Monogram brenhinol

Mewn herodraeth fodern, mae monogram brenhinol yn fonogram neu llythyrbleth sofran gwlad, sydd fel arfer yn cynnwys llythrennau cyntaf enw a theitl y brenin neu frenhines, weithiau wedi'u plethu ac yn aml yn cael eu gorchuddio â choron.[1] Os defnyddir monogram o'r fath gan ymerawdwr neu ymerodres, fe'i helwir yn fonogram ymerodrol. Yn y system a ddefnyddir gan deyrnas y Gymanwlad, talfyrrir y teitl i 'R' ar gyfer 'rex' neu 'regina' (Lladin am "brenin" a "brenhines"). Yn y gorffennol, defnyddir 'I' a oedd yn sefyll am 'imperator' neu 'imperatrix (Lladin am "ymerawdwr" ac "ymerodres") Ymerodraeth India.[2][3]

Gorsaf Bost K yn Toronto yn arddangos EVIIIR uwchben ei brif fynedfa, monogram brenhinol Brenin Edward VIII
Blwch post yn Windsor, Berkshire, yn arddangos monogram brenhinol Brenin Edward VII.

Mae monogramau brenhinol yn ymddangos ar rai o adeiladau'r llywodraeth, wedi eu pwyso ar ddogfennau brenhinol a gwladwriaethol, ac yn cael eu defnyddio gan adrannau'r llywodraeth.

Tiroedd y Gymanwlad golygu

Mae'r defnydd o fonogram brenhinol yn deyrnas y Gymanwlad yn tarddu o'r Deyrnas Unedig, lle dechreuodd defnydd cyhoeddus o'r llythrennau cyntaf brenhinol yn y cyfnod Tuduriaid cynnar o leiaf. I ddechrau a dim ond llythyren gyntaf y sofran defnyddir, ond ar ôl teyrnasiad Harri'r VIII, ychwanegu'r llythyren 'R' ar gyfer 'Rex' neu 'Regina'. Yna cafodd y llythyren 'I' ei ychwanegu i fonogram y Frenhines Victoria ar gyfer 'Imperatrix' ar ôl iddi ddod yn Ymerodres India ym 1877. Dangosir llythrennau cyntaf enw'r sofran (nad oedd ganddynt ddyluniad na ffurf benodol eto) fel arfer wrth ymyl yr arfbeisiau brenhinol neu'r goron, ar adeiladau'r brenin – megis rhai Harri VIII ar borthdy Palas Sant Iago. Mae'n ymddangos taw pwrpas hwn oedd gallu adnabod sofran unigol, gan fod yr arfbais frenhinol yn aml yn cael ei defnyddio gan nifer o frenhinoedd olynol.

 
Logo'r Post Brenhinol a ddefnyddir yn yr Alban. Yn ôl confensiwn a ddechreuodd ar ôl Coroni'r Frenhines Elisabeth ym 1953, ni ddangosir llythrennau cyntaf y sofran ar fonogramau yn yr Alban.

Er bod symbolau brenhinol yn wahanol ymhlith 16 teyrnas y Gymanwlad, (gan eu bod yn freniniaethau gwahanol), mae'r un sofran yn defnyddio'r un monogram ledled ei holl wledydd. Fodd bynnag mae gwahaniaeth rhwng monogram personol y sofran a' monogram cyhoeddus y sofran, sydd llawer symlach.

Monogram y frenhines bresennol yw EIIR, yn sefyll dros Elisabeth II Regina.[4] Uwchben y llythrennau mae dyluniad o Goron Sant Edward. Yn yr Alban, o ganlyniad i ddadl dros deitl cywir y frenhines, a elwir y Brwydrau Blwch Post (Pillar Box Wars), ar ôl 1953 dim ond delwedd Coron yr Alban oedd yn ymddangos ar flychau post newydd yn hytrach na'r monogram EIIR. Mae pob gwlad a theyrnas arall y Gymanwlad yn defnyddio'r monogram.

Roedd cynhyrchu'r monogram yn gam cynnar yn y paratoadau ar gyfer coroni'r Frenhines ym 1953, oherwydd roedd rhaid ei frodio ar wisgoedd y Gweision y Frenhines ac ar bethau eraill.[5] Dyluniwyd monogramau ar gyfer aelodau eraill o'r teulu brenhinol gan Goleg yr Arfau neu Lys yr Arglwydd Lyon (yn yr Alban) ac yna fe'u cymeradwyir gan y frenhines.[6]

Defnyddir monogramau hyn gan Awdurdod Herodrol Canada yn ar faneri brenhinol Canada. Mae'r defnydd yng Nghanada o fonogram y brenin neu'r frenhines bresennol, sydd weithiau wedi'i amgylchynu'n gan goronbleth o ddail masarn, yn symbol nid yn unig o'r sofran ei hun, ond sofraniaeth lawn Canada.[7] Mae hefyd i'w gael mewn swyddfeydd post a rhai o adeiladau'r llywodraeth yn Awstralia.

Mewn llefydd eraill golygu

Mae tai brenhinol eraill hefyd wedi defnyddio monogramau brenhinol neu ymerodrol. Roedd gan y swltaniaid Otomanaidd lofnod caligraffig, eu tughra. Mae pob brenin neu frenhines chwe brenhiniaeth arall Ewrop yn defnyddio monogramau, gyda choronau brenhinol uwchben y llythrennau. Mae Brenin Harald V o Norwy yn defnyddio'r llythyren H wedi'i chroesi gyda'r rhif Arabeg 5; mae'r Brenin Carl XVI Gustav o Sweden yn defnyddio'r llythrennau C a G yn gorgyffwrdd â'r rhifolyn Rhufeinig XVI oddi tanynt; mae Brenin Felipe VI o Sbaen yn defnyddio'r llythyren F gyda'r rhif Rhufeinig; ac mae'r Frenhines Margrethe II o Ddenmarc yn defnyddio'r llythyren M gyda'r rhif Arabeg 2 a'r llythyren R (ar gyfer Regina) oddi tani. Mae Brenin Philippe o Wlad Belg yn defnyddio'r llythrennau P ac F wedi'u cydblethu, gan gyfeirio at y ffaith mai Philippe yw ei enw yn Ffrangeg, ond Filip yw ei enw yn Iseldireg, y ddwy brif iaith yng Ngwlad Belg. Mae Brenin Willem-Alexander o'r Iseldiroedd a'i Frenhines Maxima yn rhannu monogram sy'n cynnwys y llythyr W wedi'i phlethu â'r llythyr M. Mae'r Brenin Maha Vajiralongkorn o Wlad Thai yn defnyddio monogram sy'n cynnwys ei lythrennau cyntaf yn sgript Thai (" ว.ป.ร." VPR – Vajiralongkorn Parama Rajadhiraj, sy'n cyfateb i Vajirarongkorn Rex).

Oriel golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. The Shorter Oxford English Dictionary (Fifth edition; 2002), Volume 1, p. 1820.
  2. Morley, Vincent. "United Kingdom: Royal Navy". Flags Of The World. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-07-19. Cyrchwyd 30 October 2009.
  3. Boutell, Charles; Wheeler-Holohan, V. (1931). Boutell's Manual of Heraldry. Detroit: F. Warne and Co. Ltd. t. 244. Cyrchwyd 30 October 2009.
  4. "ROYAL CYPHER OF QUEEN ELIZABETH ll". The Morning Bulletin. 1952-07-18. t. 1. Cyrchwyd 2021-04-27.
  5. "Vintage Reader's Digest 1953: Preparing to Crown a Queen - Reader's Digest". www.readersdigest.co.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-04-27.
  6. Palmer, Richard (2009-01-07). "Prince Harry pays tribute to Diana with royal cypher". Express.co.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-04-27.
  7. Cof Maples: Constitutional Monarchy in Canada (PDF) (yn English). Department of Canadian Heritage, Her Majesty the Queen in Right of Canada. 2008. ISBN 978-0-662-46012-1.CS1 maint: unrecognized language (link)