Cyfranc Lludd a Llefelys

chwedl Gymraeg Canol sy'n troi o amgylch teyrnasiad Beli Mawr a'i feibion Lludd a Llefelys yn Ynys Prydain
(Ailgyfeiriad o Cyfranc Lludd a Llevelys)

Chwedl Gymraeg Canol sy'n troi o amgylch teyrnasiad Beli Mawr a'i feibion Lludd a Llefelys yn Ynys Prydain yw Cyfranc Lludd a Llefelys (Cymraeg Canol, Cyfranc Lludd a Llevelys, sef 'Chwedl Lludd a Llefelys'). Fe'i cyfrifir yn un o'r tair chwedl frodorol yn y Mabinogion, gyda Breuddwyd Macsen a Breuddwyd Rhonabwy.

Cyfranc Lludd a Llefelys
Llinellau agoriadol Cyfranc Lludd a Llefelys (Llyfr Coch Hergest, Coleg yr Iesu, Rhydychen
Enghraifft o'r canlynolffabl, Märchen, llawysgrif Edit this on Wikidata
Rhan oLlyfr Coch Hergest Edit this on Wikidata
IaithCymraeg Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Llenyddiaeth Gymraeg
Geraint ac Enid
Prif Erthygl Llenyddiaeth Gymraeg
Llenorion

550-1600 · 1600-heddiw

Y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu

Tarddiad y chwedl golygu

Mae'n bosibl iddi gael ei llunio tua diwedd y 12g dan ddylanwad amlwg gwaith Sieffre o Fynwy, ond mae'n tynnu ar draddodiadau hŷn o lawer yn ogystal. Cedwir y testun cyfan yn Llyfr Coch Hergest a cheir testun anghyflawn yn Llyfr Gwyn Rhydderch. Yn ogystal fe'i ceir yn ychwanegiad i destun o un o'r cyfieithiadau Cymraeg o Historia Regum Britanniae Sieffre o Fynwy yn syth ar ôl y bennod am Ludd fab Beli Mawr yn union cyn lanio'r Rhufeiniaid ym Mhrydain. Ymddengys felly fod y chwedl yn bodoli yn ei ffurf bresennol erbyn tua 1200, ond ceir cyfeiriadau hŷn ati yng ngwaith Beirdd y Tywysogion hefyd. Yn ogystal, ceir cerdd o'r enw 'Ymarwar ["dadl"] Lludd a Llefelys' yn Llyfr Taliesin. Daw chwedl y dreigiau (gweler isod) o Historia Brittonum Nennius, ond mae'r manylion yn wahanol.[1]

Crynodeb golygu

Brenin y Brythoniaid yw Lludd fab Beli, a'i lys yn Llundain. Mae ei frawd Llefelys yn frenin coronog ar Ffrainc. Mae'r gyfranc (chwedl) yn ymdroi o gwmpas y Tair Gormes (gweler isod) sy'n bla ar y Brythoniaid a'r modd mae Lludd yn ymgynghori â'i frawd Llefelys yn eu cylch ac yn llwyddo i gael gwared arnynt.

Y Tair Gormes golygu

  • Y Coraniaid. Cenedl estron o bobl gorraidd sy'n defnyddio hud a lledrith. Mae pob gair a yngenir yn dod i'w clustiau ac felly nid oes modd cynllwynion i gael gwared arnynt. Bodau arallfydol sy'n perthyn i'r Tylwyth Teg ydynt yn hytrach na chorachod go iawn. Ni cheir disgrifiadau ohonynt. Llwydda Lludd i'w trechu trwy arllwys cymysgedd sy'n cynnwys pryfed briwedig arnynt.
  • Y Diasbad (gwaedd). Bob Nos Calan Mai byddai gwaedd ofnadwy i'w glywed yn y deyrnas a barai fraw annioddefol ac anffrwythlondeb i bob dim byw, yn ddynion, merched, ac anifeliaid, ac a ddifethai'r cnydau a ffrwythlondeb y tir ei hun. Dwy ddraig yn ymladd a barai hynny, un ohonynt yn ddraig goch (sy'n cynrychioli'r Brythoniaid) a'r llall yn ddraig wen (sy'n cynrychioli'r Saeson). Addasiad neu amrywiad ar y chwedl a geir yng ngwaith Nennius sydd yma. Delir y dreigiau gan gloddio pwll odanynt yn Rhydychen, canol union Ynys Prydain. Wedi ymlâdd yn llwyr ar ôl cwffio mae'r dreigiau yn suddo'n lluddedig i grochan llawn o fedd yn rhith moch a syrthio i gysgu. Fe'u cymerir oddi yno a'u claddu yn Ninas Emrys yng nghanol Eryri.
  • Y Cawr Lledrithiol. Cawr hud a lledrith sy'n dod gyda'r nos ac yn peri i bawb yn y llys gysgu wrth wrando ei gerddoriaeth swyngyfareddol. Mae ganddo gawell sy'n ddihysbys ac mae'n ei lenwi â'r bwyd a diod yn llys Lludd a'u dwyn. Llwydda Lludd i'w drechu gan gadw'n effro trwy drochu ei ben mewn crochan o ddŵr oer. Ar ôl gornest hud a lledrith hir mae Lludd yn trechu'r Cawr sy'n dod yn ddeiliad ffyddlon iddo wedyn.

Ymddengys fod y Tair Gormes hyn yn addasiad neu adlais o draddodiad a geir yn y Trioedd:

Tair gormes a ddaeth i'r Ynys hon, ac nid aeth yr un drachefn ["yn ei hôl"].
Un ohonynt ciwdod ["llu"] y Coraniaid, a ddaethant yma yn oes Caswallon fab Beli, ac nid aeth yr un ohonynt drachefn. Ac o Asia yr oeddynt yn hanu.
Ail, Gormes y Gwyddyl Ffichti. Ac nid aeth yr un ohonynt drachefn.
Trydydd, Gormes y Saeson, a Hors a Hengist yn benaduriaid arnynt.[2]

Dim ond y Coraniaid sy'n aros o'r Triawd ac mae ffigurau o fytholeg a llên gwerin wedi disodli'r pobloedd hanesyddol. Yn amlwg mae chwedl y dreigiau yn cyfateb i hanes dyfodiad yr Eingl-Sacsoniaid i'r ynys, ond mae perthynas y Cawr Lledrithiol â'r Gwyddyl Ffichti yn ddirgelwch. Mae'r triawd hwn yn gymar i driawd arall sy'n ymwneud â'r 'Tri Chyfor ["llu"] a aeth o'r Ynys hon, ac ni ddaeth drachefn yr un onadunt'.[3]

Cyfeiriadau golygu

  1. Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Caerdydd, arg. newydd 1992).
  2. Rachel Bromwich (gol.), Trioedd Ynys Prydein (Caerdydd 1961; arg. newydd 1991). Triawd 36.
  3. Bromwich, op. cit., Triawd 35.

Llyfryddiaeth golygu

Y testun golygu

  • Brynley F. Roberts (gol.), Cyfranc Lludd a Llefelys (1976)
  • Ifor Williams (gol.), Cyfranc Lludd a Llevelys (Jarvis a Foster, Bangor, 1910, ail argraffiad 1922)

Astudiaethau golygu

  • Rachel Bromwich, 'Dwy Chwedl a Thair Rhamant', yn Y Traddodiad Rhyddiaith yn yr Oesoedd Canol, gol. Geraint Bowen (Gwasg Gomer, 1974)