Agor y brif ddewislen

Pentrefan a phlwyf eglwysig ar Ynys Môn yw Heneglwys ("Cymorth – Sain" ynganiad ) (cyfeiriad grid SH424762). Fe'i lleolir milltir i'r de o bentref Bodffordd yn y gymuned o'r un enw, tua hanner ffordd rhwng Gwalchmai i'r gorllewin a Llangefni i'r dwyrain. Mae 132.7 milltir (213.5 km) o Gaerdydd a 215.8 milltir (347.2 km) o Lundain.

Heneglwys
Math Pentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Ynys Môn Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 53.2593°N 4.3641°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/au Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru)
AS/au Albert Owen (Llafur)

Cynnwys

Hanes a hynafiaethauGolygu

 
Eglwys St Llwydian, Heneglwys

Mae'r eglwys yn sefydliad hynafol. Enw arall arni gynt oedd Llan y Saint Llwydion ('llwyd' yn yr ystyr 'sanctaidd').[1] Ymddengys mai Gwyddel o'r enw Corbre a sefydlodd yr eglwys, yn y 6g efallai; ceir llecyn gerllaw a elwir 'Mynwent Corbre'. Ceir sawl cyfeiriad at y fynwent honno yn y canu brud (daroganau ar gân) canoloesol.[2]

Yn 'Englynion y Beddau' yn Llyfr Du Caerfyrddin ceir englyn sy'n cyfeirio at fedd rhyfelwr o'r enw Ceri Cleddyfhir ym Mynwent Corbre yn Heneglwys:

Bedd Ceri Cleddyfhir yng ngodir Heneglwys,
Yn y diffwys graeandde,
Tarw torment, ym mynwent Corbre.
(Llyfr Du Caerfyrddin, orgraff ddiweddar)[3]

Roedd Heneglwys yn dref yn yr Oesoedd Canol, yng nghwmwd Malltraeth, cantref Aberffraw.[4]

Pobl o HeneglwysGolygu

Cynrychiolaeth etholaetholGolygu

Cynrychiolir Heneglwys yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru) a'r Aelod Seneddol yw Albert Owen (Llafur).[5][6]

CyfeiriadauGolygu

  1. Melville Richards, 'Enwau Lleoedd', yn Atlas Môn (Llangefni, 1972). Tud. 157.
  2. A. O. H. Jarman (gol.), Llyfr Du Caerfyrddin (Caerdydd, 1982).
  3. A. O. H. Jarman (gol.), Llyfr Du Caerfyrddin (Caerdydd, 1982). 18.14-16.
  4. A. D. Carr, Medieval Anglesey (Llangefni, 1982).
  5. Gwefan y Cynulliad; adalwyd 24 Chwefror 2014
  6. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014