Cerrigceinwen

pentref ar Ynys Môn

Plwyf eglwysig a phentref bychan ar wasgar yng nghymuned Llangristiolus, Ynys Môn, yw Cerrigceinwen[1][2] ("Cymorth – Sain" ynganiad ) (neu Cerrig Ceinwen). Fe'i lleolir yn ne-orllewin yr ynys tua 2 filltir a hanner i'r de-orllewin o Langefni.

Cerrigceinwen
Mathpentrefan Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirYnys Môn Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.2°N 4.4°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auRhun ap Iorwerth (Plaid Cymru)
AS/auVirginia Crosbie (Ceidwadwyr)
Map

Enwir Cerrigceinwen ar ôl Ceinwen, santes leol a gysylltir â Llangeinwen ar yr ynys yn ogystal. Mae'n bosibl bod cerrig neu feini goffa yma ar un adeg, ond does dim byd i'w weld erbyn heddiw. Cofnodir ffynnon sanctaidd o'r enw "Ffynnon Cerrig Ceinwen" yn y plwyf yn 1893.[3]

Rhed Afon Ffraw trwy'r plwyf.

Yn yr Oesoedd Canol roedd Cerrigceinwen yn rhan o gwmwd Malltraeth, cantref Aberffraw, gyda'i llys yn Bodhenlli.[4]

Cerrig y Gwyddel, Cerrigceinwen
Eglwys plwyf Cerrigceinwen

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 14 Rhagfyr 2021
  3. Francis Jones, The Holy Wells of Wales (Caerdydd, 1954)
  4. Melville Richards (gol.), Atlas Môn (Llangefni, 1972)