Chhattisgarh
Chhattisgarh (Chhattisgarhi/Hindi: छत्तीसगढ़), yw talaith ddiweddaraf India. Fe'i lleolir yng nghanolbarth y wlad a chafodd ei ffurfio pan enillodd 16 ardal Chhattisgarhi eu hiaith de-ddwyrain Madhya Pradesh statws talaith ar 1 Tachwedd, 2000. Raipur yw'r brifddinas. Chhattisgarh yw'r dalaith ddegfed mwyaf India o ran ei maint. Daw'r enw Chhattisgarh o'r 36 o dywysogaethau hynafol yn yr ardal (Chattis, '36' yn Hindi, a garh 'caer').
![]() | |
Math | talaith India ![]() |
---|---|
Prifddinas | Raipur ![]() |
Poblogaeth | 29,436,231 ![]() |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Vishnu Deo Sai ![]() |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Hindi, Chhattisgarhi ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | India ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 135,194 km² ![]() |
Yn ffinio gyda | Madhya Pradesh, Maharashtra, Odisha, Jharkhand, Uttar Pradesh, Telangana, Andhra Pradesh ![]() |
Cyfesurynnau | 21.27°N 81.6°E ![]() |
IN-CG ![]() | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Government of Chhattisgarh ![]() |
Corff deddfwriaethol | Chhattisgarh Legislative Assembly ![]() |
Pennaeth y wladwriaeth | Anusuiya Uikey ![]() |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Chief Minister of Chhattisgarh ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth | Vishnu Deo Sai ![]() |
![]() | |
Mae'r dalaith yn ffinio â Madhya Pradesh i'r gogledd-orllewin, Maharashtra i'r gorllewin, Andhra Pradesh i'r de, Orissa i'r dwyrain, Jharkhand i'r gogledd-ddwyrain ac Uttar Pradesh i'r gogledd.
Chhattisgarhi, iaith Indo-Araidd yw prif iaith yr ardal, ond Hindi, sy'n agos iawn i Chhattisgarhi, yw iaith swyddogol y dalaith. Yn y bryniau mae'r pobloedd Gond yn byw, sy'n siarad ieithoedd Dravidaidd.

![]() |
Taleithiau a thiriogaethau India |
---|---|
Taleithiau | Andhra Pradesh • Arunachal Pradesh • Assam • Bihar • Chhattisgarh • Goa • Gorllewin Bengal • Gujarat • Haryana • Himachal Pradesh • Jharkhand • Karnataka • Kerala • Madhya Pradesh • Maharashtra • Manipur • Meghalaya • Mizoram • Nagaland • Orissa • Punjab • Rajasthan • Sikkim • Tamil Nadu • Telangana • Tripura • Uttarakhand • Uttar Pradesh |
Tiriogaethau | Ynysoedd Andaman a Nicobar • Chandigarh • Dadra a Nagar Haveli • Daman a Diu • Delhi • Jammu a Kashmir • Lakshadweep • Puducherry |