Edward Jones (Bathafarn)

gweinidog gyda'r Methodistiaid Wesleyaidd

Un o sefydlwyr y Wesleaid yng Nghymru oedd Edward Jones (9 Mai 177826 Awst 1837)[1] a anwyd ac a fagwyd ym Mathafarn ger Rhuthun, Sir Ddinbych.[2]

Edward Jones
Ganwyd9 Mai 1778 Edit this on Wikidata
Rhuthun Edit this on Wikidata
Bu farw26 Awst 1837 Edit this on Wikidata
Leek Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethgweinidog yr Efengyl Edit this on Wikidata

Cafodd ei ordeinio'n weinidog gyda'r Wesleaid yn 1802. Mae ei garreg fedd yn hongian ar y wal y tu ôl i'r pulpud yn yr eglwys Wesleaidd yn Rhuthun: Bathafarn. Bu farw yn Leek, Swydd Stafford.

Cefndir

golygu
 
Bathafarn, plasty ger y ffermdy

Ganed Jones yn Rhuthun y pumed o chwech o blant a anwyd i Edward ac Anne Jones. Ar adeg ei eni roedd ei dad yn cadw busnes groser yn y dref. Cafodd ei fedyddio yn Eglwys Rhuthun ar 28 Mai 1778.[3] Yn fuan wedyn symudodd y teulu i Fferm Bathafarn, Llanrhydd ac yno y magwyd Jones ac fel Jones, Bathafarn cafodd ei adnabod ar hyd ei oes. Derbyniodd ei addysg yn ysgol ramadeg Rhuthun.

Ymadawodd Jones ar ysgol pan oedd tua dwy ar bymtheg mlwydd oed gan symud i Fanceinion i weithio mewn warws cotwm. Ym 1796 ymunodd â'r gynulleidfa Wesleaidd yn Oldham Street, lle'r oedd y Parch George Marsden yn weinidog.

Dychwelodd i Gymru ym mis Rhagfyr 1799, pan fu farw ei frawd hynaf, er mwyn cynorthwyo ei dad hynafol gyda gwaith y fferm. Roedd yn benderfynol o gyflwyno'r sefydliad Wesleaidd i'w wlad enedigol gan hynny gwahoddodd weinidogion o gylchdaith Caer i bregethu yn Rhuthun mewn ystafell a llogodd at y diben.[4] Cynhaliwyd y gwasanaethau yn Saesneg. Ar y Suliau pan nad oedd gweinidog o Gaer ar gael arweiniodd Jones gyfarfodydd gweddi eto yn Saesneg gan nad oedd yn gyffyrddus gweddïo yn y Gymraeg wedi arfer a'r Saesneg fel iaith gweddi ym Manceinion. Dygwyd perswâd arno gan un o'r rai oedd yn mynychu'r cyfarfodydd i egluro egwyddorion ei gredoau mewn Cymraeg pob dydd. Cytunodd gwneud hynny a chafodd gwell hwyl arni nag oedd wedi disgwyl. Wedi clywed am ei ymdrechion i gyflwyno'r Gymraeg i addoliad yr enwad cysylltodd y Parch John Bryan, brodor o Lanfyllin a oedd wedi symud i Gaer, gan gynnig cynnal gwasanaeth Cymraeg ac i fagu hyder Jones i bregethu'n ffurfiol yn yr iaith. Wedi hynny bu Jones a Bryan yn cynnal oedfaon Cymraeg bob yn ail ddydd Sul.[5]

Ymledodd yr achos yn gyflym. Creodd cynhadledd Wesleaidd 1800 Rhuthun yn gylchdaith (ardal o weinidogaeth Wesleaidd), a phenderfynwyd sefydlu cenhadaeth Gymreig oddi yno. Ar ôl dwy flynedd o brawf fel pregethwr lleol ordeiniwyd Jones yn weinidog ym 1802. Nid oedd ymlediad yr achos yn cael ei groesawu gan bawb. Wedi cael gwahoddiad i bregethu yn Abergele trodd gynulleidfa o rhwng 3 i 4 mil allan i wrando arno a bu'n rhaid iddo gynnal y gwasanaeth yn yr awyr agored. Cafodd ei arestio a mynd o flaen yr ynadon am gynnal addoliad y tu allan i adeilad trwyddedig. Er i'r ynadon ei rwystro rhag pregethu achosodd y digwyddiad i'w cefnogwyr i sicrhau bod rhes o adeiladau trwyddedig addas yn cael eu hagor ar hyd arfordir y gogledd.[3]

Pan gychwynnodd Jones a Bryan pregethu yn y Gymraeg dim ond un gylchdaith Cymraeg (ardal o weinidogaeth Wesleaidd) oedd yng Nghymru ond dan ei weinidogaeth ffurfiwyd sawl un arall a bu Jones yn gwasanaethu mewn nifer ohonynt yn ystod y 14 mlynedd nesaf:

Wedi marwolaeth y Parch Thomas Coke, olynydd John Wesley fel arweinydd y Wesleaid ym 1814 penderfynodd yr enwad i geisio sicrhau dyfodol eu cylchdeithiau mwy sefydledig yn Lloegr yn hytrach na chenhadu yng Nghymru. Cafodd nifer o'r gweinidogion Cymraeg eu danfon i wasanaethu yn Lloegr ym 1816 gan gynnwys Jones. Doedd Jones ddim yn hapus wrth droi cefn ar yr eglwysi a'r cylchdeithiau y bu'n chware rhan mor flaenllaw yn ei sefydlu ond nid oedd dewis ganddo. Bu'n gweinidogaethu yn yr Eglwys Wen, Swydd Amwythig, 1817-18; Knaresborough, 1819-21; Dewsbury, 1822-23; Oldham, 1824-25; Northwich, 1826-27; Clithero, 1828; Durham, 1829-30 ; Cylchdaith Saesneg Wrecsam, 1831-32 ; Cylchdaith Saesneg Hwlffordd, 1833-35 a Leek, 1836.

Priododd â Dorothy Roberts o Blas Llangwyfan ar 4 Gorffennaf 1806 a bu iddynt o leiaf bump o blant.

Marwolaeth

golygu
 
Capel Coffa Edward Jones, Bathafarn

Bu farw Jones yn Leek, Swydd Stafford yn 59 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Eglwys Fethodistaidd Mount Pleasant Leek. Pan gaewyd capel Mount Pleasant ym 1892, symudodd Cymdeithas Hanes yr Eglwys Fethodistaidd ei garreg bedd o Leek a'i osod o flaen Capel Coffa Edward Jones, Bathafarn, capel y Wesleaid yn Rhuthun.

Gwaddol

golygu
  • Pan adeiladwyd capel newydd ei enwad yn Rhuthun ym 1865 fe'i henwyd yn Gapel Coffa Edward Jones, Bathafarn.[6]
  • Pan sefydlwyd cylchgrawn ar gyfer Cymdeithas Hanes yr Eglwys Fethodistaidd yng Nghymru fe'i henwyd yn Bathafarn er anrhydedd i gyfraniad Jones i'r achos [7]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Eric Edwards, Yr Eglwys Fethodistaidd (Gwasg Gomer, 1980), tud. 97.
  2. "JONES, EDWARD (1778 - 1837), 'Edward Jones, Bathafarn,' gweinidog gyda'r Methodistiaid Wesleyaidd | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2019-08-26.
  3. 3.0 3.1 Yr Eurgrawn Wesleaidd Cyfrol CI, Rhif 12, Rhagfyr 1909 Y PARCH. EDWARD JONES, BATHAFARN adalwyd 26 Awst 2019
  4. Thompson,, Andrew C (2018). The Oxford history of protestant dissenting traditions. Volume II, The long eighteenth century c. 1689 - c. 1828. Oxford: Oxford University Press. t. 175. ISBN 9780191006685. OCLC 1038491686.CS1 maint: extra punctuation (link) CS1 maint: date and year (link)
  5. "Jones, Edward [known as Jones Bathafarn] (1778–1837), Wesleyan Methodist minister - Oxford Dictionary of National Biography". www.oxforddnb.com. doi:10.1093/ref:odnb/9780198614128.001.0001/odnb-9780198614128-e-14999. Cyrchwyd 2019-08-26.
  6. Owen, D. Huw. (2005). Capeli Cymru. Delyth, Marian. Talybont, Ceredigion: Y Lolfa. t. 161. ISBN 0862437938. OCLC 62890952.
  7. Bathafarn Cyf 1 Rhif 1