Drama Gymraeg gan Gwenlyn Parry wedi ei seilio ar ddigwyddiadau hanesyddol yw Sal neu Sál. Fe'i cyhoeddwyd am y tro cyntaf gan Wasg Gomer ym 1982.

Sal
AwdurGwenlyn Parry
CyhoeddwrGwasg Gomer
GwladBaner Cymru Cymru
IaithCymraeg
Dyddiad cyhoeddi1982
Cysylltir gydaCwmni Theatr Cymru
MathDrama Gymraeg
Argaeleddallan o brint

Disgrifiad byr

golygu

Yn ôl y dramodydd, 'Amser y ddrama' yw "Heddiw, ond fe elwir y tystion o 1869". Achos Llys mewn 'Ystafell Ymchwiliad' yw'r plot, a geilw'r tystion ymlaen i ateb ceisiadau'r Erlynydd a'r Amddiffynnydd.

Seilir y cyfan ar achos llys o 1869, ble yr honnodd tad fod ei ferch, Sál, wedi byw am bron i ddwy flynedd heb fwyta, gan ddweud iddi gael ei dewis gan Dduw. Er bod mam Sál, y ficer lleol a Dr Davies, meddyg y teulu, yn credu hyn hefyd, nid felly Dr Hughes, meddyg arall, a dwy nyrs a ddaeth i gadw llygad ar Sál. Cynhelir yr achos llys yn sgil marwolaeth Sál, gyda'r Erlynydd yn dadlau mai twyll oedd y cyfan. Y gynulleidfa sydd i benderfynu pwy sy'n dweud y gwir, ac a yw rhieni'r ferch yn euog o ddynladdiad.

Cefndir

golygu

Cafodd y ddrama ei chomisiynu ar frys ym 1980, gan Gwmni Theatr Cymru, yn dilyn gorfod dileu eu bwriad o lwyfannu cynhyrchiad o ddrama wleidyddol Saunders Lewis, Excelsior. Yn wyneb bygythiadau cyfreithiol yn dilyn cynhyrchiad teledu o'r ddrama ym 1962, dychrynwyd Bwrdd y Cwmni rhyw ddeufis cyn y llwyfannu, ac aethpwyd ati i gomisiynu a llwyfannu cynhyrchiad brys o ddrama Gwenlyn Parry.

Dadleua'r academydd Roger Owen bod hi'n anodd dyddio'r ddrama yng ngwaddol gwaith Gwenlyn, gan i'r syniad gael ei ystyried a'i drafod gyda'r cyfarwyddwr John Hefin, fel drama radio a theledu ers tua deng mlynedd ynghynt.[1]

"Dylid chwarae'r ddrama yn ddidoriad fel nad yw'r gynulleidfa'n cael cyfle i sgwrsio â'i gilydd tan y diwedd," yn ôl cyfarwyddiadau'r dramodydd. Y gynulleidfa yw'r rheithgor sydd i benderfynu ai gwyrth neu gelwydd oedd y cyfan.[2]

Mae'r dramodydd hefyd yn nodi acen fel â ganlyn Sál, ond diflanodd yr acen ar glawr cyfrol 1982 ac erbyn cyhoeddi casgliad cyflawn o ddramâu'r dramodydd gan Wasg Gomer yn 2001.[3] Mae'r acen i'w weld ar boster gwreiddiol cynhyrchiad Cwmni Theatr Cymru o'r ddrama ym 1980. Chwarae ar 'eiria sydd yma mewn gwirionedd, rhwng talfyriad o enw'r prif gymeriad Sarah i Sál, a'r ansoddair sâl.

Cymeriadau

golygu
  • Sarah Jacob (Sál) - merch ifanc tua 12 oed
  • Evan Jacob - tad Sal tua 40 oed
  • Hannah Jacob - mam Sal tua 40 oed
  • Erlynydd - gŵr tua 30 oed
  • Amddiffynnydd - gŵr tua 30 oed
  • Y Parchedig Evan Jones - Ficer tua 35 oed
  • Dr Davies - meddyg teulu tua 50 oed
  • Dr Hughes - meddyg tua 50 oed
  • Sister Clinch - gweinyddes tua 50 oed
  • Nyrs Ann Jones - gweinyddes tua 20 oed
 
Poster Sál Cwmni Theatr Cymru 1980

Cynyrchiadau nodedig

golygu

Cyflwynwyd y ddrama am y tro cyntaf gan Gwmni Theatr Cymru ar lwyfan Theatr Gwynedd, Bangor ar 19 Mawrth 1980. Cyfarwyddwr Alan Clayton; cynllunydd Martin Morley; sain Rolant Jones; cast:[4]

Teimlai adolygwyr y cyfnod mai'r brys o orfod canfod drama newydd i'w lwyfannu yn sgil helynt Excelsior oedd yn gyfrifol am fethiant y cynhyrchiad.[1]

Mae'r actores Marion Fenner yn sôn am y cynhyrchiad yn ei hunangofiant Ŵ, Metron:

"Doedd hwn ddim yn gynhyrchiad naturiolaidd. Roedd gwely ar ganol y llwyfan, lle roedd Sal yn gorwedd, a llawer o lefelau gwahanol a goleddfau i bob cyfeiriad, ac roedd yn gallu bod yn ddigon anodd symud o gwmpas. Tua deng munud cyn i'r ddrama ddechrau, bydden ni'r cast yn mynd i sefyll ar y llwyfan ac aros 'na'n llonydd wrth i'r gynulleidfa ddod i mewn, oedd yn anarferol ar y pryd, ac yn drawiadol iawn. Gan ein bod ni'n sefyll yn gwbwl llonydd, roedd y gynulleidfa fel petaen nhw'n meddwl ein bod yn methu eu clywed nhw, ac roedd yn ddifyr iawn g'rando arnyn nhw'n sgwrsio wrth aros i'r ddrama ddechrau. Ond un noson, bu'n rhaid i ni i gyd ganolbwyntio'n galed iawn ar gadw wynebau syth a rheolaeth gaeth arnon ni'n hunain. Huw Ceredig oedd yn chwarae rhan Dr Hughes yn y ddrama, a byddai'n sefyll tua chefn y llwyfan, ar lefel eitha uchel. Y noson hon, wrth i ni i gyd sefyll, rywsut, fe ollyngodd e Polo Mint, ac fe roliodd honno i lawr pob lefel yn ei thro i flaen y llwyfan. Nagw i'n gwybod a sylwodd y gynulleidfa, ond roedd llygaid pob un o'r cast wedi'u hoelio ar y finten, a sawl pâr o ysgwyddau'n crynu wrth i ni wneud ymdrech arwrol i beidio â chwerthin".[5]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 Owen, Roger (2013). Gwenlyn Parry - Writers of Wales. Prifysgol Cymru. ISBN 978-0-7083-2662-6.
  2. "BBC - Gwenlyn Parry - y dramâu". www.bbc.co.uk. Cyrchwyd 2024-08-26.
  3. Parry, Gwenlyn (2001). Dramâu Gwenlyn Parry -Y Casgliad Cyflawn. Gomer. ISBN 1 85902 779 2.
  4. "Theatr Cymru programmes / Rhaglenni Theatr Cymru". Martin Morley: a life in theatre and tv design (yn Saesneg). 2020-01-24. Cyrchwyd 2024-08-26.
  5. Fenner, Marion (2014). Ŵ Metron. Y Lolfa.