John Parry (Y Telynor Dall)
Cerddor enwog o Nefyn yn Llŷn, Gwynedd oedd John Parry (1710? - Hydref 1782), a adnabyddid fel Y Telynor Dall a John Parry Ddall neu Parry Ddall Rhiwabon. Fel mae ei lysenw yn awgrymu, roedd yn ddall o'i enedigaeth.
John Parry | |
---|---|
Portread o John Parry gan ei fab William Parry. Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd | |
Ganwyd | 1710 Nefyn |
Bu farw | Hydref 1782, 1782 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | cerddor |
Plant | William Parry |
Gyrfa
golyguGaned John Parry yn Nefyn yn 1710 (yn ôl pob tebyg). Roedd yn delynor medrus a noddwyd i ddechrau gan y teulu Griffiths o ystad Cefn Amwlch ym Mryn Cynan, Llŷn. Yn nes ymlaen, daeth yn delynor teuluol i Syr Watkin Williams-Wyn ym mhlas Wynnstay, ger Rhiwabon, cartref y teulu Williams Wyn (Wyniaid Wynnstay). Aeth i Lundain yng nghwmni Syr Watkin lle cafodd ei gyflwyno i gylchoedd uchel y ddinas.
Enillodd fri mawr fel un o delynorion disgleiriaf ei oes. Bu galw mawr am ei berfformiadau yng Nghymru a'r tu hwnt, a chwaraeodd yn Llundain, Dulyn a Rhydychen.
John Parry oedd yr ysbrydoliaeth i'r bardd Seisnig Thomas Gray ysgrifennu ei gerdd ramantaidd ddylanwadol The Bard (1757).
Cyhoeddodd dri llyfr sydd â lle pwysig yn hanes cerddoriaeth Cymru, gan cynnwys Antient British Music (1742), a ddaeth ag ef i sylw cynulleidfa eang (am 'British' darllener 'Cymreig/Cymraeg').
Roedd mab John Parry, William Parry (1752-1791), yn artist dawnus. Paentiodd luniau o'i dad sydd i'w gweld yn Amgueddfa Cymru, Caerdydd heddiw.
Llyfryddiaeth
golyguLlyfrau John Parry
golygu- Antient British Music (1742)
- A Collection of Welsh, English and Scotch Airs (1761)
- British Harmony, being a collection of Ancient Welsh Airs (1781)
Cofiant
golygu- Huw Williams, John Parry, Y Telynor Dall (1983)