Gwlad (plaid wleidyddol)

Plaid wleidyddol genedlaetholgar yng Nghymru yw Gwlad.[2] Fe’i lansiwyd yn ystod haf 2018 fel Ein Gwlad[3][4] a fe'i adwaenir hefyd fel Gwlad Gwlad cyn mabwysiadu'r enw cyfredol yn 2020. Sefydlwyd y blaid gan yr arweinydd presennol Gwyn Wigley Evans.[2][5]

Gwlad
ArweinyddGwyn Wigley Evans
SefydlwydAwst 2018
PencadlysBenglog
Llanddeiniol
Llanrhystud
Ceredigion
SY23 5AW
ASau
0 / 40
Senedd Cymru
0 / 60
Llywodraeth leol yng Nghymru
0 / 1,253
Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu
0 / 4
Cyngor Gwledig Llanelli
1 / 20
[1]
Gwefan
https://gwlad.org/

Disgrifia'r blaid ei hun fel corff sydd o blaid annibyniaeth i Gymru, o blaid Brexit a chanol-dde.[6] Mae'n gwrthod labeli ideolegau ac yn ceisio efelychu gwleidyddiaeth syncretaidd Ewropeaidd, megis y Mudiad Pum Seren yn yr Eidal.[7]

Safodd tri ymgeisydd yn enw'r blaid yn etholiad cyffredinol 2019 y Deyrnas Unedig : Siân Caiach ar gyfer Canol Caerdydd; Gwyn Wigley Evans yn Sir Drefaldwyn, a Laurence Williams ar gyfer Bro Morgannwg.[8] Y seddi hyn yw lle na safodd Plaid Cymru fel rhan o'r cytundeb Gynghrair Aros gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol a'r Blaid Werdd.[6][9] Mae'r blaid yn bwriadu ymgeisio am seddau yn Senedd Cymru yn etholiad 2021.

Polisïau

golygu

Mae Gwlad yn dadlau bod y wladwriaeth les bresennol yn gwneud pobl yn orddibynnol ar fudd-daliadau. Maent yn bwriadu cyflwyno incwm sylfaenol i bob dinesydd i gymryd lle y Lwfans Ceisio Gwaith, y pensiwn gwladol sylfaenol, a rhai buddion eraill.[10]

Iechyd

golygu

Mae Gwlad yn gwrthwynebu preifateiddio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, ac yn argymell cyllido gofal iechyd drwy yswiriant gorfodol ar y cyd â threthiant, yn debyg i'r drefn yn Lwcsembwrg. Mae'r blaid yn bwriadu hyfforddi meddygon a nyrsys yng Nghymru yn hytrach na recriwtio o wledydd arall, ac yn awgrymu cyfuno meddygfeydd bychain yn bolyclinigau lleol.[10]

Cyfiawnder

golygu

Mae'r blaid yn argymell sefydlu un heddlu cenedlaethol i Gymru. Maent o blaid adeiladu carchar i fenywod yng Nghymru, a lleihau'r niferoedd o garcharorion o wledydd eraill y Deyrnas Unedig a ddanfonir i garchardai Cymru.[10]

Mae Gwlad yn dadlau taw'r ateb i'r diffyg tai yng Nghymru ydy'r stoc o dai gweigion ac ail gartrefi sydd eisoes, nid adeiladu "stadau cymudo" fel y mae'r Cynlluniau Datblygu Lleol yn gwneud. Maent yn bwriadu codi tâl ychwanegol o 500% ar dreth y cyngor ar ail gartrefi yng Nghymru, a hefyd codi gorbris "tir heb ei ddatblygu" ar dir sydd wedi derbyn caniatâd cynllunio ond heb ei ddatblygu ers dwy flynedd.[10]

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Aelod Cyngor Gwledig Llanelli - Sian Mair Caiach". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-04-12. Cyrchwyd 2020-04-12.
  2. 2.0 2.1 "Gweld cofrestriad - Y Comisiwn Etholiadol". search.electoralcommission.org.uk. Cyrchwyd 2020-04-11.
  3. "Gwlad! Gwlad?: An invitation to a party – Review". Nation.Cymru (yn Saesneg). 2018-12-04. Cyrchwyd 2020-04-11.
  4. "Populist and proud or a Welsh UKIP? – an interview with Ein Gwlad". Nation.Cymru (yn Saesneg). 2018-12-20. Cyrchwyd 2020-04-11.
  5. "Pro-Welsh independence party 'steps into the breach'". Cambrian News (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-04-11.
  6. 6.0 6.1 ""Annibyniaeth x 3″ yw nod plaid newydd Gwlad". Golwg360. 2019-11-11. Cyrchwyd 2020-04-11.
  7. "Plaid newydd i Gymru er mwyn “ymwrthod â phatrwm” Bae Caerdydd", Golwg360 (6 Mawrth 2018). Adalwyd ar 21 Hydref 2018.
  8. "Who's standing for election in Wales?". BBC News (yn Saesneg). 2019-11-15. Cyrchwyd 2020-04-11.
  9. "Gwlad Gwlad standing in four seats where Plaid Cymru have withdrawn 'to offer people a pro-independence vote'". Nation.Cymru (yn Saesneg). 2019-11-15. Cyrchwyd 2020-04-11.
  10. 10.0 10.1 10.2 10.3 "Maniffesto 2019 Archifwyd 2020-04-11 yn y Peiriant Wayback", Gwlad. Adalwyd ar 11 Ebrill 2018.

Dolenni allanol

golygu