Gwrthdaro Libanus 2007

Dechreuodd gwrthdaro Gogledd Libanus 2007 o ganlyniad i ymladd rhwng Fatah al-Islam, mudiad milwriaethus Islamiaidd, a Lluoedd Arfog Libanus ar 20 Mai, 2007 yn Nahr al-Bared, gwersyll ffoaduriaid Palesteinaidd ger Tripoli, Libanus. Dyma'r ymladd gwaethaf ers Rhyfel Cartref Libanus (1975–1990). Datblygodd y gwrthdaro o amgylch Gwarchae Nahr el-Bared yn bennaf.

Gwrthdaro Libanus 2007
Math o gyfrwnggwrthdaro Edit this on Wikidata
Dyddiad2007 Edit this on Wikidata
Rhan orhyfel yn erbyn Terfysgaeth Edit this on Wikidata
Dechreuwyd20 Mai 2007 Edit this on Wikidata
Daeth i ben7 Medi 2007 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Map yn dangos lleoliadau'r gwrthdaro

Cefndir

golygu

Gellir gosod y gwrthdaro yng nghyd-destun y frwydr rhwng yr Israeliaid a'i chymdogion, sef yr hyn a elwir yn wrthdaro Israel-Libanus. Roedd hwnnw, yn ei dro, yn rhan o frwydr ehangach fyth, rhwng yr Israeliaid a'i chymdogion, sef yr hyn a elwir yn wrthdaro Arabaidd-Israelaidd.

Gwersyll ffoaduriaid Nahr al-Bared

golygu

Mae Libanus yn gartref i fwy na 350 000 o ffoaduriaid Palesteinaidd, yn cynnwys nifer o ffoaduriaid, nifer ohonynt yn dilyn gorchmynion eu harweinwyr, a rhai a gafodd eu halltudio o Israel yn ystod Rhyfel Arabaidd-Israelaidd 1948. Cafodd rhai ffoaduriaid eu gwneud yn ddinasyddion llawn a'u hintegreiddio i gymdeithasau Libanaidd ac Arabaidd, ond gwrthodwyd yr hawl yma i lawer a chawsant eu rhoi mewn gwersylloedd.[1]

Mae preswylwyr y gwersylloedd cyfredol yn ddisgynyddion o'r ffoaduriaid Palesteinaidd cynnar yma. Ar hyn o bryd, nid oes ganddynt hawl i ddychwelyd i Israel neu hawliau sifil sylfaenol yn Libanus.

Lleolir gwersyll ffoaduriaid Palesteinaidd Nahr al-Bared 16 km i ogledd Tripoli ger y ffordd arfordirol ac mae wedi bod o dan archwiliad ers Chwefror, pan fomiwyd dau fws yn Ain Alak, pentref Critsnogol yn bennaf, ger Bikfaya. Beiwyd milwyr Fatah al-Islam. Mae tua 30 000 o Balesteiniaid sydd wedi'u dadleoli yn byw yn y gwersyll, lle nad oes gan y lluoedd milwrol hawl i gael mynediad o dan telerau cytundeb Arabaidd 1969.[2]

Fatah al-Islam

golygu

Honnir fod gan y grŵp Islamiaidd Fatah al-Islam gysylltiadau ag al-Qaeda. Cred swyddogion llywodraethol Libanus fod ganddi hefyd gysylltiadau â gwasanaethau cudd-wybodaeth Syria a honnir eu bont yn tanseilio ymdrechion y wlad i sefydlu tribiwnlys rhyngwladol i roi llofruddion y cyn-Brif Weinidog Rafik Hariri ar brawf. [2]

Ymatebion

golygu
  •   Libanus Cyhuddodd Fouad Siniora, Prif Weinidog Libanus, Fatah al-Islam o drio ansefydlogi'r wlad.[3] Disgrifiodd Gweinidog Mewndirol Libanus, Hasan al-Sabaa, Fatah al-Islam fel "rhan o'r cyfarpar cudd-wybodaeth-diogelwch Syriaidd". Gwadodd pennaeth cenedlaethol heddlu Libanus, yr Uwchgapten Cadfridog Ashraf Rifi, unrhyw gysylltiad ag al-Qaeda, yn dweud bod Fatah al-Islam o dan reolaeth Damascus. Dywedodd yr arweinydd Cristnogol Libanaidd Samir Geagea bod Fatah al-Islam yn gangen o wasanaethau cudd-wybodaeth Syriaidd ac mae angen i ei weithredoedd terfysgol dod i ben.[4] Dywedodd Nayla Mouawad, Gweinidog Materion Cymdeithasol Libanus, bod gan aelodau'r milisia "deryngarwch Syriaidd ac dim ond o Syria cymerant gorchmynion".[5] Dywedodd Sami Haddad, Gweinidog Economi a Masnach Libanus, i'r BBC bod ei lywodraeth yn drwgdybio Syria o gynllunio'r trais.[6] Hefyd gofynnodd Haddad am arian ac adnoddau i helpu lluoedd Libanus ymladd aelodau'r milisia: "Dwi'n cymryd y cyfle hwn i ofyn ein cyfeillion ar draws y byd – llywodraethau Arabaidd a llywodraethau Gorllewinol cyfeillgar – i gynorthwyo ni yn logistig a gyda chyfarpar milwrol."[5] Datganodd Gabinet Libanus ei "gefnogaeth llawn" am ymdrechion milwrol i ddod â'r ymladd i ben, dywedodd Mohamed Chatah, ymgynghorydd i'r Prif Weinidog Fouad Siniora. "Mae lluoedd diogelwch Libanaidd yn targedu aelodau'r milisia ac nid ydynt yn saethu i mewn i'r gwersyll ffoaduriaid ar siawns," dywedodd Chatah.[5] Yn ôl Khalil Makkawi, cyn-lysgennad Libanus i'r Cenhedloedd Unedig, mae dyrchafiad Fatah al-Islam i'w feio yn rhannol am amodau byw yn y gwersyll.[5] Galwodd Arlywydd Libanus, Emile Lahoud, ar holl bobl Libanus i uno o gwmpas y fyddin.[7] Dywedodd yr arweinydd Drŵs Walid Jumblatt, cefnogwr o glymblaid lywodraethol Libanus, "nid oes cynigion" am ddatrysiad milwrol, "ond rydym ni eisiau i'r llofruddion cael eu rhoi i system gyfiawnder Libanus".[8]
  •   Syria Munudau ar ôl i'r trais dechrau, caeodd Syria ddwy groesfan ar y goror Syriaidd-Libanaidd dros dro oherwydd pryderon diogelwch.[2] Mae arweinwyr Syriaidd yn gwadu cyhuddiadau eu bod yn cyffroi trais yn Libanus.[5] Dywedodd llysgennad Syria i'r Cenhedloedd Unedig, Bashar Jaafari, nid oes gan ei wlad unrhyw gysylltiadau a'r grŵp, ac bod rhai aelodau wedi'u rhoi yn y ddalfa yn Syria am gefnogi al-Qaeda.[6]
  •   Palesteina Pwysleisiodd Sefydliad Rhyddhad Palesteina a'r cynrychiolwyr undeb y carfanau Palesteinaidd i'r Serail Uchaf dylai Palesteiniaid derbyn cyfrifoldeb y weithred fyrfyfyr gan Fatah al-Islam. Roedd y cynrychiolwyr yn cynnwys aelodau Hamas, y Ffrynt Democrataidd, Sa'iqa, Ffrynt Nidal, Jihad Islamaidd, Fatah al-Intifada, Ffrynt Rhyddhad Palesteina ac Abbas Zaki, cynrychiolydd pwyllgor gwaith Sefydliad Rhyddhad Palesteina.[7]
  •   Unol Daleithiau America Dywedodd yr Arlywydd George W. Bush bod angen i'r Islamyddion cael eu rhwystro. "Mae angen i eithafwyr sy'n trio dymchwel y ddemocratiaeth ifanc yna cael eu tynnu i mewn," dywedodd Bush.[6] Dywedodd Adran y Wladwriaeth bod dim cysylltiad rhwng y gwrthdaro ag ymdrechion i sefydlu tribiwnlys rhyngwladol i roi'r rhai a ddrwgdybir o fradlofruddiaeth y cyn-Brif Weinidog Rafiq Hariri ar brawf.[5]
  •   Dywedodd llefarydd ar gyfer Fatah al-Islam, Abu Salim, i Al-Jazeera taw dim ond amddiffyn eu hunain oedd y grŵp: "Cawson ein gorfodi ac ein cymell i bod yn y gwrthdaro hwn â'r fyddin Libanaidd."[5] Dywedodd arweinydd Fatah al-Islam, Shaker al-Abssi, i Al-Arabiya ym Mehefin nid oedd gan ei grŵp unrhyw gysylltiadau ag al-Qaeda neu Syria. Dywedodd mae ei grŵp yn bwriadu diwygio gwersylloedd ffoaduriaid Palesteinaidd i gytuno â chyfraith Islamaidd, neu Sharia.[5] Mewn neges fideo a ryddhawyd gan arweinydd Fatah al-Islam bu'n hepgor ildiad fel dewis yn y sefyllfa. Dywedodd "O eiriolwyr y cynllun Americanaidd, dywedwn i chi bydd Swnnïaid yn flaen y waywffon wrth ymladd yr Iddewon, Americanwyr a'u cynghreiriaid".[8]
  • Mewn anerchiad i nodi'r seithfed blwyddyn ers enciliad Israel o Libanus, anogodd Sheikh Hassan Nasrallah, arweinydd y grŵp milwriaethus Shia Hizballah, i'r llywodraeth Libanaidd peidio ag ymosod ar radicalwyr Fatah al-Islam yng ngwersyll Nahr al-Bared. Ychwanegodd dylai'r gwrthdaro cael ei ddatrys yn wleidyddol heb unrhyw waethygiad. "Mae gwersyll Nahr al-Bared a sifiliaid Palesteinaidd yn 'llinell goch'," dywedodd Nasrallah, "ni fydden yn derbyn neu ddarparu gorchudd neu bod yn bartneriaid mewn hyn". Condemniodd Nasrallah cyrchoedd yn erbyn y fyddin hefyd a dywedodd: "Gwarcheidwad diogelwch, sefydlogrwydd ac undod cenedlaethol yn y wlad hon yw'r fyddin Libanaidd. Dylen ni i gyd ystyried y fyddin yma fel yr unig sefydliad sydd ar ôl gall cadw diogelwch a sefydlogrwydd yn y wlad hon."[9] Roedd Nasrallah yn amheugar o lwyth llong cymorth milwrol Americanaidd i Libanus a dywedodd ni ddylai'r Libaniaid gadael eu hunain cael eu hymglymu ag al-Qaeda ar ran yr Unol Daleithiau. "Dwi'n synnu ar y pryder yma i gyd dros y fyddin Libanaidd sydd nawr," dywedodd, yn gyfeirio at y gwrthdaro rhwng Israel a Hizballah yn 2006.[10] Gofynnodd ei gynulleidfa "Ydych chi'n fodlon ymladd rhyfeloedd eraill o fewn Libanus?" Mae Hizballah yn gweld grwpiau eithafol Sunni megis al-Qaeda a Fatah al-Islam fel gelynion.[11]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Habib Issa, Ysgrifennydd Cyffredinol y Cynghrair Arabaidd: Yn 1948 wnaeth Azzam Pasha, y cyn-Ysgrifennydd Cyffredinol, "sicrhau Arabiaid bydd meddiannaeth Palesteina, yn cynnwys Tel Aviv, mor syml â phromenâd milwrol...Rhoddwyd gyngor brawdol i Arabiaid Palesteina i adael eu tir, tai ac eiddo, ac i aros dros dro yng ngwladwriaethau brawdol cyfagos." (Al-Hoda (papur dyddiol Arabeg), Dinas Efrog Newydd, 8 Mehefin, 1951).
  2. 2.0 2.1 2.2 (Saesneg) "Lebanese troops battle militants", BBC, 20 Mai, 2007. Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; mae'r enw "BBC_20070520" wedi'i ddiffinio droeon gyda chynnwys gwahanol
  3. (Saesneg) Refugees flee Lebanon camp. Al Jazeera (23 Mai, 2007). Adalwyd ar 31 Mai, 2007.
  4. (Saesneg)  Fighting between militants, Lebanese army leaves 42 dead. Monsters and Critics (20 Mai, 2007). Adalwyd ar 30 Mai, 2007.
  5. 5.0 5.1 5.2 5.3 5.4 5.5 5.6 5.7 (Saesneg) Refugees leave Lebanon camp; U.N. workers freed. CNN (23 Mai, 2007). Adalwyd ar 31 Mai, 2007.
  6. 6.0 6.1 6.2 (Saesneg) "Aid convoy under fire in Lebanon", BBC, 22 Mai, 2007.
  7. 7.0 7.1 (Saesneg)  Lahoud calls on all Lebanese to unite around army. Al-ManarTV (22 Mai, 2007). Adalwyd ar 30 Mai, 2007.
  8. 8.0 8.1 (Saesneg) "Lebanon army 'hit by militants'", BBC, 28 Mai, 2007.
  9. (Saesneg)  Sayyed Nasrallah: We condemn any attack against army. Al-ManarTV (26 Mai, 2007). Adalwyd ar 30 Mai, 2007.
  10. (Saesneg) "Hezbollah head warns against raid", BBC, 26 Mai, 2007.
  11. (Saesneg)  Hezbollah to Lebanese army: Stay out of refugee camp. CNN (25 Mai, 2007). Adalwyd ar 31 Mai, 2007.

Dolenni allanol

golygu
Mae'r erthygl hon yn cynnwys term neu dermau sydd efallai wedi eu bathu'n newydd sbon: Serail Uchaf o'r Saesneg "Great Serail". Gallwch helpu trwy safoni'r termau.