Johann Jakob Griesbach
Diwinydd Protestannaidd a beirniad ysgrythurol o'r Almaen oedd Johann Jakob Griesbach (4 Ionawr 1745 – 24 Mawrth 1812)[1] a oedd yn un o'r rhesymolwyr blaenaf mewn ysgolheictod Beiblaidd yn ystod yr Oleuedigaeth. Efe oedd y cyntaf i ddadansoddi'r Pedair Efengyl trwy ddulliau beirniadaeth destunol, a bathodd y term synoptische ("cyfolwg") i ddisgrifio'r tair Efengyl gyntaf. Gwrthodai Griesbach y farn draddodiadol am awduraeth yr Efengylau, gan haeru bod Marc yn tarddu o Mathew a Luc.
Johann Jakob Griesbach | |
---|---|
Portread pastel o Johann Jakob Griesbach gan arlunydd anhysbys (tua 1800) | |
Ganwyd | 4 Ionawr 1745 Butzbach |
Bu farw | 24 Mawrth 1812 Jena |
Dinasyddiaeth | Archddugiaeth Hessen |
Alma mater | |
Galwedigaeth | ieithegydd, diwinydd, academydd, llenor |
Swydd | rheithor Prifysgol Jena, rheithor Prifysgol Jena, rheithor Prifysgol Jena, rheithor Prifysgol Jena |
Cyflogwr |
Ganed ef yn Butzbach, Tiriarllaeth Hessen-Darmstadt, yn yr Ymerodraeth Lân Rufeinig. Addysgwyd ef yn Frankfurt am Main, a chwblhaodd ei efrydiau ym mhrifysgolion Tübingen, Halle, a Leipzig. Enwogodd ei hun yn arbennig mewn ymchwiliadau diwinyddol a Beiblaidd, ac efe oedd hoff ddisgybl yr hanesydd eglwysig Johann Salomo Semler a'r ieithegwr ac esboniwr Johann August Ernesti. Cyn ei fod yn 24 oed, penderfynodd i ymroddi i astudio athrawiaethau a thestun y Testament Newydd. Er cyflawni ei gynllun, aeth ar daith lenyddol trwy'r Almaen, yr Iseldiroedd, a Lloegr, a gwnaeth iddo'i hun gyfeillion ymysg llenorion blaenaf y gwledydd hynny, a chasglodd ystorfa werthfawr o ddefnyddiau at ei waith mawr.
Ym 1770, dychwelodd i Frankfurt i'w trefnu ac i gynllunio'r defnyddiau hyn, ond yn y flwyddyn ddilynol penodwyd ef yn ddarlithydd diwinyddol, ac ym 1773 yn athro diwinyddol, yn Halle. Enwogodd ei hun gymaint yn y swydd hon fel y cynigiwyd iddo'r swydd o athro astudiaethau'r Testament Newydd ym Mhrifysgol Jena. Derbyniodd yr honno ym 1775, ac ym 1780 dyrchafwyd ef yn beriglor y brifysgol, ac i amryw swyddi pwysig eraill. Enwyd ef yn gynghorwr eglwysig i Ddug Sachsen-Weimar, ac yr oedd eisoes wedi ei wneuthur yn brelad dosbarth Weimar. Tua deng mlynedd cyn hyn yr oedd Griesbach wedi priodi chwaer i'r enwog Schültz, gyda'r hon y bu fyw yn ddedwydd hyd ei farwolaeth, yn Jena, Thuringia, yn 67 oed.
Cyhoeddwyd yr argraffiad cyntaf o'i destun ef o'r Testament Newydd Groeg yn Halle, ym 1754, yn y ffurf o lawlyfr i'r efrydwyr a wrandawent ei ddarlithiau. Cyhoeddwyd y gyfrol gyntaf o'r ail argraffiad ym 1796, a'r ail ym 1807. Toddwyd llythrennau newyddion yn bwrpasol ar gyfer yr argraffiad hwn gan y gwneuthurwr enwog Göschen, ac am fod Dug Grafton, canghellor Prifysgol Caergrawnt, yn mynd i'r draul o baratoi'r papur, cyhoeddodd yr awdur diolchgar ei lyfr yn Llundain a Halle ar yr un pryd.
Mae adolygiad Griesbach ar destun y Testament Newydd wedi ei seilio ar gyferbyniad rhwng y tri dosbarth mawr o'r amrywiol lawysgrifau Groegaidd, sef y llawysgrifau Alecsandraidd, Gorllewinol, a Bysantaidd neu Asiaidd. O'r rhain, y cyntaf ydy'r orau o lawer, yn ôl barn Griesbach, oherwydd y cyd-drawiad sydd yn y dyfyniadau ysgrythurol sydd ar gael yng ngweithiau Origen a thestun y llawysgrif Alecsandraidd enwog o'r Testament Newydd.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Johann Jakob Griesbach. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 11 Mawrth 2022.