John Vanbrugh
Pensaer a dramodydd o Sais oedd Syr John Vanbrugh (Ionawr 1664 – 26 Mawrth 1726).
John Vanbrugh | |
---|---|
Ganwyd | 24 Ionawr 1664 Dinas Llundain |
Bu farw | 26 Mawrth 1726 o asthma Llundain |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Prydain Fawr |
Galwedigaeth | dramodydd, pensaer, llenor, general contractor |
Adnabyddus am | Castle Howard |
Plaid Wleidyddol | Chwigiaid |
Mudiad | Baróc Seisnig |
Tad | Giles Vanbrugh |
Plant | Charles Vanbrugh |
Gwobr/au | Marchog Faglor |
Ganwyd yn Llundain, yn fab i farsiandïwr o Gaer, a chafodd ei fedyddio ar 24 Ionawr 1664. Roedd ei dad-cu yn hanu o Fflandrys. Mynychodd Ysgol y Brenin, Caer, cyn iddo dderbyn gomisiwn mewn catrawd o droedfilwyr yn 1686. Tra'n ymweld â Calais yn 1690 cafodd ei arestio ar sail amheuaeth ei fod yn ysbïwr. Fe'i carcharwyd yn y Bastille, ac yno ymdrechodd i ysgrifennu comedi. Cafodd ei ryddhau yn 1692, a gwasanaethodd yn filwr am chwe mlynedd arall, er na bu'n ymladd ar faes y gad.[1]
Dilyniant i Love's Last Shift gan Colley Cibber oedd comedi gyntaf Vanbrugh, The Relapse: Or Virtue in Danger (1696). Cafodd ragor o lwyddiant gyda The Provok'd Wife (1697). Yn y 1700au addasodd sawl ffars o'r Ffrangeg ar gyfer y theatr Saesneg, gan gynnwys The Country House (1703) a The Confederacy (1705).
Fel pensaer, ei adeilad cyntaf oedd Castell Howard yn Swydd Efrog. Dyluniodd gyda chymorth Nicholas Hawksmoor, clerc Syr Christopher Wren, ac mae adeiladau'r bartneriaeth hon yn esiamplau o bensaernïaeth Faróc Lloegr ar ei hanterth. Penodwyd Vanbrugh yn oruchwyliwr gweithiau'r Frenhines Anne yn 1702, a'r flwyddyn ddilynol fe ddyluniodd Theatr y Frenhines yn stryd yr Haymarket. Fe'i dewiswyd gan John Churchill, Dug 1af Marlborough yn 1705 i ddylunio Palas Blenheim yn Woodstock, Swydd Rydychen. Ymhlith ei blastai eraill yn y cyfnod hwn mae Castell Kimbolton yn Huntingdon a Kings Weston ger Bryste.[1]
Fe'i urddwyd yn farchog gan y Brenin Siôr yn 1714, a chafodd ei benodi'n oruchwyliwr unwaith eto yn 1715. Prif weithiau Vanburgh yng nghyfnod diweddar ei yrfa ydy Eastbury yn Dorset, Seaton Delaval yn Northumberland, a Chastell Grimsthorpe yn Swydd Lincoln. Bu farw yn Llundain yn 62 oed.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) Sir John Vanbrugh. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 15 Awst 2019.