The Old Churches of Snowdonia
Llyfr am hen eglwysi Eryri yw The Old Churches of Snowdonia, a ysgrifennwyd ar y cyd gan Herbert Luck North a Henry Harold Hughes. Cyhoeddwyd yr argraffiad cyntaf gan gwmni Jarvis and Foster, Bangor, yn 1924. Cafwyd adargraffiad ffacsimili gan Gymdeithas Parc Cenedlaethol Eryri yn 1984.[1]
Cefndir
golyguRoedd H. L. North a H. H. Hughes eisoes wedi cyhoeddi astudiaeth o hen fythynod Eryri yn 1908, sef The Old Cottages of Snowdonia. Pensaer oedd North, a ymsefydlodd yn Llanfairfechan. Yno daeth i adnabod y pensaer ac archaeolegydd Cymreig Harold H. Hughes. Ffrwyth eu cyfeillgarwch oedd y ddwy gyfrol hyn ar bensaernïaeth draddodiadol ardal Eryri, a ystyrir yn astudiaethau safonol hyd heddiw.[1]
Cynnwys
golyguCeir rhagymadrodd cyffredinol ar ddechrau'r gyfrol sy'n trafod y cefndir hanesyddol a datblygiad pensaernïaeth yr eglwysi cynnar hyn, a sefydlwyd yng nghyfnod Teyrnas Gwynedd.
Ymdrinir yn fanwl â'r eglwysi canlynol:
- Penmon ac Arllechwedd
- Penmon ac Ynys Seiriol
- Eglwys Tudno, Llandudno
- Eglwys Aberconwy, Conwy
- Eglwys Gyffin ger Conwy
- Hen Eglwys Llangelynnin, ger Rowen
- Eglwys y Santes Fair, Caerhun
- Eglwys Llanbedr-y-cennin
- Eglwysi Trefriw a Llanrhychwyn
- Eglwys Betws-y-Coed
- Eglwys Penmachno
- Eglwys Dolwyddelan
- Eglwys Capel Curig
- Eglwys Llandegai
- Eglwys Llanllechid
- Eglwys Abergwyngregin
- Eglwys Llanfairfechan
- Eglwys Dwygyfylchi
- Arfon a Beddgelert
- Eglwys Gadeiriol Bangor
- Eglwys Llangedol, Pentir
- Eglwys Llanddeiniolen
- Eglwys Llanfair-is-gaer, ger Caernarfon
- Eglwys Llanfihangel yn Rug, ger Caernarfon
- Eglwys Llanberis
- Eglwys Beddgelert
- Betws Garmon
- Eglwys Llanbeblig, ger Caernarfon
- Eglwys Llanfaglan
- Eglwys Llanwnda
- Eglwys Llandwrog
- Eglwys Llanllyfni
- Eglwys Clynnog Fawr
- Eglwys Llanaelhaearn
Yn ogystal i'r hen eglwsi eu hunain, ceir manylion am hynafiaethau perthynol fel ffynhonnau sanctaidd a meini arysgrifiedig cynnar.
Manylion cyhoeddi
golygu- The Old Churches of Snowdonia (Jarvis and Foster, Bangor, 1924).
- Adargraffiad ffacsimili gan Gymdeithas Parc Cenedlaethol Eryri, Capel Curig, 1984. Gyda rhagymadrodd ychwanegol, atodiadau a nodiadau ar ddiwedd y llyfr.