Gwladwriaeth Islamaidd

(Ailgyfeiriad o ISIS)

Cyfundrefn ymbarél derfysgol yw'r Wladwriaeth Islamaidd[9] (Arabeg: الدولة الإسلاميةad-Dawlah l-ʾIslāmiyyah) (Saesneg: Islamic State (IS)) a adnabyddir cynt fel Gwladwriaeth Islamaidd Irac a'r Lefant (Arabeg: الدولة الاسلامية في العراق والشام‎ اختصاراً: داعش Dawlat al-ʾIslāmiyya fi al-'Iraq wa-l-Sham), ISIS neu ISIL. Yn 2014 roedd ei haelodau'n weithgar yn Irac a Syria. Bwriad y grŵp a'i gynghreiriad yw sefydlu gwladwriaeth Islamaidd Sunni ffwndamentalaidd a fyddai'n ymestyn o'r Lefant i Gwlff Persia a gweddill y byd. Galwant eu hunain yn galiffad, ac maent yn hawlio awdurdod crefyddol dros pob Mwslim dros hyd a lled y byd[10] a cheisiant reoli'n wleidyddol gwledydd Mwslemaidd y byd,[11] gan gychwyn gydag Irac, Syria a thiriogaethau'r Lefant (yr Iorddonen, Israel, Palesteina, Libanus, Cyprus a rhan o dde Twrci.[12][13]

Y Wladwriaeth Islamaidd
الدولة الإسلامية (Arabeg)
ad-Dawlah l-ʾIslāmiyyah
Baner Gwladwriaeth Islamaidd Irac a'r Lefant
Motto: باقية وتتمدد (Arabeg)
"Bāqiyah wa-Tatamaddad" (trawslythreniad)
"Y gweddill sy'n cynyddu"
[1][2]
Y sefyllfa ar 24 Awst 2014      Ardaloedd a reolir gan Y Wladwriaeth Islamaidd      Ardaloedd a hawliwyd gan Y Wladwriaeth Islamaidd      Gweddill Irac a Syria Nodyn: diffeithwch anghyfannedd yw llawer o'r map.
Y sefyllfa ar 24 Awst 2014      Ardaloedd a reolir gan Y Wladwriaeth Islamaidd      Ardaloedd a hawliwyd gan Y Wladwriaeth Islamaidd      Gweddill Irac a Syria Nodyn: diffeithwch anghyfannedd yw llawer o'r map.
Y sefyllfa ar 24 Awst 2014

     Ardaloedd a reolir gan Y Wladwriaeth Islamaidd      Ardaloedd a hawliwyd gan Y Wladwriaeth Islamaidd      Gweddill Irac a Syria

Nodyn: diffeithwch anghyfannedd yw llawer o'r map.
PrifddinasAr-Raqqah, Syria[3][4]
35°57′N 39°1′E / 35.950°N 39.017°E / 35.950; 39.017
Llywodraeth Califfiaeth
 -  Caliph Ibrahim[5][6]
Sefydliad
 -  Cyhoeddi sefydlu Gwladwriaeth Islamaidd Irac a'r Lefant 3 Ionawr 2014[7][8] 
 -  Cyhoeddi Califfiaeth 29 Mehefin 2014 
Rhanbarth amser Amser Safonol Arabia Amser +3)
Côd deialu +963 (Syria)
+964 (Iraq)

Grŵp "terfysgol"

golygu

Dynodwyd y grŵp yn derfysgol gan nifer o wledydd gan gynnwys: Unol Daleithiau America, y Deyrnas Gyfunol, Awstralia, Canada, Indonesia a Sawdi Arabia, ac fe'i disgrifiwyd gan y Cenhedloedd Unedig[14] a'r wasg yn y Gorllewin fel grŵp "terfysgol". Mynegodd y CU eu bod yn euog o "mass atrocities" ac yn euog o droseddau rhyfel.[15][16]

Mae'r grŵp wedi newid ei enw sawl tro; pan ffurfiwyd ef gyntaf yng ngwanwyn 2004 galwyd ef yn Jamāʻat al-Tawḥīd wa-al-Jihād, sef "Y Sefydliad dros Undduwiaeth a Jihad" (JTJ).[17] Fe'i sefydlwyd yn Irac ar 15 Hydref, 2006 dan yr enw Gwladwriaeth Islamaidd Irac.

Roedd y grŵp gwreiddiol yn cynnwys sawl grŵp Iracaidd, yn cynnwys Cyngor Shwra y Mujahideen, Al-Qaeda, Jeish al-Fatiheen, Jund al-Sahaba, Katbiyan Ansar Al-Tawhid wal Sunnah, Jeish al-Taiifa al-Mansoura, a.y.y.b., a mudiadau eraill o ffydd Sunni. Y bwriad oedd sefydlu califfiaeth yn ardaloedd Sunni Irac.

Pan oedd Rhyfel Irac ar ei anterth, hawliai bresenoldeb sylweddol yn nhaleithiau Iracaidd Al Anbar, Ninawa, Kirkuk, Salah ad Din, a rhannau o Babil, Diyala, a Baghdad. Hawliai Baqubah yn "brifddinas". Mae miloedd o bobl, yn sifiliaid ac yn aelodau o'r lluoedd diogelwch, wedi cael eu lladd gan y grŵp yn Irac.

Ers dechrau'r Rhyfel yn Syria, mae'r grŵp wedi sefydlu presenoldeb sylweddol yn nhaleithiau Syriaidd Ar-Raqqa, Idlib ac Aleppo. Ei brif gynghreiriad yn Syria yw Jabhat al-Nusra, y cryfaf o'r grwpiau jihad Salaffaidd sy'n ceisio dymchwel llywodraeth yr Arlywydd Bashar al-Assad.[18]

Ym mis Mehefin 2013, cyhoeddodd al-Nusra jihad yn erbyn Cyrdiaid gogledd Syria. Ar 5 Awst 2013, llofruddiodd rhyfelwyr al-Nusra dros 450 o bentrefwyr mewn gwaed oer, yn cynnwys 120 o blant, ym mhentref Cyrdaidd Tal Abyad.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Hassan, Hassan (11 Mehefin 2014). "Political reform in Iraq will stem the rise of Islamists". The National. Cyrchwyd 18 Mehefin 2014.
  2. Khatib, Lina (12 Mehefin 2014). "What the Takeover of Mosul Means for ISIS". Carnegie Endowment for International Peace. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-05-04. Cyrchwyd 18 Mehefin 2014.
  3. "ISIS on offense in Iraq". Al-Monitor. 10 Mehefin 2014. Cyrchwyd 11 Mehefin 2014.
  4. Kelley, Michael B. (20 Awst 2014). "One Big Question Surrounds The Murder Of US Journalist James Foley By ISIS". Business Insider. Cyrchwyd 20 Awst 2014. ...the de facto ISIS capital of Raqqa, Syria...
  5. Rubin, Alissa J. (5 July 2014). "Militant Leader in Rare Appearance in Iraq". The New York Times. Cyrchwyd 6 July 2014.
  6. "ISIS Spokesman Declares Caliphate, Rebrands Group as Islamic State". SITE Institute. 29 June 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-06-29. Cyrchwyd 29 June 2014.
  7. "Iraqi City in Hands of Al-Qaida-Linked Militants". 4 Ionawr 2014. Cyrchwyd 16 Ionawr 2014. Unknown parameter |publisher= ignored (help)
  8. "The Crisis in Iraq" (PDF). UMAA. 18 Mehefin 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2014-09-03. Cyrchwyd 29 Awst 2014.
  9. "ISIL renames itself 'Islamic State' and declares Caliphate in captured territory". Euronews. 30 Mehefin 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-08-25. Cyrchwyd 30 Mehefin 2014.
  10. "داعش تعلن تأسيس دولة الخلافة وتسميتها "الدولة الإسلامية" فقط دون العراق والشام والبغدادي أميرها وتحذر "لا عذر لمن يتخلف عن البيعة". Arabic CNN. 29 Mehefin 2014. Cyrchwyd 31 Gorffennaf 2014.. Check date values in: |accessdate= (help)
  11. "Isis rebels declare 'Islamic state' in Iraq and Syria". BBC News. 30 Mehefin 2014. Cyrchwyd 30 Mehefin 2014.
  12. "What is ISIS? — The Short Answer". The Wall Street Journal. 12 Mehefin 2014. Cyrchwyd 15 Mehefin 2014.
  13. Tharoor, Ishaan (18 Mehefin 2014). "ISIS or ISIL? The debate over what to call Iraq's terror group". The Washington Post. Cyrchwyd 18 Mehefin 2014.
  14. "Security Council concerned about illicit oil trade as revenue for terrorists in Iraq, Syria". Y Cenhedloedd Unedig. 2014-07-28. Cyrchwyd 2014-08-17.
  15. http://www.bbc.com/news/world-middle-east-28948555 www.bbc.com
  16. http://www.aljazeera.com/news/middleeast/2014/08/un-accuses-islamic-state-group-war-crimes-2014827153541710630.html www.aljazeera.com
  17. Uppsala Data Conflict Programme: Conflict Encyclopaedia (Iraq). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-09-27. Cyrchwyd 2014-08-31. ; adalwyd 5 Awst 2014.
  18. "Islamic law comes to rebel-held Syria". The Washington Post. 23 Gorffennaf 2013.