Gwyn Llewelyn

newyddiadurwr a darlledwr Cymreig

Newyddiadurwr a darlledwr o Gymro yw Gwyn Llewelyn (ganwyd 6 Mawrth 1942). Mae'n adnabyddus am ei adroddiadau ar raglen newyddion Y Dydd ac am fod y newyddiadurwr teledu cyntaf yn Nhrychineb Aberfan. Ef hefyd oedd yn cyflwyno'r gyfres gylchgrawn Hel Straeon.[1]

Gwyn Llewelyn
Ganwyd6 Mawrth 1942 Edit this on Wikidata
Bangor Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethnewyddiadurwr, darlledwr Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar ac addysg golygu

Ganwyd Gwyn ym Mangor a fe'i magwyd yn Ty'n y Gongl, Ynys Môn. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Gynradd Ty'n y Gongl ac Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch.

Gyrfa golygu

Yn 16 oed ymunodd a'r North Wales Chronicle a'r Cloriannydd fel cyw-newyddiadurwr cyn symud i Gaerdydd yn 1962 i fod yn Is-Olygydd ar y Western Mail, y person ieuengaf yn hanes y cwmni i ddal swydd o'r fath.[2]

Yn 1962 ymunodd â chwmni newydd Teledu Cymru fel gohebydd pan oedd y tîm yn cynnwys John Roberts Williams a T. Glynne Davies. Yn dilyn methiant y fenter ar ddiwedd 1963, ailymunodd â'r Western Mail fel gohebydd cyffredinol. Yn 1964 ymunodd â chwmni TWW fel Gohebydd Crwydrol ar raglen Y Dydd. Yn 1966 ef oedd y newyddiadurwr teledu cyntaf i gyrraedd Aberfan, awr wedi'r drychineb.[3] Daeth yn brif gyflwynydd Y Dydd yn 1968 a bu yn y swydd tan 1975.

Yn 1976 ymunodd â'r BBC a symudodd i Fangor i gyflwyno Bore Da ac ef hefyd oedd darllenydd newyddion cyntaf Radio Cymru.

Yn 1979 derbyniodd gynnig i fod yn un o gyflwynwyr y rhaglen deledu Heddiw gan gadw ei ddyletswyddau ar O'r Newydd. Yn 1982 daeth yn un o gyflwynwyr sefydlog Newyddion Saith ar sianel newydd S4C ac yn 1986 derbyniodd wahoddiad i fod yn brif gyflwynydd Hel Straeon ac ymuno â thîm a oedd yn cynnwys Lyn Ebenezer a Catrin Beard.

Bu'n Bennaeth Uned Gyfathrebu Cyngor Ynys Môn cyn dod yn ohebydd y gogledd ar raglen Wedi 7. Fe ymddeolodd o'r rhaglen yn 2007.

Bywyd personol golygu

Mae'n briod â Luned a bu'n byw ym Mhorthaethwy am flynyddoedd cyn symud i Gaernarfon. Mae'n Dad i Sion, Siwan a Shari Llewelyn

Llyfrau golygu

Ysgrifennodd ddau lyfr o hanesion Hel Straeon, teithlyfr Gwyn a'i Fyd yn seiliedig ar y gyfres deledu a'r nofelau Pry'r Gannwyll ac Yr Ias yng Ngruddiau'r Rhosyn.

Cyfeiriadau golygu

  1. 'Un o'r hoelion wyth' yn ymddeol , BBC Cymru, 2 Mawrth 2007. Cyrchwyd ar 16 Medi 2016.
  2. Mae Gwyn Llewelyn yn un o wynebau mwyaf cyfarwydd y byd darlledu yng Nghymru, ond sut berson ydyw y tu hwnt i'r camera? Caron Wyn Edwards aeth ar drywydd y gŵr o Dynygongl. , Daily Post, 16 Ebrill 2005. Cyrchwyd ar 16 Medi 2016.
  3. 'The saddest 24 hours I would ever know' (en) , walesonline.co.uk, 29 Hydref 2006. Cyrchwyd ar 16 Medi 2016.