Eryr môr
Eryr môr Haliaeetus albicilla | |
---|---|
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Accipitriformes neu Falconiformes |
Teulu: | Accipitridae |
Genws: | Eryrod môr[*] |
Rhywogaeth: | Haliaeetus albicilla |
Enw deuenwol | |
Haliaeetus albicilla (Linnaeus, 1758) | |
Dosbarthiad y rhywogaeth
Bridfa Preswylfa Teithfa Gaeafle Mewn bod + ailgyflwyno (preswyl) Mewn bod + ailgyflwyno (dibreswyl) |
Eryr hiradain pysgysol corffog sydd gyda chynffon letem fer wen ac yn mynychu arfordiroedd a gwlyptiroedd yw eryr môr (enw gwrywaidd; lluosog: eryrod môr) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Haliaeetus albicilla; yr enw Saesneg arno yw white-tailed sea eagle. Mae'n perthyn i deulu'r Eryr (Lladin: Accipitridae) sydd yn urdd y Falconiformes.[1] Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn H. albicilla, sef enw'r rhywogaeth.[2] Eryr y môr, eryr cynffonwen, eryr tinwyn a môr-eryr yw enwau eraill ar y rhywogaeth.
Mae'n aderyn mawr, 69 – 91 cm (27 – 36 modfedd) o hyd a 182 – 238 cm (72 – 94 modfedd) ar draws yr adenydd. Pwysa'r ieir 4 – 6.9 kg (8.8–15.2 pwys), tra mae'r ceiliogod yn llai, 3 – 5.4 kg (6.6–12 pwys). Saif yn bedwerydd ymhlith eryrod y byd o ran maint.
Mae'n nythu ar draws gogledd Ewrop a gogledd Asia. Ceir poblogaeth fwyaf Ewrop o gwmpas arfordir Norwy. Pysgod ac adar yw eu prif fwyd, ond gall mamaliaid bychain fod yn bwysig hefyd.
Diflannodd y rhywogaeth o'r Alban yn y 19g, ond yn 1975, gollyngwyd nifer o adar ar ynys Rùm i geisio ei adfer. Mae'r eryr yma yn awr yn nythu ar draws Ynysoedd Heledd a rhai ar dir mawr yr Alban. Mae rhaglen i geisio adfer y rhywogaeth i Iwerddon, a bu awgrym y gellid gwneud yr un peth yng Nghymru. Nid oes sicrwydd a fu'r rhywogaeth yn nythu yng Nghymru yn y gorffennol ai peidio, ond mae'n bosibl fod rhai o'r cyfeiriadau at "eryr" yn cyfeirio at y rhywogaeth yma yn hytrach na'r Eryr euraid.
Teulu
golyguMae'r Eryr môr yn perthyn i deulu'r Eryr (Lladin: Accipitridae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:
Rhestr Wicidata:
rhywogaeth | enw tacson | delwedd |
---|---|---|
Gwalch Caledonia Newydd | Accipiter haplochrous | |
Gwalch Frances | Accipiter francesiae | |
Gwalch Gray | Accipiter henicogrammus | |
Gwalch Gundlach | Accipiter gundlachi | |
Gwalch Ynys Choiseul | Accipiter imitator | |
Gwalch cefnddu | Accipiter erythropus | |
Gwalch glas | Accipiter nisus | |
Gwalch glas y Lefant | Accipiter brevipes | |
Gwalch llwyd a glas | Accipiter luteoschistaceus | |
Gwalch torchog America | Accipiter collaris | |
Gwalch torchog Awstralia | Accipiter cirrocephalus | |
Gwalch torchog Molwcaidd | Accipiter erythrauchen | |
Gwalch torchog Prydain Newydd | Accipiter brachyurus | |
Gwyddwalch Henst | Accipiter henstii |
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ [https://web.archive.org/web/20040610130433/http://www.cymdeithasedwardllwyd.org.uk/ Archifwyd 2004-06-10 yn y Peiriant Wayback Gwefan Cymdeithas Edward Llwyd]; adalwyd 30 Medi 2016.
- ↑ Gwefan Avibase; adalwyd 3 Hydref 2016.