Homo sapiens

(Ailgyfeiriad o H. sapiens)
Animalia
Homo sapiens
Amrediad amseryddol: 0.195–0 Miliwn o fl. CP
Pleistosen CanolY presennol
Benyw a gwryw
Benyw a gwryw
Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol e
Teyrnas: Animalia
Phylum: Chordata
Dosbarth: Mammalia
Urdd: Primates
Is-urdd: Haplorhini
Teulu: Hominidae
Genus: Homo
Rhywogaeth: H. sapiens
Enw deuenwol
Homo sapiens
Linnaeus, 1758
Isrywogaeth

Homo sapiens idaltu
Homo sapiens sapiens
Homo neanderthalensis?
Homo rhodesiensis?
Pobl Ogof y Carw Coch?

O fewn y dull enwi gwyddonol, Homo sapiens (Lladin: "person deallus") yw'r enw rhyngwladol ar fodau dynol, ac a dalfyrir yn aml yn H. sapiens. Bellach, gyda diflaniad y Neanderthal (ac eraill), dim ond y rhywogaeth hon sy'n bodoli heddiw o fewn y genws a elwir yn Homo. Isrywogaeth yw bodau dynol modern (neu bobl modern), a elwir yn wyddonol yn Homo sapiens sapiens.

Hynafiaid pobl heddiw, yn ôl llawer, oedd yr Homo sapiens idaltu. Credir fod eu dyfeisgarwch a'u gallu i addasu i amgylchfyd cyfnewidiol wedi arwain iddynt fod y rhywogaeth mwyaf dylanwadol ar wyneb Daear ac felly fe'i nodir fel "pryder lleiaf" ar Restr Goch yr IUCN, sef y rhestr o rywogaethau mewn perygl o beidio a bodoli, a gaiff ei gynnal gan Yr Undeb Ryngwladol Dros Cadwraeth Natur.[1]

Enw golygu

Y Naturiaethwr Carl Linnaeus a fathodd yr enw, a hynny 1758.[2] Yr enw Lladin yw homō (enw genidol hominis) sef "dyn, bod dynol" ac ystyr sapien yw 'deallus'.

Tarddiad golygu

Gyda thystiolaeth newydd yn cael ei darganfod yn flynyddol, bron, mae rhoi dyddiad ar darddiad y rhywogaeth H. sapiens yn beth anodd; felly hefyd gyda dosbarthiad llawer o esgyrn gwahanol isrywogaethau, a cheir cryn anghytundeb yn y byd gwyddonol wrth i fwy a mwy o esgyrn ddod i'r golwg. Er enghraifft, yn Hydref 2015, yn y cylchgrawn Nature cyhoeddwyd i 47 o ddannedd gael eu darganfod yn Ogof Fuyan yn Tsieina a ddyddiwyd i fod rhwng 80,000 a 125,000 o flynyddoedd oed.

Yn draddodiadol, ceir dau farn am ddechreuad H. sapiens. Mae'r cynta'n dal mai o Affrica maent yn tarddu, a'r ail farn yn honni iddynt darddu o wahanol lefydd ar yr un pryd.

Ceir sawl term am y cysyniad 'Allan-o-Affrica' gan gynnwys recent single-origin hypothesis (RSOH) a Recent African Origin (RAO). Cyhoeddwyd y cysyniad hwn yn gyntaf gan Charles Darwin yn ei lyfr Descent of Man yn 1871 ond nid enillodd ei blwyf tan y 1980au pan ddaeth tystiolaeth newydd i'r fei: sef astudiaeth o DNA ac astudiaeth o siap ffisegol hen esgyrn. Oherwydd gwydnwch y dannedd, dyma'n aml yr unig dystiolaeth sy'n parhau oherwydd fod gweddill y corff wedi pydru. Gan ddefnyddio'r ddwy dechneg yma i ddyddio Homo sapiens, credir iddynt darddu o Affrica rhwng 200,000 a 125,000 o flynyddoedd yn ôl. Llwyddodd H. sapiens i wladychu talpiau eang o'r Dwyrain, ond methwyd yn Ewrop oherwydd fod yno gynifer o Neanderthaliaid yn ffynnu'n llwyddiannus. O astudio'r genynnau, credir yn gyffredinol i H. sapiens baru gyda Neanderthaliaid.

 
Siart 'Stringer' o esblygiad sawl rhywogaeth o'r genws Homo dros ddwy filiwn o flynyddoedd cyn y presennol (CP). Mae'r cysyniad "Allan o Affrica" i'w weld ar frig y siart.

Erbyn 2015 dyma'r farn fwyaf cyffredin.[3][4] Yn 2017 mynnodd Jean-Jacques Hublin o Max Planck Institute for Evolutionary Anthropology yn Leipzig fod ffosiliau o Moroco'n profi i H. Sapiens wahanu 350,000 CP.[5]

Yr ail farn (a gynigiwyd gan Milford H. Wolpoff yn 1988) yw i H. sapiens darddu ar ddechrau'r Pleistosen, 2.5 miliwn o flynyddoedd CP gan esbylgu mewn llinell syth hyd at ddyn modern (yr Homo sapiens sapiens) - hynny yw heb iddo baru gyda Neanderthaliaid.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 "Homo sapiens". Rhestr Goch yr IUCN o rywogaethau dan fygythiad. Version 2008. International Union for Conservation of Nature. 2008.CS1 maint: ref=harv (link)
  2. Linné, Carl von (1758). Systema naturæ. Regnum animale. (arg. 10). tt. 18, 20. Cyrchwyd 19 Tachwedd 2012..
  3. Hua Liu, et al. A Geographically Explicit Genetic Model of Worldwide Human-Settlement History. The American Journal of Human Genetics, cyfrol 79 (2006), tud 230–237, dyfyniad: Currently available genetic and archaeological evidence is generally interpreted as supportive of a recent single origin of modern humans in East Africa. However, this is where the near consensus on human settlement history ends, and considerable uncertainty clouds any more detailed aspect of human colonization history.
  4. "Out of Africa Revisited - 308 (5724): 921g - Science". Sciencemag.org. 2005-05-13. doi:10.1126/science.308.5724.921g. Cyrchwyd 2009-11-23.
  5. New Scientist; adalwyd 8 Mehefin 2017.