Henry Williams (apothecari)
Apothecari[1] yn byw yn yr Erw Wen, Plwyf Clynnog, Sir Gaernarfon oedd Henry Williams (m 1690). Daw’r rhan fwyaf o’r gwybodaeth amdano o gytundeb (Bond)[2] o’i eiddo bersonol ar ei farwolaeth. Ei weddw, Elin, weinyddodd y ddogfen hon. (Mae’r hanesydd Nia Powell yn tynnu sylw at cryfder cadarn ei llofnod[3].) Un o briswyr y cytundeb oedd Rowland Dafydd o Blas Newydd Glynllifon[4], brawd i dad Angharad James[5], y bardd. Profa hyn y fath o gefndir diwylliannol a oedd yn Nyfffyn Nantlle erbyn canol a diwedd yr ail ganfif ar bymtheg - llythrennog, dwyieithog a hyddysg mewn gwybodaeth broffesiynol[3]. Dyma’r math o ‘feddyg’ a fyddai’n rhan o’r mudiad i sefydlu cymdeithas barchus-broffesiynol y ‘Society of Gentlemen Practisers (yn 1739 neu 1740[6][7]), gan ymddyrchafu o’r syniad mai ‘cigyddion’ oedd llawfeddygon[3]. Yn y Bond mae sôn am ei lyfrgell a hefyd bod ganddo flwch o gyffuriau ac offer llawfeddygol.
Ei gasgliad o lyfrau ar feddygaeth (phisick)
golyguYn y cytundeb rhestrir manylion ryw ddwsin o lyfrau ar feddygaeth. Mae safon manylion y llyfrau yn anghyffredin ac yn awgrymu lefel uchel o werthfawrogiad eu cynnwys gan Elin Williams[3]. Nid oes modd wybod pa argraffiad sydd o bob llyfr, ond y maent yn drawsdoriad o rai o gyfrolau pwysicaf y disgyblaeth dros y ganrif blaenorol.
[O safbwynt gwerth y llyfrau, mae’n amlwg nad oedd syniad gan y priswyr gan iddynt gyfuno’r cyfan yn werth 10/- ! [3]]
Maent yn cynnwys:
The new Herball of the History of Plantes by Dr Rembert Dodoens Phisicium to the Emp[er]or Translated into French then into English
Un o’r Iseldiroedd oedd Rembert Dodoens (1517-1585)[8] a ddaeth yn feddyg i’r Ymherodr Rhufeinig Sanctaidd (Siarl V), fwy na thebyg, a oedd yn Ymherodr yn 1554 pan gyhoeddwyd y llyfr yn Antwerp). Cyfieithwyd ef i’r Ffrangeg gan Charles de L’Écluse ac i’r Saesneg gan Henry Lyte (1529-1607). Cyhoeddwyd y gyfrol Saesneg yn Llundain gan Gerald Dewes yn 1578.
The method of Phisick by Phillip Barrough
Cyhoeddwyd gyntaf yn 1590 a rhedodd i 7 golygiad, y diweddaraf yn 1652. Magwyd Barrough[9][10], neu Barrow, yn Suffolk a chafodd drwydded i withredu fel llawfeddyg o Brifysgol Caergrawnt yn 1559 ac fel physigwr (Physick) yn 1572. Teitl llawn y llyfr yw The Method of Physicke containing the causes signes and cures of inward diseases in mans body from head to foot[11]. Cyhoeddwyd ym 1590, 1596, 1624 ac ar dri achlysur arall. Cyfrifir y gyfrol y gwerslyfr cyntaf ar feddyginiaeth i’w gyhoeddi yn Saesneg. Gwerthwyd golygiad 1624 yn ddiweddar am $2,295[3]. (Trawsgrifiad llawn - argraffiad 1583[11] ?).)
Two Treatices one of the ven[er]all Pox the second of the Gout by Daniell Senertus Med[icinaes] Doct[or]
Meddyg enwog yn yr Almaen oedd Daniell Sennert (1572-1637)[12]. Fe’i ganwyd yn Wroclaw sydd yng ngwlad Pwyl erbyn hyn a daeth yn Athro Meddygaeth ym Mhrifysgol Wittenberg wedi graddio yno mewn meddygaeth yn 1601. Cyhoeddodd yn helaeth iawn ar destunau gwyddonol. Lluniwyd y gyfrol Saesneg hon (cyfieithiad o’r Lladin gwreiddiol, De Lue venerea, gan Nicholas Culpepper) i’w chyhoeddi yn Llundain yn 1660 gan Peter Cole a’i hailargraffu gan John Streater yn 1673 hefyd. Cyhoeddiad 1673, mae’n debyg, yw’r gyfrol sydd yma. Cyfunai Sennert ddiddordeb mewn alcemeg, a wrthododd ar ddechrau ei yrfa er iddo led-ddychwelyd at y syniad yn ddiweddarach, a meddygaeth ond mae’n amlwg hefyd ei fod yn arloeswr syniadol mewn cemeg gynnar (Atomism). (Trawsgrifiad llawn - argraffiad 1660[13].)
Riuerij Praxis Medica
Yr awdur oedd Lazare Rivière (1589-1655)[14][15][16], meddyg enwog yn Ffrainc a weithiai ym Montpellier ac yn enwog am ddyfeisio meddyginiaeth (potion] ar gyfer trin clefydau gwenerol. Gweithredodd cyn diwedd ei oes fel meddyg i Louis XIII (dim cysylltiad uniongyrchol â’r feddyginiaeth uchod). Yr oedd yn anatomydd a pharmacolegydd o fri a’r cyntaf i ddisgrifio llid ar falf yr aorta yn y galon. Unwaith eto, arloeswr meddygol. (Facsimili argraffiad 1663[17] .)
The Art of Distillation by John French M:D:
Cyfrol a gyhoeddwyd yn Llundain yn 1651. Yr oedd John French (1616-1657)[18] yn physigwr/meddyg o swydd Rhydychen. Graddiodd o Rydychen yn 1637, MA yn 1640 ac yn feddyg, MD yn 1648. Bu’n feddyg i fyddin Lloegr yng ngogledd Ffrainc lle bu farw yn 1657. Ei brif ddiddordeb oedd cemeg a’r modd y gellid defnyddio cemeg i wella afiechydon ac edmygwyd ei waith gan Robert Boyle. Yr oedd yntau, fel awduron gweithiau eraill yn y casgliad hwn, yn arloesydd yn ei ddydd. Yr oedd y llyfr hwn yn llawlyfr arloesol ar ddistyllu, ond credir bellach mai cyfieithiad neu addasiad ydoedd o waith Hieronymus Brunschwig (1450-1512)[19], llawfeddyg a botanegydd o Strasbwrg oedd yn enwog am drin clwyfau saethu. (Trawsgrifiad llawn - argraffiad 1651[20].)
Doctor Willis’ his London Practice.
Sef, The London Practice of Physick, or, The whole practical part of Physick contained in the works of Dr. Willis faithfully made English, and printed together for the publick good gan Thomas Willis (1621-1675), cyhoeddwyd yn 1685 yn Llundain gan Thomas Basset a William Crooke. Yr oedd Thomas Willis[21] yn un o sylfaenwyr y Gymdeithas Frenhinol ac yn gymrawd, meddyg o Loegr ac arloeswr ym myd anatomi, niwroleg a seiceiatreg. Graddiodd yng Ngholeg Christchurch, Rhydychen 1642, ei drwyddedu fel physigwr yn 1646 a bu’n feddyg i Siarl I. Un o’i gynorthwywyr oedd Robert Hooke. Un arall yn ei gylch gwyddonol oedd John Locke, er nad oedd y ddau’n cytuno ar wleidyddiaeth nac ar wyddoniaeth ychwaith. Credai mewn arbrofi ac yn un o’r garfan yn Rhydychen a arferai hynny, gan gynnwys Robert Boyle a Christopher Wren. Prif faes ei ymchwil oedd anatomeg yr ymennydd, nerfau a’r cyhyrau, ac ef a ddarganfu gylch o rydweliau ar waelod yr ymennydd a elwir Circle of Willis. Cyhoeddodd gyfrol ar yr ymennydd yn 1664, Cerebri anatomae[22] a’r gwaith hwn a roddodd y gair ‘niwroleg’ i ni. Yr oedd y gwaith yn seiliedig ar arbrofion ac yn nodedig am gyflwyno syniadau newydd am nifer o wahanol gyflyrau niwrolegolgan gynnwys epilepsi. Trafododd y Clefyd Melys hefyd a alwyd yn Willis’ Disease. Christopher Wren a ddarparodd y lluniau yn y llyfr ar anatomeg. Yr oedd yn waith nodedig am ei fanylder. O’r 60au ymlaen aeth i Lundain gan gyfuno ei ddealltwriaeth o anatomeg a gwybodaeth o foddion gwella. Diddorol yw’r son ei fod wedi ei alw i roi barn ar afiechydon a marwolaethau plant Iago a ddaeth wedyn yn Iago II ac i Willis ddod i’r casgliad mai effaith clefyd gwenerol yn y tad ydoedd. Yr oedd Willis hefyd yn daid i’r ysgolhaig Browne Willis[23]. Diddorol i Henry Williams fod yn berchen ar lyfr a gyhoeddwyd ddim ond bum mlyedd cyn ei farw.
A perfect discovery of the French Pox
Yr awdur oedd Gideon Harvey (1636-1702)[24]. Teitl llawn hwn, a gyhoeddwyd yn Llundain gan William Thackeray yn 1670, oedd Little Venus unmask’d, or A perfect discovery of the French pox comprising the opinions of the most ancient and modern physicians, with author’s judgement and observations upon the rise, nature, subject, causes, kinds, signs. And prognosticks of the said disease : together with several nice questions and twelve different ways and methods of curing that disease, and the running of the reins by Gideon Harvey. Physigwr/meddyg o gefndir cymysg Lloegr/Yr Iseldiroedd oedd Gideon Harvey. Graddiodd o Rydychen yn 1655 ac mewn meddygaeth o Leiden yn 1657 a Pharis wedyn. Daeth wedi’r Adferiad yn feddyg llys i Siarl II yn 1675 a bu hefyd yn feddyg yn y fyddin ac yn ddiweddarach i William III. Bu Siarl yn gefn iddo wedi i Harvey feirniadu apothecariaid a meddygon eraill, gan gynnwys Thomas Willis, yn llym, ond beirniadwyd yntau am gyhoeddi rhai o gyfrinachau’r apothecariaid, ac am y llyfr hwn ar syphilis (nid ymddengys fod llawer o werth gwyddonol i’r gwaith ond ei fod wedi ei ysgrifennu’n ddifyr), a dychanai arferion y dydd. (Trawsgrifiad llawn - argraffiad 1670[25].)
(Gweler hefyd "Great Venus Unmasked.... "[26].)
A discourse of the whole Art of Chirurgery
Yr awdur oedd Peter Lowe (1550-1612)[27][28], ac fe’i cyhoeddwyd yn 1597 ac wedyn yn Llundain yn 1612 gan Thomas Purfoot[29], ac yn 1654. Y teitl llawn oedd A discourse of the whole art of chyrurgerie : Wherein is exactly set downe the definition, causes, accidents, prognostications, and cures of all sorts of diseases, both generall and particular, which at any time heretofore haue been practized by an chirurgion : according to the opinion of all the ancient professors of that science. Which is not onely profitable for chyrurgions; but also for all sorts of people : both for preuenting of sicknesse; and recouerie of health./ Compiled by Peter Lovve Scottishman, doctor to the French King and Navarre. ; Wherevnto is added a rule of makaing remedies which chirurgions doe commonly vse : with the presages of diuine Hyppocrates. Peter Lowe oedd sylfaenydd Coleg Brenhinol y Physigwyr a’r Llawfeddygon[30] yn Glasgow. Addysgwyd ef ym Mharis ac erbyn 1580 gwasanaethai Philip II o Sbaen fel llawfeddyg i’r Gatrawd Sbaenaidd yng ngwarchae Paris. Pabydd, ond aeth i Loegr yn 1590 i wneud arolwg o borthladdoedd ar ran Iago VI o’r Alban cyn dychwelyd i Ffrainc yn feddyg i Harri’r IV. Dychwelodd i’r Alban yn 1598 gan ymdrechu i wneud meddygaeth yn y gorllewin yn fwy proffesiynol a dibynnu llai ar gwaceriaeith a hud a lledrith. Dyma pam yr aeth ati i sefydlu corff proffesiynol ar gyfer meddygon a llawfeddygon yn Glasgow. Arloesydd arall a oedd am sicrhau’r safonau gorau mewn meddygaeth, gan gynnwys gwasanaeth am ddim i’r tlodion. (Facsimili argraffiad 1655[31] .)
An ould book to all young practizers in Chirurg[er]y
Cred Nia Powell[3] mai cyfeiriad yw hwn at waith William Clowes (1540-1604)[32] a gyhoeddwyd gyntaf ym 1588, A prooved practise for all young chirurgians, concerning burnings with gunpowder, and wounds made with gunshot, sword, halbard, pyke, or such other / ,,. Hereto adjoyned a treatise of the French or Spanish pockes, written by John Almenar / ,,.. Bu argraffiad arall ym 1591. Hanai o swydd Warwick a’i hyfforddi fel prentis i lawfeddyg yn Llundain, Thomas Keble. Yn 1563 aeth i wasanaethu yn y fyddin ac o’i brofiad yno gyda chlwyfau yn y maes anogai ddefnyddio eli a phowdrau i wella’r clwyfau hynny ac arloesodd hefyd mewn meddygaeth esgyrn. Wedi cyfnod yn Ffrainc dychwelodd i Lundain gan ddod yn aelod o Gwmni’r Barber Surgeons[33] a’i benodi, yn 1575, yn llawfeddyg yn ysbyty St Bartholomew ac wedyn yn ysbyty Crist gan ddefnyddio’r dulliau newydd yn llwyddiannus. Wedi cyfnod pellach gyda’r fyddin yn yr Iseldiroedd dychwelodd i Lundain a’i benodi yn lawfeddyg i Elizabeth I. Diddorol, o safbwynt Henry Williams a’r llyfrau erail yn y casgliad, yw bod traethawd ar syphilis yn atodiad i’r cyhoeddiad hwn. (Trawsgrifiad llawn - argraffiad 1588[34].)
The optick of Humors
Thomas Walkington[35] yw’r awdur. Cyhoeddwyd yn Llundain ym 1607 a’i ailgyhoeddi ym 1631. Nododd Walkington ei ddyled i’w diwtor yng Ngholeg Sant Ioan, Caergrawnt, Justinian Lewin. Hwn oedd un o’r gweithiau cynharaf i drafod y felan a sut i’w thrin. (Rhagflaenodd llyfr clasurol Robert Burton's[36] Anatomy of Melancholy (1621)[37].) Teitl llawn y llyfr oedd An optick glasse of humors. Or the touchstone of a golden temperature, or the Philosophers stone to make a golden temper wherein the foure complications sanguine, cholericke, phlegmaticke, melancolicke are succinctly painted forth, and their externall intimates laide open to the purblind eye of ignorance it selfe, by which euery one may iudge of what complection he is, and answerably learne what is most suitable to his nature. Cyfrol arloesol arall ac un a ddylai ganu cloch yn yr oes hon a’i hobsesiwn am iechyd meddwl. (Trawsgrifiad llawn - argraffiad 1607[38].)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Withey, Alun (2011). "“Persons That Live Remote from London": Apothecaries and the Medical Marketplace in Seventeenth- and Eighteenth-Century Wales.". Bulletin of the History of Medicine 85 (2): 222-247. https://www.jstor.org/stable/44451984.
- ↑ Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth. (Angen cyfeiriad llawn)
- ↑ 3.0 3.1 3.2 3.3 3.4 3.5 3.6 Trafodaethau (haf 2023) â Nia Powell, cyn-ddarlithydd yn Adran Hanes Cymru, Prifysgol Bangor. Bu Nia yn gweithio ar raglen beilot i S4C am Henry Williams. Dyfynnir Nia yn helaeth yn fersiwn wreiddiol yr erthygl hon.
- ↑ Wiles, John (28 Mehefin 2007). "Plas Newydd, Glynllifon Park". Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru. Cyrchwyd 3 Tachwedd 2023.
- ↑ Davies, William Llewelyn (1953). "JAMES, ANGHARAD (fl. 1680?-1730?), prydyddes". Bywgraffiadur Cymru. Cyrchwyd 3 Tachwedd 2023.
- ↑ Banks, Stephen (2010). A Polite Exchange of Bullets: The Duel and the English Gentleman, 1750–1850. Boydell & Brewer. t. 83. ISBN 9781843835714.
- ↑ Boon, Andrew (2014). The Ethics and Conduct of Lawyers in England and Wales. Bloomsbury Publishing. t. 108. ISBN 9781782256090.
- ↑ "Rembert Dodoens". Wikipedia (en). 13 Hydref 2023. Cyrchwyd 2 Tachwedd 2023.
- ↑ Shklar, Gerald (2004). "Philip Barrough, Elizabethan physician with the first English book on medicine.". J Hist Dent 52(2): 55-9. https://pubmed.ncbi.nlm.nih.gov/15293716/.
- ↑ Cooper, Thompson (2020). "Dictionary of National Biography, 1885-1900/Barrow, Philip". Wikisource. Cyrchwyd 2 Tachwedd 2023.
- ↑ 11.0 11.1 Barrough, Philip (2023). "The methode of phisicke ......... (1583)". Text Creation Partnership (Prifysgol Michigan). Cyrchwyd 2 Tachwedd 2023.
- ↑ "Daniel Sennert". Wikipedia (en). 2023. Cyrchwyd 2 Tachwedd 2023.
- ↑ "Two Treatices one of the ven[er]all Pox ..." Text Creation Partnership (Prifysgol Michigan). 2023. Cyrchwyd 2 Tachwedd 2023.
- ↑ Markos Sgantzos, Gregory Tsoucalas, Konstantinos Markatos, Styliani Giatsiou a George Androutsos (2015). "Lazare Rivière (1589-1655 AD), the Pioneer Pharmacologist, Anatomist, and Surgeon, Who Gave the First Modern Description of an Aortic Valve Failure". Surg. Innov. 22(5): 546-7. https://journals.sagepub.com/doi/10.1177/1553350615577482.
- ↑ "Lazare Rivère". NYU College of Dentistry. 2023. Cyrchwyd 2 Tachwedd 2023.
- ↑ "Lazare Rivière". Wikipedia (en). 2023. Cyrchwyd 2 Tachwedd 2023.
- ↑ Rivière, Lazare (1663). "Lazari Riverii... Opera medica universa,..." Google Books. Cyrchwyd 2 Tachwedd 2023.
- ↑ "John French (physician)". Wikipedia (en). 2023. Cyrchwyd 2 Tachwedd 2023.
- ↑ "Hieronymus Brunschwig". Wikipedia (en). 16 Chwefror 2023. Cyrchwyd 3 Tachwedd 2023.
- ↑ French, John (1651). "John French - The Art of Distillation". The Alchemy Web Site. Cyrchwyd 2 Tachwedd 2023.[dolen farw]
- ↑ "Thomas Willis". Wikipedia (en). 2023. Cyrchwyd 2 Tachwedd 2023.
- ↑ "Thomas Willis - Cerebri anatome - 1664". Bulletin of the Royal College of Surgeons of England. 18 Awst 2015. Cyrchwyd 3 Tachwedd 2023.
- ↑ "Browne Willis". Wikipedia (en). 26 Awst 2023. Cyrchwyd 3 Tachwedd 2023.
- ↑ "Gideon Harvey". Wikipedia (en). 2023. Cyrchwyd 2 Tachwedd 2023.
- ↑ "Little Venus unmask'd, or, A perfect discovery of the French pox ..." Text Creation Partnership (Prifysgol Michigan). 1670. Cyrchwyd 3 Tachwedd 2023.
- ↑ Weisser, Olivia (2021). "Concepts of Contagion in Gideon Harvey's Great Venus Unmasked". Harvard Library Bulletin. Cyrchwyd 2 Tachwedd 2023.
- ↑ R Shane Tubbs , Martin Mortazavi, Mohammadali M Shoja, Marios Loukas ac Aaron A Cohen-Gadol (2012). "Maister Peter Lowe and his 16th century contributions to cranial surgery.". Neurosurgery 70(2): 259-63. https://journals.lww.com/neurosurgery/abstract/2012/02000/maister_peter_lowe_and_his_16th_century.11.aspx.
- ↑ Archbold, William Arthur Jobson (2020). "Dictionary of National Biography, 1885-1900/Lowe, Peter". Wikisource. Cyrchwyd 3 Tachwedd 2023.
- ↑ "Thomas Purfoot". Wikipedia (en). 18 Chwefror 2023. Cyrchwyd 3 Tachwedd 2023.
- ↑ "Royal College of Physicians and Surgeons of Glasgow". Royal College of Physicians and Surgeons of Glasgow. 2023. Cyrchwyd 3 Tachwedd 2023.
- ↑ Lowe, Peter (1655). "A discourse of the whole art of chyrurgery. Wherin ........ (4ydd olygiad)". Wellcome Collection. Cyrchwyd 3 Tachwedd 2023.
- ↑ "William Clowes (surgeon)". Wikipedia (en). 12 Awst 2022. Cyrchwyd 3 Tachwedd 2023.
- ↑ "The Barbers' Company (History of the Company)". The Worshipful Company of Barbers. 2023. Cyrchwyd 3 Tachwedd 2023.
- ↑ "A prooued practise for all young chirurgians, concerning burnings with gunpowder ..." Text Creation Partnership (Prifysgol Michigan). 1588. Cyrchwyd 3 Tachwedd 2023.
- ↑ "Thomas Walkington". Wikipedia (en). 26 Gorffennaf 2023. Cyrchwyd 3 Tachwedd 2023.
- ↑ "Robert Burton". Wikipedia (en). 20 Hydref 2023. Cyrchwyd 3 Tachwedd 2023.
- ↑ "The Anatomy of Melancholy". Wikipedia (en). 4 Hydref 2023. Cyrchwyd 3 Tachwedd 2023.
- ↑ "The optick glasse of humors. ..." Text Creation Partnership (Prifysgol Michigan). 1607. Cyrchwyd 3 Tachwedd 2023.