John Jones, Tal-y-sarn

pregethwr amlwg a grymus neilltuol, a gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd

Roedd John Jones, Talysarn (1 Mawrth 179616 Awst 1857) yn bregethwr adnabyddus i'r Methodistiaid Calfinaidd yng Nghymru.

John Jones, Tal-y-sarn
Ganwyd1 Mawrth 1796 Edit this on Wikidata
Dolwyddelan Edit this on Wikidata
Bu farw16 Awst 1857 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcrefyddwr, pregethwr Edit this on Wikidata
PriodFanny Jones Edit this on Wikidata
PlantThomas Jones, Ann Jones, John Jones Edit this on Wikidata

Ei Fywyd a'i Deulu

golygu

Ganwyd John Jones mewn cartref nodedig o'r enw Tanycastell, Dolwyddelan, ar 1 Mawrth, yn ddisgynnydd ar ochr ei dad a'i fam i William Prichard ac Angharad James o Gwm Penamnen. Ganwyd mae'n debyg yn 1796, er bod ei fywgraffydd yn cofnodi amheuaeth ynglŷn â ai yn 1796 eu 1797 yr oedd. Ni chafodd addysg ffurfiol, ac roedd yn uniaith Gymraeg.

Tua 1820, ac yntau'n ddyn ifanc, roedd yn weithiwr ar adeiladu ffordd newydd Thomas Telford rhwng Capel Curig a Llyn Ogwen - sef yr A5 presennol. Tua'r un adeg, roedd hefyd yn ymddiddori mewn materion crefydd, a bu'n treulio amser ar ben ei hun mewn ceunant o'r enw Nant y Tylathau, ar lethrau Moel Siabod, yn myfyrio ac ystyried pregethu.

 
Parchedig John Jones, Talysarn
 
Mrs Fanny Jones, Talysarn

Aeth ymlaen i fod yn chwarelwr, ac yn 1822 symudodd i fyw i Dalysarn yn Nyffryn Nantlle. Yn fuan wedi hyn, cyfarfu a phriododd Frances, neu Fanny, Edwards. 'Rhoddodd gorau i'r chwarel yn fuan wedi priodi, a bu John a Fanny Jones yn cadw siop gwerthu pobdim yn Nhalysarn. I bob pwrpas, hi oedd yn gweinyddu'r siop - gan fod ganddi Saesneg a dealltwriaeth ar fasnach, ac yn gallu trin yr holl brynu a gwerthu - gan adael amser iddo yntau deithio a phregethu. Erbyn 1829 fe'i ordeinwyd yng ngwasanaeth yr Eglwys Methodistaidd. Aeth ymalen i fod yn bregethwr adnabydus ledled Cymru.

Rhwng 1850 a 1852 roedd wedi ymuno ac eraill i brynu Chwarel Dorothea, a bu'n arolygydd ar y chwarel. Ond ymddengys nad oedd yn lwyddiant mawr fel perchennog chwarel ac roedd y gwaith yn amharu ar ei bregethu hefyd.

 
Y Siop 'Nantlle House'

Bu i nifer o'i frodyr a'i chwiorydd, ynghyd â nifer eraill o Ddolwyddelan a'r ardal, ymfudo i Wisconsin, gan ymsefydlu yn bennaf o gwmpas pentref Cambria, ac ymddengys iddo yntau ystyried ymuno â hwy yn America. Ond yng Nghymru arhosodd John a Fanny Jones, a chael tri-ar-ddeg o blant.

Bu farw ar 16 Awst, 1857, ac fe'i gladdwyd ym mynwent eglwys Llanllyfni. Yn gorymdeithio gyda'r cynhebrwng oedd 8 o feddygon, 65 o weinidogion a phregethwyr, 70 o flaenoriaid, 200 o gantorion a chantoresau ac oeddeutu 4,000 o feibion ac o ferched, a'r niferoedd yn tyfu ar y ffordd gan efallai 2,000 arall. Bu farw Fanny, ei wraig, ar 1 Awst, 1877.

Arddull ei Waith

golygu

Llwyddiant mawr John Jones oedd ei fod yn siarad yn uniongyrchol ac yn effeithiol i'r bobl gyffredin am ystyr crefydd i'w bywydau, nid am ddadleuon diwinyddol.

Yn ôl y Parchedig M. Hughes, o'r Felinheli,

John Jones a fu y prif offeryn i greu y dull newydd yn mhlith y Methodistaiad yng Nghymru. Yr hen ddull oedd pregethu ar bynciau athrawiaethol. Teimlodd llawer, nid yn unig yn mysg y Methodistiad, ond hefyd yn mysg yr annibynnwyr a'r Bedyddwyr, fod ryw ddiffyg pwysig yn y dull hwnnw, ac y dylasai y pechadur yntau wneyd rhywbeth er sicrhau ei gadwedigaeth

Ac yn ôl Owen Thomas, ei fywgraffydd,

"Pregethwr y Bobl" yn arbenig ydoedd. Edrychent arno megis un o honynt en hunain, ac mewn modd neillduol yn eiddo iddynt eu hunain.

'Roedd hefyd yn gerddor, a chyfansoddwr yr emyn-dôn 'Llanllyfni'.

Cofebau

golygu
 
Cofeb i Frodyr Tanycastell
 
Bedd a Chofeb ym mynwent Eglwys Sant Rhedyw, Llanllyfni
  • Saif cofeb i John Jones a'i dri brawd wrth ymyl eu cartref genedigol, Tanycastell ar ochr yr A470 yn Nolwyddelan
  • Ar ochr tŷ Tanycastell, mae llechen yn cofnodi'r brodyr a'r chwiorydd ac yn cynnwys yr englyn hon am John Jones,
Clogwyni coleg anian - wnaeth ryfedd
Athrofa i Ioan
Ai yn null gwron allan
Mawr ŵr Duw roes Gymru ar dân
  • cododd ei gefnder, Cadwaladr Owen, gofeb iddo yn Nant y Tylathau.
  • Mae cofeb iddo a'i wraig Fanny ym mynwent Eglwys y plwyf, Llanllyfni

Ffynonellau

golygu
  • W. R. Ambrose (1871), Hynafiaethau, Cofiannau a Hanes Presennol Nant Nantlle, y Traethawd Buddugol yn Eisteddfod Gadeiriol Pen-y-groes
  • Cledwyn Jones (2003), Mi Wisga'i Gap Pig Gloyw, John Glyn Davies, 1870-1953, Gwasg Pantycelyn. ISBN 1-903314-56-9
  • O. Llew Owain (1907), Cofiant Mrs Fanny Jones, gweddw y diweddar Barch. J. Jones, Talysarn cyhoeddwyd gan Mrs Jones, Cambrian House, Machynlleth.
  • Griffith Owen (1896), Cadwaladr Owen, Hughes a'i Fab, Wrecsam
  • G. T Roberts, 'John Jones Tal-y-Sarn (1796-1857)', Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon, cyfrol 18 (1957)
  • Owen Thomas, D.D. (1874), Cofiant y Parchedig John Jones, Talsarn, Wrecsam

Dolenni allanol

golygu