Penrhyn isel 40 km yw Hafun (Somaleg: Xaafuun) a leolir yn rhanbarth Bari yng ngogledd Somalia. Ymestyn y penrhyn allan i Gefnfor India, ac mae'r pentir yn cael ei adnabod fel Ras Hafun neu Raas Xaafuun (Arabeg/Somaleg am "Penrhyn Hafun"). Dyma bwynt mwyaf dwyreiniol Affrica, tua 7,400 km (4,600 milltir) o benrhyn Cap-Vert i'r gorllewin.

Hafun
Mathpentir, penrhyn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirBari Edit this on Wikidata
GwladSomalia Edit this on Wikidata
GerllawCefnfor India Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau10.419294°N 51.274905°E Edit this on Wikidata
Map
Lleoliad Hafun yn ymestyn allan o ranbarth Bari (coch tywyll), Somalia

Mae'n gartref i'r llwyth Somali Cisman Mahmoud. Yr unig dref o bwys yw porthladd pysgota Hafun, gyda tua 5,000 o bobl, sy'n gorwedd rhwng y penrhyn a'r tir mawr.

Opone golygu

Mae haneswyr yn credu mai Ras Hafun oedd lleoliad canolfan fasnach hynafol Opone, y cyfeirir ati gan daearegwyr Groeg yr Henfyd. Defnyddid Opone fel porthladd gan fasnachwyr o Ffenicia, yr Hen Aifft, Groeg, Persia, Iemen, Nabataea, Azania, yr Ymerodraeth Rufeinig ac eraill oherwydd ei leoliad strategol ar y llwybr arfordirol rhwng canolfan fasnach Arabaidd Azania a'r Môr Coch.Byddai masnachwyr o mor bell i ffwrdd ag Indonesia a Maleisia yn galw yn Opone i gyfnewid sbeis, sidan a nwyddau eraill, cyn ymadael am Azania i'r de neu tua'r gogledd i Iemen neu'r Aifft gan ddilyn y llwybrau masnach morwrol a ddilynai arfordiroedd gogleddol Cefnfor India, o Arabia i India a De-ddwyrain Asia.

Hafun heddiw golygu

Heddiw mae gan Hafun boblogaeth o tua 2,500 pysgotwyr a'u teuluoedd. Ar 26 Rhagfyr 2004, cafodd Hafur ei daro gan donnau anferth a achoswyd fan tsunami Cefnfor India 2004. Collodd tua 165 o bobl eu bywydau.

Dolenni allanol golygu