Lleiandy Llanllugan

Lleiandy a sefydlwyd yn negawdau olaf y 12g yn Llanllugan, cantref Cedewain, Powys, oedd Lleiandy Llanllugan. Gorweddai ym mhlwyf Llanllugan i'r de-orllewin o Lanfair Caereinion mewn cwm sy'n aros yn ddigon diarffordd heddiw. Mae'n bosibl taw ffurf ar enw'r Santes Lluan a geir yn yr enw.

Lleiandy Llanllugan
Mathabaty Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 12 g Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirDwyriw Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.6106°N 3.3929°W Edit this on Wikidata
Map

Cyfeirir ato gan Gerallt Gymro a Dafydd ap Gwilym. Lleiandy Sistersaidd oedd Llanllugan, a sefydlwyd gan Maredudd ap Rhobert rhywbryd rhwng 1170 a 1190, efallai. Fel oedd yr arfer dan y drefn fynachaidd, rhoddwyd y lleiandy dan oruchwyliaeth Abaty Ystrad Marchell. Roedd Llanllugan yn un o ddau leiandy Sistersiaidd yng Nghymru, gyda Llanllŷr (Ceredigion).

Cymuned fechan oedd Llanllugan, fel y gweddill o leiandai Cymru'r Oesoedd Canol. Gwisgoedd gwyn oedd gan y lleianod, yn ôl Dafydd ap Gwilym, sy'n cyfeirio atynt fel "rhai lliwgalch". Digwydd mewn cywydd gan y bardd sy'n anfon llatai (negesydd serch) at un o'r lleianod (y glochyddes, sydd eisoes yn gyfarwydd â charu) i'w pherswadio i gwrdd â'r bardd mewn coedwig:

O caf innau rhag gofal
O'r ffreutur dyn eglur dâl,
Oni ddaw er cludaw coed,
Hoywne eiry, honno erod —
Da ddodrefn yw dy ddeudroed —
Dwg o'r côr ddyn deg i'r coed,
Câr trigain cariad rhagor;
Cais y glochyddes o'r côr —
Cais frad ar yr Abades —
Cyn lleuad haf, ceinlliw tes,
Un a'i medr, einym adail,
A'r lliain du, i'r llwyn dail.

Pan ddiddymwyd y mynachlogydd rhwng 1534 a 1536, cafwyd dim ond tair o leianod yno. Ni wyddom faint o leianod fu yno pan oedd ar ei anterth, ond mae'n annhebygol y bu mwy na thua dwsin yn trigo yno ar unrhyw un adeg. Yn 1337 gwnaethpwyd asesiad sy'n dangos fod pedair lleian ac un abades yno.

Mae eglwys y lleiandy wedi goroesi fel eglwys plwyf Llanllugan, sef Eglwys y Santes Fair. Ceir ffenestr liw odidog yno sy'n dyddio i ddiwedd y 15g. Mae'n portreadu lleian (yr abades efallai) neu noddwraig. Mae lleoliad adeiladau'r gwfent ei hun yn ansicr ond mae'n bosibl eu bod ar y ddôl 200 m i'r de o'r eglwys.

Ffynonellau

golygu

Dolenni allanol

golygu