Nannerch

pentref yn Sir y Fflint

Pentref bychan a chymuned yn Sir y Fflint, Cymru, yw Nannerch ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Saif fymryn oddi ar y briffordd A541, tua hanner y ffordd rhwng Yr Wyddgrug a Dinbych. Y boblogaeth yn 2001 oedd 531. Nid oes siop yma, ond ceir tafarn sydd yn dyddio yn ôl i'r 18ed ganrif, sef The Cross Foxes. mae yma ysgol gyda thua 60 o blant.

Nannerch
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth449 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir y Fflint Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.216°N 3.25°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000200 Edit this on Wikidata
Cod OSSJ166695 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruHannah Blythyn (Llafur)
AS/au y DURob Roberts (Ceidwadwyr)
Map

Yn y bryniau gerllaw mae olion bryngeiri Pen-y-Cloddiau a Moel Arthur. Ceir nifer o ffynhonau gan gynnwys Ffynnon Sara, sef tarddiad yr afon Chwiler, yn ôl traddodiad.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Hannah Blythyn (Llafur) ac yn Senedd y DU (San Steffan) gan Rob Roberts (Ceidwadwyr).[1][2]

Mae cofnodion yn dangos y defnyddiwyd yr enw ar y lle mor bell yn ôl â 1254, sef yn wreiddiol yr enw ar yr afon. Mae'n gyfuniad o ddau enw: 'nant' ac 'erch' (Saesneg: dappled) fel a geir yn yr enw Abererch, ger Pwllheli.

Mae'r eglwys (sef St. Michael and All Angels) yn gymharol newydd ac yn dyddio o 1853 ac wedi ei godi o galchfaen lleol. Y pensaer oedd Thomas W Wyatt o Lundain. Saif Neuadd Penbedw gerllaw, neuadd braf a godwyd yn 1775 gyda cylch cerrig Celtaidd o'i flaen.

Cyfrifiad 2011

golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Nannerch (pob oed) (496)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Nannerch) (73)
  
15%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Nannerch) (222)
  
44.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Nannerch) (61)
  
30.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Enwogion

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Gwefan y Cynulliad;[dolen farw] adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  3. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.