Llwybr Menai Llŷn

llwybr troed

Mae Llwybr Llŷn (neu "Lwybr Menai - Llŷn - Meirionnydd") yn un o wyth llwybr ehangach sy'n ffurfio Llwybr Arfordir Cymru ac sy'n 146 km (91 milltir) o hyd, gan gychwyn ger Llanfairfechan yn y gogledd-ddwyrain ar hyd arfordir y Fenai, Llŷn ac i'r de i Fachynlleth. Mae'i ffiniau'n dilyn arfordir tir mawr Gwynedd ac mae'n amgylchynu gogledd a gorllewin Parc Cenedlaethol Eryri ac Llŷn sy'n Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.[1] Mae'n un o wyth llwybr rhanbarthol ar Lwybr Arfordir Cymru, sy'n 870 milltir o hyd ac a agorwyd yn 2012.[2]

Llwybr Menai Llŷn
Mathllwybr Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Hyd146 cilometr Edit this on Wikidata
I'r gogledd-ddwyrain o Drwyn Cilan.

Ymhlith y llefydd ar y llwybr y mae: Bangor, Caernarfon, Aberdaron, Pwllheli, Porthmadog, Y Bermo, Tywyn ac Aberdyfi.

Is-lwybrau lleol

golygu

Ceir nifer o lwybrau lleol, llai y gellir eu defnyddio ac sy'n cychwyn ger Llwybr yr Arfordir, er enghraifft:

  1. Taith gylchol Aberdaron i Uwchmynydd. Dyma lwybr gwastad sy'n cymryd tua pedair awr i'w cherdded ac sy'n 10 km o hyd. Arferai R.S. Thomas, fyw mewn bwthyn o fewn tiroedd Plas yn Rhiw, sydd bellach yng ngofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae golygfeydd arfordirol i'w gweld o bentir Mynydd Mawr a llawer o adar gwahanol i'w gweld.[3]
  2. Taith feics Lôn Las Menai. 7 km yw hyd y daith feics hon: o'r Felinheli i Gaernarfon gan basio Plas Menai, Canolfan Chwaraeon Dŵr Genedlaethol ar gyfer Cymru. Mae'r daith yn gyfochrog â'r Fenai ac yn cymryd tuag awr a hanner i'w gorffen. Mae i'r llwybr wyneb caled ac nid oes gatiau, bellach i'w hagor! Mae'n daith hawdd ar droed hefyd ac yn cysylltu gyda Lôn Eifion, sy'n 20 km cylchol.[4]
  3. Nant Gwrtheyrn i Dre'r Ceiri. Taith ganolig yw hon sy'n 9 km o hyd gyda nifer o rannau serth. Y man cychwyn yw maes parcio Canolfan Iaith Nant Gwrtheyrn (SH349448), ar fin y dŵr. Coron y daith yw Tre'r Ceiri (SH372446) sef Bryngaer o'r Oes Haearn a chyfnod y Rhufeiniaid - y mwyaf dwyreiniol o dri chopa'r Eifl, uwchben pentref Llanaelhaearn. Tua 3 awr mae'n ei gymryd i gerdded y daith hon a dylid gwisgo esgidiau cerdded cryfion. Ceir bwyty newydd yn Nant Gwrthyrn (sef Caffi Meinir) sydd ers rai blynyddoedd bellach yn Ganolfan Iaith a Threftadaeth Cymru.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Cyngor Sir Gwynedd - Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Llŷn (AHNE)[dolen farw]; adalwyd 02 Mehefin 2013.
  2. "All-Wales Coast Path Nears Completion". Newyddion y BBC. BBC. 17 Hydref 2011. Adalwyd 2 Ionawr 2012.
  3. "Discover Gwynedd". Cyngor Gwynedd. Cyrchwyd 13 Awst 2013.
  4. "Darganfod Gwynedd". Lôn Las Menai. Cyngor Gwynedd. Cyrchwyd 13 Awst 2013.