Malltraeth (cwmwd)
Am y pentref o'r un enw gweler Malltraeth (pentref)
Math | cwmwd |
---|---|
Poblogaeth | 4,741 |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Aberffraw (cantref) |
Gwlad | Cymru |
Yn ffinio gyda | Llifon, Menai |
Un o ddau gwmwd Cantref Aberffraw ym Môn yn Oes y Tywysogion oedd Malltraeth. Roedd yn gorwedd i'r gogledd o'r cwmwd arall, Llifon ac yn ffinio hefyd â rhan o gwmwd Menai (cantref Rhosyr) yn y de. I'r gorllewin roedd yn wynebu'r môr ac Iwerddon.
Mae Afon Cefni yn rhedeg yn araf trwy'r cwmwd gan mor wastad y tir, gan ffurfio Cors Ddyga. Un enw ar dir felly oedd mall ('pwdr, budr'). Felly 'traeth budr, mwdlyd' yw ystyr yr enw.
Roedd y cwmwd yn cynnwys sawl tref ac amlwd. Ei faenor (prif dref y cwmwd) oedd Aberffraw, safle prif lys hanesyddol brenhinoedd a thywysogion Gwynedd. Ystîl arferol rheolwyr Gwynedd ym mhob cyfnod oedd "Tywysog Aberffraw ac Arglwydd Eryri".
Plwyfi
golyguCeid wyth plwyf yn y cwmwd: