Athronydd a seiciatrydd Almaenig oedd Karl Theodor Jaspers (23 Chwefror 188326 Chwefror 1969) sydd yn nodedig am ei gyfraniadau at seicopatholeg a'i athroniaeth a ystyrir yn ffurf ar ddirfodaeth, er na disgrifiai ei hun yn ddirfodwr. Cafodd ei syniadau ddylanwad ar seicoleg, diwinyddiaeth, ac athroniaeth yn yr 20g.

Karl Jaspers
Karl Jaspers ym 1946.
GanwydKarl Theodor Jaspers Edit this on Wikidata
23 Chwefror 1883 Edit this on Wikidata
Oldenburg Edit this on Wikidata
Bu farw26 Chwefror 1969 Edit this on Wikidata
Basel Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Almaen, Y Swistir Edit this on Wikidata
AddysgDoethur mewn Athrawiaeth Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethathronydd, seiciatrydd, meddyg, diwinydd, academydd, ysgrifennwr, seicolegydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Adnabyddus amOes yr Echelin Edit this on Wikidata
PriodGertrud Jaspers Edit this on Wikidata
Gwobr/auUrdd Teilyngdod am Wyddoniaeth a Chelf, Gwobr Goethe, Gwobr Erasmus, Gwobr Heddwch y Fasnach Lyfrau Almaeneg, Pour le Mérite Edit this on Wikidata

Ganed ef yn Oldenburg yng ngogledd-orllewin Ymerodraeth yr Almaen, ac astudiodd feddygaeth ym Mhrifysgol Heidelberg yn bennaf cyn iddo gychwyn ar yrfa yn feddyg ac academydd. Gwasanaethodd yn feddyg milwrol yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, profiad a gafodd effaith bwysid ar ei feddwl. Wedi'r rhyfel, dychwelodd i Heidelberg i weithio'n seiciatrydd, a datblygodd ei ddull o ymdrin ag afiechyd meddwl trwy ddealltwriaeth empathig o brofiad y claf.

Canolbwyntia gweithiau cynnar Jaspers ar natur yr ymwybyddiaeth a'r cyfyngiadau ar wybodaeth ddynol. Yn ei gyfrol Psychologie der Weltanschauungen (1919), lluniai ei ddamcaniaeth o "sefyllfaoedd y terfyn", sef yr achlysuron mewn bywyd sydd yn gorfodi dyn i wynebu'r rhwystrau i'w ddealltwriaeth a phrofiad.

Diswyddwyd Jaspers o Brifysgol Heidelberg ym 1937 oherwydd ei wrthwynebiad i'r llywodraeth Natsïaidd, ac aeth yn alltud i'r Swistir. Yno fe barhaodd i ysgrifennu, ac i addysgu ym Mhrifysgol Basel. Dychwelodd i Heidelberg ym 1945, a chafodd ran wrth ailadeiladu byd deallusol a thraddodiad athronyddol yng Ngorllewin yr Almaen wedi diwedd yr Ail Ryfel Byd.

Canolbwyntia gweithiau diweddar Jaspers ar y berthynas rhwng athroniaeth a ffydd, ac archwiliodd y posibiliad o drosgynnu gwybodaeth a phrofiad cyfyngedig y ddynolryw drwy gyfriniaeth. Symudodd yn ôl i'r Swistir ar ddiwedd ei oes, a bu farw Karl Jaspers yn Basel yn 86 oed.

Bywyd cynnar ac addysg (1883–1909) golygu

Ganed Karl Theodor Jaspers ar 23 Chwefror 1883 yn ninas Oldenburg, a oedd yn brifddinas i Uchel Ddugiaeth Oldenburg, un o daleithiau Ymerodraeth yr Almaen. Mab ydoedd i Karl Wilhelm Jaspers ac Henriette Tantzen, a disgynnodd ar ddwy ochr ei linach o werinwyr, marsiandïwyr, a gweinidogion a fu'n breswyl yng ngogledd yr Almaen ers sawl cenhedlaeth. Cyfreithiwr, cwnstabl, ac yn ddiweddarach banciwr oedd Karl yr hynaf. Bachgen gwan ac eiddil ydoedd, a datblygodd fronciectasis yn ystod ei arddegau. O ganlyniad, dioddefai o wendid y galon am weddill ei oes.[1]

Aeth Jaspers i Brifysgol Heidelberg ym 1901 i astudio cyfreitheg; symudodd i Brifysgol München ym 1902 i barhau â'i astudiaethau cyfreithiol, ond heb fawr o frwdfrydedd. Penderfynodd newid ei radd, a threuliodd y chwe mlynedd nesaf yn astudio meddygaeth ym mhrifysgolion Berlin, Göttingen, ac Heidelberg. Cyflawnodd ei arholiad i fod yn feddyg ym 1908, ac wedi iddo gwblhau ei draethawd estynedig, Heimweh und Verbrechen ("Hiraeth a Throsedd"), derbyniodd ei ddoethuriaeth feddygol o Brifysgol Heidelberg. Cafodd ei gofrestru yn feddyg yn Chwefror 1909, a gwirfoddolodd hefyd fel cynorthwy-ydd ymchwil mewn clinig seiciatrig y brifysgol yn Heidelberg o 1909 i 1915. Daeth Jaspers yn gyfarwydd â Gertrud Mayer (1879–1974), chwaer un o'i gyd-fyfyrwyr, ym 1907, a phriodasant ym 1910.

Ymchwil seiciatrig (1909–15) golygu

 
Karl Jaspers ym 1910.

Gweithiodd Jaspers a'i gyfoedion yn y clinig yn Heidelberg dan arweiniad y niwropatholegydd enwog Franz Nissl. Am iddo gytuno i weithio heb dâl, rhoddwyd i Jaspers ryddid i ddewis amserlen a rhaglen ei hun, ac i weithio gyda'r cleifion a oedd o ddiddordeb iddo, heb gyfarwyddiaeth yr athrawon. Yn fuan, enillodd enw fel ymchwilydd arloesol ar flaen y gad wrth sefydlu seicopatholeg yn faes gwyddonol, gyda fframwaith systematig i ddeall ymddygiad dynol, ac i ddyrchafu therapi cyn pwysiced â diagnosis. Ceisiodd Jaspers roi dulliau ffenomenoleg ar waith ym maes seiciatreg glinigol, ac am hynny fe'i cysylltir â dirfodaeth. Ym 1911, ar gais y cyhoeddwr Ferdinand Springer, cytunodd Kaspers i ysgrifennu gwerslyfr ar seicopatholeg. Ffrwyth y gorchwyl hwnnw, Allgemeine Psychopathologie ("Seicopatholeg Gyffredinol"), oedd ei brif waith cyntaf, a gyhoeddwyd ym 1913 pan oedd Jaspers yn 30 oed. Nodir y gyfrol am ei amlinelliadau cynhwysfawr ac ymdriniaeth feirniadol o'r amryw ddulliau seiciatrig, ac ymdrech yr awdur i'w cyfuno ar ffurf methodoleg seicolegol gydlynol.

Ym 1913 gwahoddodd Prifysgol Heidelberg i Jaspers ymuno â'r gyfadran athroniaeth, a oedd yn cynnwys adran seicoleg. Byddai'n cael ei ddyrchafu yn gyflym yn y brifysgol: fe'i penodwyd yn is-athro seicoleg ym 1916, yn is-athro athroniaeth ym 1920, yn athro athroniaeth ym 1921, ac yn athro cadeiriol mewn athroniaeth ym 1922.[1] Derbyniodd y swydd athro ym 1921 wedi iddo wrthod cynigion tebyg o brifysgolion Kiel a Greifswald.[2]

Y tro at athroniaeth (1916–32) golygu

Galwyd Jaspers i'r fyddin yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf (1914–18), a gwasanaethodd yn feddyg mewn ysbyty milwrol yn Heidelberg. Ym 1916, fe'i anfonwyd i Ffrynt y Gorllewin fel swyddog meddygol, ac yno y byddai'n dyst i erchyllterau'r brwydro. Dylanwadwyd yn drwm ar ei feddwl gan ei brofiad o ryfel, ac o argyhoeddiad fe benderfynai nad oedd dulliau traddodiadol y gwyddonydd a'r athronydd yn ddigon i ymdrin â chyflwr y ddynolryw yn y byd modern. Aeth ati i gychwyn ar y gorchwyl o ddatblygu system athronyddol ei hun, ac at ddiben hwnnw cyhoeddodd Psychologie der Weltanschauungen ("Seicoleg Bydolygon", 1919), cyfrol sydd yn esbonio'r amryw agweddau tuag at fywyd. Ysbrydolwyd y gwaith hwnnw yn gryf gan Typologie der Weltanschauungen gan Wilhelm Dilthey. Dyma'r trobwynt yng ngyrfa Jaspers oddi ar seicoleg a thuag at athroniaeth a gwyddorau cymdeithas yn gyffredinol.[2]

Cyhoeddodd Jaspers ei gampwaith, Philosophie (tair cyfrol, 1932), sydd yn ymwneud â throsgynoldeb ac Existenz.

Y cyfnod Natsïaidd (1933–45) golygu

Fe'i diswyddwyd o Brifysgol Heidelberg ym 1937 oherwydd ei wrthwynebiad i'r llywodraeth Natsïaidd, ac aeth yn alltud i'r Swistir. Yno fe barhaodd i ysgrifennu, ac i addysgu ym Mhrifysgol Basel. Yr oedd ei wraig Gertrud yn Iddewes, ac yr oedd erledigaeth ac hil-laddiad yr Iddewon gan y Natsïaid yn fygythiad a phoen gwirioneddol i'r cwpl. Myfyriodd Jaspers yn fynych ar gyfrifoldeb ei genedl yn y rhyfel a llofruddiaethau'r Iddewon, a chesglir ei ysgrifau am bwnc euogrwydd yr Almaen yn y gyfrol Die Schuldfrage, ein Beitrag zur deutschen Frage (1946).

Diwedd ei oes (1945–69) golygu

 
Karl a Gertrud Jaspers yn eu cartref yn Basel ym 1966.

Dychwelodd i'r Almaen ym 1945, ac yn sgil diwedd y rhyfel cafodd ei aildderbyn i staff Prifysgol Heidelberg, a'i benodi yn seneddwr er anrhydedd i'r brifysgol ym 1946. Cyhoeddodd y gyfrol gyntaf o'i waith Philosophische Logik ym 1947. Aeth Jaspers yn ôl i'r Swistir ym 1948 i addysgu ym Mhrifysgol Basel. Ym 1958 rhoddwyd iddo Wobr Heddwch yr Almaen yn Ffair Lyfrau Frankfurt,[2] a dyfarnwyd iddo Wobr Erasmus ym 1959.[3] Bu farw Karl Jaspers yn Basel ar 26 Chwefror 1969 yn 86 oed.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Karl Jaspers. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 13 Mai 2023.
  2. 2.0 2.1 2.2 (Saesneg) "Jaspers, Karl (1883–1969)", Encyclopedia of Philosophy (2005).
  3. (Saesneg) "Former Laureates: Karl Jaspers". Praemium Erasmianum Foundation. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-05-04. Cyrchwyd 25 Mehefin 2017.