Lleiandy Llanllŷr
Lleiandy Sistersiaidd a sefydlwyd yn Nyffryn Aeron, Ceredigion, tua 1180 yw Llanllŷr. Enwir y lleiandy ar ôl y santes a adwaenir fel Llŷr Forwyn, yn hytrach na'r duw Celtaidd Llŷr: ni wyddys dim amdani ar wahân i'r ffaith ei bod yn nawddsant Llanllŷr.
Math | Cistercian nunnery, priordy |
---|---|
Cysylltir gyda | Llŷr Forwen |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Talsarn |
Sir | Ceredigion |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.182428°N 4.134071°W |
Cod OS | SN54215602 |
Statws treftadaeth | Henebion Cenedlaethol Cymru |
Sefydlwydwyd gan | Rhys ap Gruffudd |
Manylion | |
Mae ei union leoliad yn ansicr. Yn y 19g, cofnodwyd gan hynafiaethwyr lleol fod bwthyn gwyngalchog ger pentref Ystrad Aeron (tua hanner ffordd rhwng Aberaeron a Llanbedr Pont Steffan) yn perthyn iddo. Gorweddai felly ar lan ddeheuol afon Aeron gyferbyn â Trefilan, tua 6 milltir i'r de-ddwyrain o Aberaeron. Nid oes olion o gwbl i'w gweld yno heddiw.
Hanes
golyguSefydlwyd y lleiandy yng nghantref Is Aeron gan yr Arglwydd Rhys o Ddeheubarth tua'r flwyddyn 1180. Ymddengys fod rhai o'r lleianod o leiandy Llansantffraed-yn-Elfael (sefydliad byrhoedlog, tua 1170-1190) wedi symud yno. Roedd Llanllŷr dan oruchwyliaeth Abaty Ystrad Fflur ac ymddengys fod y mam-abaty yn edrych arno fel dim llawer mwy na graens yn perthyn i'r abaty.
Cyfeiria Gerallt Gymro ato yn 1188 fel "tŷ crefydd bychan a thlawd" yn ei lyfr Hanes y Daith Trwy Gymru. Ond noda fod 16 o leianod yn byw yno, sy'n nifer uchel am Gymru, a'u bod i gyd o dras anrhydeddus. Pan gollodd y lleiandy nawdd yr Arglwydd Rhys ar ôl ei farwolaeth collodd ran o'i dir i Abaty Ystrad Fflur. Dioddefodd yn ystod rhyfeloedd y 13g a derbynwyd iawndal o ddeugain o farciau yn 1284 i dalu am ddifrod a wnaed gan filwyr Edward I o Loegr. Erbyn 1291 mae stent yn nodi ei werth fel £7 yn unig a dim ond 1200 acer o ffermdir oedd yn perthyn iddo. Erbyn ei ddiddymu yn 1536 roedd yn werth £57.
Ffuglen
golyguYsgrifennodd y nofelwraig Rhiannon Davies Jones y nofel fer Lleian Llan-Llŷr (1965) am hanes dychmygol lleian yn Llanllŷr yn y 1240au. Fel gweddill ei nofelau hanes, mae'r cefndir hanesyddol a'r manylion cymdeithasol yn ffrwyth ymchwil gofalus ac mae'r nofel yn cynnig darlun diddorol o fywyd lleian ifanc o dras dywysogaidd ar gynfas ehangach gwleidyddiaeth y cyfnod.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- Jane Cartwright, Y Forwyn Fair, Santesau a Lleianod (Gwasg Prifysgol Cymru, 1999)
- Rod Cooper, Abbeys and Priories of Wales (Abertawe, 1992)