Lleng Rufeinig oedd Legio VI Ferrata. Ffurfiwyd y lleng gan Iŵl Cesar tua 52 CC, a'i symbolau oedd y tarw a Romulus a Remus a'r blaidd.

Defnyddiodd Cesar y lleng yn ei ymgyrchoedd yng Ngâl. Roedd yn rhan o'r fyddin a orchfygodd Vercingetorix yn Alesia, a'r flwyddyn wedyn, gorchfygodd wrthryfel y Carnutes. Ymladdodd dros Cesar yn y rhyfel cartref yn erbyn Gnaeus Pompeius Magnus, gan gymeryd rhan yn llawer o'r brwydrau, megis Brwydr Ilerda yn 49 CC a Brwydr Pharsalus yn 48 CC. Wedi diwedd y rhyfel, cafodd llawer o'i hen filwyr diroedd yn ardal Arles.

Wedi marwolaeth Cesar, ymladdodd dros Marcus Antonius ym mrwydr Philippi yn 42 CC. Ychydig flynyddoedd wedyn, gyrrwyd y lleng i Judea, lle cynorthwyodd Herod Fawr i ddod yn frenin yn 37 CC. Y flwyddyn wedyn, gyda Legio III Gallica, cymerodd ran yn ymgyrch aflwyddiannus Antonius ynerbyn y Parthiaid.

Wedi i Antonius gael ei orchfygu gan Augustus, gyrroedd Augustus y lleng i Syria. Yn 58, ymladdodd y lleng yn erbyn y Parthiaid eto, fel rhan o fyddin Gnaius Domitius Corbulo. Gwrthryfelodd yr Iddewon yn 66, ac roedd Legio VI Ferrata yn un o'r llengoedd a yrrwyd yn eu herbyn dan Vespasian.

Ymladdodd dan Trajan yn 114, gan gipiwyd Armenia a Mesopotamia. Symudodd ei olynydd, Hadrian, y lleng o afon Ewffrates i Arabia yn 118. Yn 132, dychwelodd i Judea, i ymladd yn erbyn gwrthryfel Simon Bar Kochba, ac yn y blynyddoedd wedyn, Galilea oedd ei chanolfan. Ymladdodd yn erbyn y Parthiaid eto dan Lucius Verus rhwng 162 a 165. Cefnogodd Septimius Severus yn rhyfeloedd cartref 193-197. Yn 215, roedd yn dal yng Ngalilea.