Hywel Griffiths
Bardd, awdur, darlithydd ac ymgyrchydd gwleidyddol[1] yw'r Prifardd Ddr Hywel Meilyr Griffiths (ganed 18 Mawrth 1983)[2] .
Hywel Griffiths | |
---|---|
Ganwyd | 18 Mawrth 1983 Ysbyty Cyffredinol Glangwili |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd |
Tad | Tweli Griffiths |
Gwobr/au | Gwobr Tir na n-Og |
Gwefan | http://hywelgriffiths.cymru/ |
Bywgraffiad
golyguGaned Hywel Griffiths yng Nghaerfyrddin ac fe'i magwyd ar fferm ger Llangynog. Ei dad yw'r newyddiadurwr adnabyddus Tweli Griffiths. Mynychodd Ysgol Gynradd Llangynog, Ysgol Gyfun Bro Myrddin a Phrifysgol Aberystwyth. Mae'n gweithio fel darlithydd yn Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear y Brifysgol erbyn hyn.[3][4] Mae hefyd yn gyn Gadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.[5]
Hywel oedd Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith am flwyddyn a hanner rhwng Mawrth 2007 a Hydref 2008.
Enillodd Gadair Eisteddfod yr Urdd yn 2004 (Ynys Môn) ac yn 2007 (2007), a Choron Eisteddfod Caerdydd 2008 gyda'i ddilyniant o gerddi rhydd ar y testun "Stryd Pleser" dan yr enw Y Tynnwr Lluniau.[6] Enillodd Gadair Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau yn 2015.[7]
Cyrhaeddodd ei gasgliad unigol cyntaf o gerddi, Banerog, restr fer Llyfr y Flwyddyn yn 2009. Enillodd Wobr Tir na n-Og 2011 yng nghategori Llyfrau Cymraeg ar gyfer y sector cynradd gyda'i nofel gyntaf i blant, sef Dirgelwch y Bont[6].
Llyfryddiaeth
golyguBarddoniaeth
golygu- Crap ar Farddoni (gyda Catrin Dafydd, Eurig Salisbury, Aneirin Karadog, Iwan Rhys) (Gwasg Carreg Gwalch, 2006)
- Banerog (Y Lolfa, 2009)
- Llif Coch Awst (Cyhoeddiadau Barddas, 2017)
Llyfrau plant
golygu- Dirgelwch y Bont, Cyfres Strach (Gwasg Gomer, 2010)
Erthyglau
golygu- "Geomorffoleg afonol Cymru: heddiw, ddoe ac yfory", Gwerddon 2(3) (2008): tud. 40-83)
Gwobrau ac anrhydeddau
golygu- 2004 – Y Gadair, Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd
- 2007 – Y Gadair, Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd
- 2008 – Y Goron, Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 2008 – Y Tynnwr Lluniau
- 2011 – Gwobr Tir na n-Og, Llyfrau Cymraeg ar gyfer y sector cynradd – Dirgelwch y Bont
- 2015 - Y Gadair, Eisteddfod Genedlaethol Cymru Maldwyn a'r Gororau 2015
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Gwybodaeth Lyfryddol: Banerog. Gwales.
- ↑ Adnabod Awdur: Hywel Griffiths (PDF). Cyngor Llyfrau Cymru. Adalwyd ar 8 Mehefin 2012.
- ↑ Adnabod Awdur: Hywel Griffiths. Cyngor Llyfrau Cymru (2011).
- ↑ Staff Academaidd » Griffiths,Hywel. Prifysgol Aberystwyth. Adalwyd ar 14 Mehefin 2011.
- ↑ Comment is free... > Hywel Griffiths > Profile. The Guardian. Adalwyd ar 14 Mehefin 2011.
- ↑ 6.0 6.1 Rhestr Awduron Cymru: GRIFFITHS, HYWEL. Llenyddiaeth Cymru. Adalwyd ar 14 Mehefin 2011.
- ↑ Hywel Griffiths yn ennill Cadair Eisteddfod 2015. Adalwyd 7 Awst 2015