John Bryan
Roedd John Bryan (1775 - 28 Mai 1856) yn weinidog yr Efengyl o Gymru ac un o brif sylfaenwyr Methodistiaeth Wesleaidd yng Nghymru.[1]
John Bryan | |
---|---|
Ganwyd | 1775 Llanfyllin |
Bu farw | 28 Mai 1856 Caernarfon |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | gweinidog yr Efengyl |
Cefndir
golyguGanwyd Bryan yn Llanfyllin, Sir Drefaldwyn yn blentyn i John Bryan, dreser llain a Francis (née Symonds neu Sims) ei wraig [2]. Does dim sicrwydd o union ddyddiad ei eni ond fe'i bedyddiwyd yn Eglwys Llanllyfni ar 15 Tachwedd 1775.[3] . Symudodd ei rieni i fyw i Groesoswallt, ond arhosodd ef yn Llanfyllin a chael ei fagu gan ei ewyrth, John Rodgers.[4]
Bu farw ei ewythr pan oedd John tua 12 oed, a bu hynny yn gryn golled iddo.
Teulu
golyguBu Bryan yn briod ddwywaith. Ei wraig gyntaf oedd Mary Griffith o Ruthun, bu hi farw ym 1821 yn Burslem. Priododd ei ail wraig, Margaret Dutton o Whitchurch yn Epsworth ym 1823. Rhwng y ddwy wraig bu gan Bryan o leiaf 15 o blant.
Tröedigaeth at Wesleaeth
golyguAr ôl marwolaeth ei ewyrth, gadawodd Llanfyllin am yr Amwythig. Symudodd oddi yno i Gorwen, ac o Gorwen i Gaer. Yng Nghorwen daeth o dan ddylanwad y Parch. John Jones, o Edern, gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, ac ymaelododd a chapel yr enwad yn y Bala.[5] Ond wedi symud o Gorwen i Gaer ymollyngodd drachefn i ganlyn cwmni drwg, ac i arferion annuwiol [4] Yng Nghaer bu'n gweithio fel groser, dilledydd a chlerc i gyfreithiwr. Fel rhan o'i swydd fel clerc byddai'n aros mewn tafarndai wrth weithio i gasglu tystiolaeth ar daith. Roedd gymdeithas y dafarn yn ei arwain at fedd-dod a phechodau eraill. Roedd yn teimlo'n edifar am droi o Gristionogaeth at bechod. Roedd y Methodistiaid Calfinaidd, bu'n gysylltiedig â hwy yng Nghymru, yn dweud bod Duw yn dethol y rhai y mae am eu hachub, roedd ei fywyd yn gwneud iddo deimlo nad oedd yn un o'r etholedig.[4]
Yng Nghaer daeth Bryan ar draws y Methodistiaid Wesleaidd. Trwy Gytundeb a wnaed rhwng Howel Harris a John Wesley, doedd y Wesleaid ddim yn Efengylu ymysg y Cymry Cymraeg. Ond cafodd Bryan modd i ail afael a'i ffydd trwy'r gwahaniaeth rhwng credoau'r ddwy gangen o Fethodistiaeth. Tra fo'r Calfiniaid yn honni bod Duw yn ddewis pobl i'w hachub roedd y Wesleaid yn credu bod pobl yn ddewis Duw i'w hachub. Ym 1778 ymaelododd a chapel Wesleaidd yr Octagon, Caer, er mwyn dewis cael ei hachub!
Gweinidogaeth
golyguDechreuodd Bryan pregethu yn ardal Caer ym 1800. Cafodd ei dderbyn i'r weinidogaeth ym 1801. Gan fod Edward Jones, Bathafarn wedi dechrau cael rhywfaint o lwyddiant wrth gyflwyno Wesleaeth i'r Cymry Cymraeg penderfynodd y Gynhadledd Fethodistaidd a gynhaliwyd yn Sheffield ym 1801 y byddai Bryan, hefyd, yn un cymwys i'r gwaith Gymraeg. Bu'n gweithio fel gweinidog cynorthwyol i Owen Davies a John Hughes, dau genhadwr di Gymraeg oedd yn gweithio yng nghanolbarth Cymru.[6] Yn nyddiadur Bryan dyddiedig 21 Awst, 1801, cofnododd "dechreuais ar waith y weinidogaeth trwy bregethu yng Nghorwen ar Ephes: vi-18, 19." Ar derfyn ei ail flwyddyn fel gweinidog symudodd i Lerpwl i ofalu am y praidd Cymreig yno, cyn dychwelyd i Gymru drachefn ym 1804 i fugeilio yng nghylch Rhuthun.
Yng nghynhadledd 1815, penodwyd Bryan i lafurio ym mhlith y Cymry ym Manceinion. Yn achlysurol pregethai hefyd i'r Saeson a phrofodd mor boblogaidd ymysg y Saeson ag oedd ymysg y Cymry. Wedi marwolaeth y Parch Thomas Coke, olynydd John Wesley fel arweinydd y Wesleaid ym 1814 penderfynodd yr enwad i geisio sicrhau dyfodol eu cylchdeithiau mwy sefydledig yn Lloegr yn hytrach na chenhadu yng Nghymru a chafodd nifer o'r gweinidogion Cymraeg eu danfon i wasanaethu yn Lloegr ym 1816. Symudodd Bryan i Rochdale, gan ymroi yn llwyr i'r gwaith Seisnig. O Rochdale symudodd i'r Eglwys Wen, Swydd Amwythig, ac ym 1820, i Burslem. Yn Awst 1822, symudodd i Epworth, Swydd Lincoln. Bu anghydfod rhyngddo a'i eglwys yn Epworth, wedi iddo briodi Margaret Dutton, merch oedd wedi cael plentyn siawns. Ymadawodd a'r weinidogaeth ym 1824.
Symudodd i Leeds lle fu'n gweithio fel masnachwr te am saith mlynedd. Oddi yno symudodd i Gaernarfon gan barhau yn yr un fasnach. Yng Nghaernarfon ail gydiodd mewn pregethu ond fel lleygwr nid weinidog.[7]
Marwolaeth
golyguTreuliodd Bryan gweddill ei oes yng Nghaernarfon gan wasanaethu fel blaenor a phregethwr. Bu farw yn ei gartref yn y dref ar 28ain Mai, 1856, yn 87 mlwydd oed. Claddwyd ei weddillion ym mynwent Llanbeblig.
Cyhoeddwyd cofiant iddo gan William Davies ym 1900 John Bryan a'i Amserau
Cyfieithodd Bryan dros 50 o emynau Charles Wesley i'r Gymraeg [8]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "BRYAN, JOHN (1776 - 1856), gweinidog Wesleaidd | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2019-08-26.
- ↑ Gostegion Priodas Eglwys Llanfyllin, 1774 yng Ngofal Gwasanaeth Archifau Powys
- ↑ Cofrestr Bedydd Eglwys Llanllyfni 1775, yng Ngofal Gwasanaeth Archifau Powys
- ↑ 4.0 4.1 4.2 Y Winllan Cylchgrawn Misol y Wesleaid Mawrth 1898; Sylfaenwyr Wesleaeth Gymreig. John Bryan adalwyd 25 Tachwedd 2019
- ↑ "DMBI: A Dictionary of Methodism in Britain and Ireland John Bryan". www.dmbi.online. Cyrchwyd 2019-08-26.
- ↑ Bathafarn Cylchgrawn Cymdeithas Hanes y Methodistiaid yng Nghymru Cyf 17, 1962
- ↑ Morgans, Delyth G. (2006). Cydymaith caneuon ffydd. [Caernarfon]: Pwyllgor y Llyfr Emynau Cydenwadol. t. 469. ISBN 9781862250529. OCLC 123536494.
- ↑ Emynyddiaeth Wesleyaidd Cymraeg, T Jones Humphreys, 1903