Kenyanthropus
Kenyanthropus platyops Amrediad amseryddol: Plïosen | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Primates |
Teulu: | Hominidae |
Is-deulu: | Homininae |
Genws: | (?) Australopithecus |
Rhywogaeth: | A. platyops |
Enw deuenwol | |
†Australopithecus platyops Leakey et al., 2001 |
Ffosil Hominin 3.2 to 3.5-miliwn o flynyddoedd oed yw Kenyanthropus platyops; dyma'r amrediad amser a elwir yn Gyfres Plïosen. Canfyddwyd y ffosil hwn o benglog yn Llyn Turkana yng Nghenia, Affrica yn 1999 gan Justus Erus.[1]
Cynigiodd Leakey (2001) fod y ffosil yn cynrychioli rhywogaeth a genws hollol newydd, ond mae eraill yn ei ddosbarthu fel rhywogaeth newydd o Australopithecus, Australopithecus platyops, ond mae eraill yn ei ddosbarthu fel unigolyn oddi fewn i Australopithecus afarensis.
Cafwyd darganfyddiadau pellach yng Nghenia yn 2015, sydd o bosib y dystiolaeth hynaf o'r defnydd o offer llaw; eu barn nhw ydy mai'r Kenyanthropus platyops oedd y cyntaf i ddefnyddio offer llaw.[2]
Geirdarddiad
golyguDaw'r enw Kenyanthropus platyops i'r rhywogaeth unigryw hwn am sawl rheswm: defnyddiwyd y gair “Kenyanthropus” (o'r gair 'Cenia') er mwyn cydnabod y wlad fel gwlad anrhaethol bwysig o ran y darganfyddiadau archaelolegol o wahanol hominins ac oherwydd fod y darganfyddiadau hyn wedi taflu golau newydd ar esblygiad dynol. Mae enw'r rhywogaeth, sef “platyops” yn tarddu o ddau air Groeg: platus, sef "fflat", ac opsis, sef "wyneb", sy'n cyfeirio at wyneb fflat y craniwm a ddarganfuwyd.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Kenyanthropus platyops; adalwyd Tachwedd 2015
- ↑ BBC News, 21/05/2015: Oldest stone tools pre-date earliest humans; bbc.com; adalwyd Tachwedd 2015
Gweler hefyd
golyguDolenni allanol
golygu- Rhywogaethau ominid
- Phylogeneg Mikko Archifwyd 2008-01-10 yn y Peiriant Wayback