Huw Lewys
Clerigwr a llenor Cymraeg oedd Huw Lewys[1][2] (hefyd Hugh Lewis[3]) (1562 - 1634), a gofir yn bennaf fel awdur y gyfrol Perl mewn Adfyd.
Huw Lewys | |
---|---|
Ganwyd | 1562 |
Bu farw | 1634 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | clerig, llenor, bardd |
Bywgraffiad
golyguBrodor o Fodellog ym mhlwyf Llanwnda, ger Caernarfon, oedd Hugh Lewis, a aned yno yn 1562. Hanodd o deulu enwog am offeiriaid a llenorion.[2] Cafodd ei addysg brifysgol yng Ngholeg yr Holl Eneidiau, Rhydychen.[3]
Daeth yn glerigwr Anglicanaidd ar ôl gadael Rhydychen. Ym 1590 cafodd fywoliaeth plwyf Llanddeiniolen, Sir Gaernarfon (Gwynedd heddiw). Ym 1608 cafodd ei apwyntio'n Ganghellor Eglwys Gadeiriol Bangor. Ym 1623 olynodd y bardd Edmwnd Prys fel rheithor plwyfi Ffestiniog a Maentwrog ym Meirionnydd. Bu farw ym 1634.[3]
Gwaith llenyddol
golyguEi brif waith llenyddol yw'r gyfrol Perl mewn Adfyd a gyhoeddwyd yn Llundain ym 1595. Cyfieithiad i'r Gymraeg ydyw o lyfr y Protestant Seisnig Miles Coverdale, sef A Spyrytuall and most Precious Pearle. Roedd hwnnw yn ei dro yn gyfieithiad o'r traethawd Almaeneg Kleinot gan Otto Werdmüller (bu farw 1551).[2]
Ceir cywydd gan Huw ar ddiwedd y Perl mewn Adfyd, sy'n dangos ei fod yn cyfansoddi cerddi caeth hefyd.
Llyfryddiaeth
golygu- Perl mewn Adfyd (Llundain, 1595)
- Perl mewn Adfyd, adargraffiad gyda rhagymadrodd gan W. J. Gruffydd (Caerdydd, 1929)