodd nifer o eiriau emynau Cymraeg, yn cynnwys "Am ffydd, nefol dad, y deisyfwn".[1]
Cyhoeddwyd ei gerddi yn y gyfrol Y Glöwr a cherddi eraill (1958).