Lewis William Lewis (Llew Llwyfo)
Canwr, bardd, nofelydd a newyddiadurwr o Gymru oedd Lewis William Lewis (31 Mawrth 1831 – 23 Mawrth 1901), fu'n adnabyddus wrth ei enw barddol Llew Llwyfo (neu "Y Llew" ar lafar).
Lewis William Lewis | |
---|---|
![]() Llew Llwyfo tua 1875. | |
Ffugenw | Llew Llwyfo ![]() |
Ganwyd | 31 Mawrth 1831 ![]() Llanwenllwyfo ![]() |
Bu farw | 23 Mawrth 1901 ![]() Y Rhyl ![]() |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, Cymru ![]() |
Galwedigaeth | bardd, newyddiadurwr ![]() |
Cyflogwr | |
Plant | Eleanor Lewis ![]() |
Bywgraffiad
golyguBywyd Cynnar
golyguGaned Llew Llwyfo ym mhentref Penysarn, Llanwenllwyfo, ger Amlwch, Ynys Môn. Roedd ei dad yn fwynwr a weithiai yng ngwaith copr Mynydd Parys.[1] Ychydig iawn o addysg gafodd Llwyfo ac erbyn ei arddegau cynnar roedd ef ei hun eisoes yn gweithio yn y gwaith hefyd; ychydig yn ddiweddarach fodd bynnag daeth yn brentis i frethynnwr ym Mangor. Yn ddiweddarach wedyn dychwelodd i gadw siop ei hun ym Mhensarn ac wedyn ysgol yn Llanallgo, ond nid arhosodd yn y swyddi amrywiol hyn yn hir. Yn ystod ei cyfnod ym Mangor cyfarfu â'r bardd Gwilym Gwalia (William Lewis, 1814-78), a ddysgodd hanfodion crefft y bardd iddo, er bod ei waith cynnar yn ieithyddol wallus, canlyniad o bosib i'r diffyg addysg gafodd.[2] Erbyn 1848 roedd yn ddigon fedrus ar y gynghanedd i ddechrau cystadlu mewn eisteddfodau ac mewn eisteddfod y flwyddyn honno yn Llannerch-y-medd derbyniodd ei ffugenw, Llew Llwyfo.[3] Roedd yn bresennol yn Eisteddfod Aberffraw 1849, a bu'n dyst i drafferthion y bardd Talhaiarn yno; daeth yn ail ei hunan hefyd mewn cystadleuaeth farddonol yno, a chanu yn gyhoeddus am dâl am y tro cyntaf yn ei fywyd.[4]
1850-1868
golyguYn 1850 symudodd i Gaergybi wedi i berchennog y siop ym Mangor ymfudo. Mynychodd Eisteddfod Rhuddlan yn 1850 pan wobrwywyd Ieuan Glan Geirionydd am bryddest ynlle awdl; daeth Llew yn blediwr i'r bryddest[5] a chyfansoddodd dwsinau ohonynt dros weddill ei oes,[6] gan nodi yn y rhagymadrodd i un o'i gyfrolau mai ei uchelfais farddonol fawr oedd cyfansoddi arwrgerdd genedlaethol Gymreig.[7] Cyhoeddodd ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth, Awen Ieuanc, yn 1851.
Symudodd nifer o weithiau eto ar ddechrau'r 1850au ac erbyn 1853 roedd yn byw yn Nhreffynnon pan gafodd ei swydd newyddiadurol gyntaf gyda Y Cymro.[8] Hon oedd y cyntaf o nifer o swyddi iddo eu cael ar nifer fawr o bapurau newydd Cymraeg mewn gwahanol leoliadau, gan gynnwys cyfnod fel golygydd Y Glorian yng Nghasnewydd. Roedd yn dod yn gynyddol boblogaidd fel canwr, a daeth yn athro i nifer o ganeuwyr ifanc, gan gynnwys Edith Wynne, a ymddangosodd gyda Llwyfo yn gyhoeddus am y tro cyntaf yn 1852.[9] Byddai'n teithio'n aml o gwmpas Cymru i gynnal cyngherddau a darlithio ar farddoniaeth; symudodd am gyfnod i Aberdâr ac yn 1855 enillodd gystadleuaeth gyda'i nofel gyntaf, Llewelyn Parri. Ymddangosodd dwy nofel eto ganddo yn yr 1860au, Huw Huws yn 1860 a Troad yr Olwyn yn 1865.
Erbyn yr 1860au roedd ei boblogrwydd fel canwr ar ei anterth, a'i enw'n ddigon i lenwi neuaddau mawr. Fodd bynnag, gyda'r werin yn hytrach na'r dosbarth canol roedd ei boblogrwydd fwyaf; a bu hefyd yn gyff gwawd i nifer o gerddorion mwy proffesiynol megis, yn eu plith Brinley Richards, oedd wedi derbyn hyfforddiant mwy ffurfiol ac a gyhuddai Llew Llwyfo o ddiffyg chwaeth ac o ganu caneuon masweddus.[10]
1868-1880
golyguYn bennaf, ymddengys, mewn ymgais i ennill rhagor o arian, teithiodd Llwyfo i'r Unol Daleithiau yn 1868 am daith fyddai'n parhau yn y pendraw am bum mlynedd.[11] Roedd ei gyngherddau yno'n boblogaidd ac yn 1869 cyhoeddodd dwy gyfrol gwahanol o farddoniaeth dan yr un teitl, Gemau Llwyfo. Cyhoeddwyd un yn Lerpwl a'r llall yn Utica, Efrog Newydd; er gwaetha'r un teitl mae cynnwys y ddwy gyfrol yn wahanol, gyda'r gyfrol a gyhoeddwyd ym Mhrydain yn cynnwys cerddi byrion a'r gyfrol Americanaidd yn cynnwys sawl arwrgerdd.[12]
Dychwelodd i Gymru yn 1873, ac er y bu'r daith yn llwyddiannus, byddai ei yrfa fel canwr cyngerdd yng Nghymru'n machlud yn "araf ond sicr" dros weddill y ddegawd.[13]
Degawdau Olaf: 1880-1901
golyguYmddengys mai 1880 oedd y tro olaf iddo ymddangos ar lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol fel canwr.[14] Roedd erbyn hyn yn dlawd - treuliodd gyfnod mewn wyrcws - ac yn cynnal ei hun, o leiaf yn rannol, drwy ennill gwobrau barddonol.[6] Roedd ei fuddigoliaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1888 pan enillodd y Goron yn un gymharol annisgwyl,[15] serch hynny llwyddodd unwaith eto yn Llanelli yn 1895.[16]
By farw yn Y Rhyl a chladdwyd ef ym Mynwent Llanbeblig, Caernarfon.[17]
Bywyd Personol
golyguPriododd Llew Llwyfo â Sarah Hughes (1830-1889) yn 1850.[18] Cawsant nifer o blant. Er nad oes tystiolaeth pendant i brofi bod Llwyfo yn anffyddlon i'w wraig, yn ôl ei gofiannydd Eryl Wyn Rowlands mae traddodiad yn y teulu bod Llew Llwyfo wedi mwynhau nifer o anturiaethau carwriaethol y tu allan i'w briodas, gyda'i ddisgybl Edith Wynne ymhlith ei gariadon, o bosib. Mae'n arwyddocaol hefyd iddo dreulio cyfnodau lawer o'i oes oddi cartref gan adael Sarah ar ôl, gan gynnwys ei gyfnod yn Aberdâr a phan aeth i'r Unol Daleithiau am bum mlynedd.[19]
Roedd Llew Llwyfo'n ffigwr dadleuol fyddai'n cael hi'n anodd derbyn beirniadaeth; dadleuai'n aml gyda'i gyd-Gymry. Roedd yn alcoholig am gyfnodau hirion o'i fywyd (er gwaethaf themâu dirwestol ei nofelau)[20] a chawsai broblemau mynych wrth drin arian;[21] byddai problemau personol fel hyn yn cael effaith andwyol ar ei yrfa.
Gwaddol
golyguFel Cerddor
golyguDenai cyngherddau Llew Llwyfo torfeydd mawrion. Ar anterth ei boblogrwydd yn ystod yr 1860au roedd yn ffigwr blaenllaw yn yr eisteddfodau ac roedd ei gyngherddau cyhoeddus yn yr Unol Daleithiau yn ddigon poblogaidd i'w gynnal yno am bum mlynedd wrth grwydro'r wlad honno'n perfformio i Gymry alltud. Roedd yn athro i ganeuwyr eraill, Edith Wynne yn flaenaf yn eu plith. Roedd ganddo berthynas dda gyda rhai cyfansoddwyr megis Joseph Parry ac ysgrifennodd eiriau i'w gosod ganddynt, ac ambell i alaw wreiddiol a osodwyd i gyfeiliant wedyn gan eraill. Fodd bynnag roedd wrth i'r ganrif fynd rhagddo ac wrth i gerddorion Cymru ymbroffesiynoli dan ddylanwad cynyddol y colegau cerddorol ac ymbarchuso dan ddylanwad moeseg yr oes, dechreuwyd ystyried Llwyfo yn gymeriad masweddus, anghelfydd braidd, ac erbyn diwedd yr 1870au roedd y gwahoddiadau wedi dechrau mynd yn fwyfwy anaml, a'r cynulleidfaoedd yn llai. Prif sylwedd ei repertoire oedd caneuon poblogaidd ac fe feirniadwyd ei chwaeth gan rai; nid oes cofnod iddo erioed ganu aria operatig.[22]
Fel Llenor
golyguRoedd Llew Llwyfo yn fardd toreithiog o ran ei allbwn, yn enwedig wrth gystadlu mewn Eisteddfodau. Enillodd nifer fawr o fân wobrwyau Eisteddfodol ond rhaid ystyried hyn yng nghyd-destun ei allbwn enfawr: ni ellir bod yn hollol sicr faint o bryddestau iddo eu cyfansoddi i ymgeisio ar gyfer gwobrau Eisteddfodol ond mae'n ymddangos iddo wneud hynny o leiaf naw o weithiau ar gyfer Eisteddfodau Cenedlaethol; yn rhannol os nad yn bennaf er mwyn cynnal ei hun gyda'r arian a roddid am ennill.[6] Enwir dwsinau o bryddestau eraill yn ei gofiant, y mwyafrif helaeth bellach ar goll. Mor gynnar â 1860 cyfaddefodd ei fod yn "canu am wobrau".[23] Nid oes un cerdd ganddo yn Blodeugerdd Barddas o'r Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg na'r Oxford Book of Welsh Verse. Cyhuddwyd ef o len-ladrad ar adegau,[24] ac honnai T. Gwynn Jones bod Llwyfo wedi arfer dweud mai dim ond y gallu i gyfieithu o'r Saesneg oedd ei angen i ennil y Goron.[25]
Wedi iddo farw gadawodd lawysgrif cyfrol anghyhoeddiedig o'r enw Llafur Llwyfo, sef ei ddetholiad o'i weithiau barddonol, sy'n cynnwys yr unig gopiau o lawer o gerddi iddo eu hysgrifennu ar ôl 1868; ond yn ôl ei gofiannydd "nid yw ei delynegion yn dod i'r un cae â geiriau Talhaiarn neu Ceiriog."[26]
Er mai pethau digon achlysurol iddo oedd ei nofelau, hwythau sydd wedi derbyn y sylw fwyaf gan feirniaid diweddarach, os dim ond oherwydd eu bod yn hannu o gyfnod mor gynnar yn hanes y nofel Gymraeg. Roedd Llewelyn Parri (1855) yn un o'r nofelau cynharaf yn y Gymraeg i ymddangos ar ffurf cyfrol, ac roedd Richard Hughes Williams yn ei hystyried hi'n nofel bwysig gan ddweud ei bod hi'n fwy "diddorol" na Rhys Lewis.[27] Ystyriai Dafydd Jenkins bod Llewelyn Parri ymhlith "[g]oreuon dosbath y chwedlau nad ydynt nofelau".[28] Tair nofel lawn - Llewelyn Parri, Huw Huws a Troad yr Olwyn a thair nofelig fer - Cyfrinach Cwm Erfin, Y Wledd a'r Wyrth a Cydymaith yr Herwheliwr o eiddo Llew Llwyfo sydd wedi goroesi. Ymddengys iddo ysgrifennu nofel o'r enw John Jones sydd bellach wedi'i cholli.[29]
Llyfryddiaeth
golyguCyhoeddiadau
golygu- Awen Ieuanc (1851)
- Llewelyn Parri: neu y Meddwyn Diwygiedig (nofel) (1855)
- Huw Huws neu y llafurwr Cymreig (nofel) (1860)
- Llyfr y Llais (1865)
- Troadau yr Olwyn (nofel) (1865)
- Gemau Llwyfo (Lerpwl, 1868)
- Gemau Llwyfo (Utica, 1868; cyfrol wahanol i'r uchod)
- Y Creawdwr (1871)
- Cyfrinach Cwm Erfin, a Y Wledd a'r Wyrth (dwy nofelig yn yr un gyfrol; dim dyddiad)
- Buddugoliaeth y Groes (1880)
- Cydymaith yr herwheliwr: neu a gollwyd ac a gafwyd. Chwedl Wledig (nofelig) (1882)
- Adgofion Llew Llwyfo o'i Ymdaith yn America, ganddo ef ei hun
- Bywgraffiad Llew Llwyfo, yn llcenyddol, cerddorol, ac eisteddfodol, wedi ei ysrifennu ganddo ef ei hun (Llyfrau Ceiniog Humphreys Caernarfon)
- John Jones (nofel a gollwyd[30])
Ffynonellau
golygu- Rowlands, Eryl Wyn (2001). Y Llew oedd ar y Llwyfan. Gwasg Pantycelyn. ISBN 9781903314241
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Rowlands, t. 14.
- ↑ Rowlands, t. 27.
- ↑ Rowlands, t. 27.
- ↑ Rowlands, t. 30.
- ↑ Rowlands, t. 33.
- ↑ 6.0 6.1 6.2 Rowlands, t. 147-149.
- ↑ Llew Llwyfo, Gemau Llwyfo, Utica t.119
- ↑ Rowlands, t. 38.
- ↑ Rowlands, t. 38.
- ↑ Rowlands, t. 54-55.
- ↑ Rowlands, t.90.
- ↑ Rowlands, t. 90-93.
- ↑ Rowlands, t. 143.
- ↑ Rowlands, t. 145.
- ↑ Rowlands, t. 164.
- ↑ Rowlands, t. 178.
- ↑ Gwall cyfeirio: Tag
<ref>
annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enwEryl Wyn Rowlands 2001
- ↑ Rowlands, t. 32.
- ↑ Rowlands, t. 198.
- ↑ Rowlands, t. 198.
- ↑ Rowlands, t. 141.
- ↑ Rowlands, t. 143.
- ↑ Millward, E. G. Yr Arwrgerdd Gymreig, t.154
- ↑ Rowlands, t. 53.
- ↑ Jones, T. Gwynn Llenyddiaeth Cymru, t. 30.
- ↑ Rowlands, t. 159-60.
- ↑ Jenkins, Dafydd "Y Nofel Gymraeg Gynnar" yn Williams, Gerwyn (gol.) Rhyddid y Nofel (1999), Gwasg Prifysgol Cymru; t.42
- ↑ Jenkins, Dafydd "Y Nofel Gymraeg Gynnar" yn Williams, Gerwyn (gol.) Rhyddid y Nofel (1999), Gwasg Prifysgol Cymru; t.44
- ↑ Rowlands, t. 199.
- ↑ Rowlands, t. 199.