Dysgl o reis arbennig yw Kabsa (Arabeg: كبسةkabsah), wedi'i weini ar gyfer grwp o bobl,[1] ac sy'n tarddu o Sawdi Arabia ond sydd heddiw'n cael ei ystyried fel dysgl genedlaethol gwledydd penrhyn Arabia.

Kabsa
Enghraifft o'r canlynolbwyd Edit this on Wikidata
Mathrice dish Edit this on Wikidata
Deunyddreis, cig, cardamom, cneuen yr India, deilen 'bay', sinamon, leim du, nionyn, tomato Edit this on Wikidata
GwladBahrain Edit this on Wikidata
Yn cynnwysreis Edit this on Wikidata
Enw brodorolكبسة Edit this on Wikidata
GwladwriaethSawdi Arabia Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Gwneir y dysgl gyda reis a chig. Yn aml gellir dod o hyd iddo wedi'i arlwyo mewn gwledydd fel Sawdi Arabia, Coweit, Bahrain, Qatar, yr Emiradau Arabaidd Unedig, Oman, Iemen, Ahwaz (Iran) ac anialwch Negev yn Israel. Gelwir y dysgl hefyd yn makbūs / machbūs (مكبوس/مچبوس (mɑtʃˈbuːs).

Etymology golygu

Mae'r enw'n dod o'r gair kabasa (Arabeg: كبس‎), sy'n golygu'n llythrennol 'pwyso' neu 'wasgu', gan gyfeirio at y dechneg a ddefnyddir wrth goginio lle mae'r cynhwysion i gyd wedi'u gwasgu ac yna eu coginio mewn un pot.

Cynhwysion golygu

Gwneir y prydau hyn fel arfer gyda reis (basmati fel arfer), cig, llysiau, a chymysgedd o sbeisys. Mae yna lawer o fathau o kabsas ac mae gan bob math rywbeth unigryw yn ei gylch.

Mae sbeisys kabsa wedi'u cymysgu ymlaen llaw bellach ar gael o dan sawl enwau brand. Mae'r rhain yn lleihau'r amser paratoi, ond gallant fod â blas sy'n wahanol i kabsa traddodiadol. Y sbeisys a ddefnyddir mewn kabsa sy'n bennaf gyfrifol am ei flas; pupur du, clof, cardamom, saffrwm, sinamon, leim du, dail <i>bay</i> a nytmeg yw'r rhai arferol.[2]

Y prif gynhwysyn sy'n cyd-fynd â'r sbeisys yw'r cig. Y cigoedd a ddefnyddir fel arfer yw cyw iâr, cig gafr, cig oen, cig camel, cig eidion, pysgod neu gorgimwch . Mewn machbūs cyw iâr, defnyddir cyw iâr cyfan.

Gellir ychwanegu at y sbeisys, y reis a'r cig gydag almonau, cnau pinwydd, cnau mwnci, winwns a syltanas.[3] Gall y ddysgl gael ei addurno gyda ḥashū (Arabeg: حشو‎ ) a'i arlwyno'n boeth gyda daqqūs (Arabeg: دقّوس‎), sy'n saws tomato Arabeg a wneir gartref.

Dulliau coginio golygu

 
Gelwir Kabsa hefyd yn machbūs mewn gwledydd Arabaidd yng Ngwlff Persia .

Gellir coginio cig ar gyfer kabsa mewn sawl ffordd. Gelwir ffordd boblogaidd o baratoi cig yn mandi. Mae hon yn dechneg hynafol sy'n tarddu o Yemen, lle mae cig yn cael ei farbeciwio mewn twll dwfn yn y ddaear sy'n cael ei orchuddio wrth i'r cig goginio. Ffordd arall o baratoi a gweini cig ar gyfer kabsa yw mathbi, lle mae cig wedi'i sesno yn cael ei grilio ar gerrig gwastad sy'n cael eu rhoi ar ben y marwydos. Mae trydydd dechneg, madghūt, yn cynnwys coginio'r cig mewn popty pwysau uchel (pressure cooker).

Cyfeiriadau golygu

cyfeiriadauˌ

  1. The Report: Qatar 2015. Oxford Business.
  2. "Al Kabsa - Traditional Rice dish". Food.com. Cyrchwyd 23 June 2012.
  3. "How to Make Kabsa". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-12-17. Cyrchwyd 23 June 2012.