Mur Mawr Gwyrdd
Mae'r Mur Mawr Gwyrdd neu Fur Mawr Gwyrdd y Sahara a'r Sahel (Ffrangeg: Grande muraille verte pour le Sahara et le Sahel, Saesneg: Great Green Wall of the Sahara and the Sahel) yn fenter flaenllaw Affrica i frwydro yn erbyn cynyddu'r anialwch. O dan arweiniad yr Undeb Affricanaidd, nod y fenter yw trawsnewid bywydau miliynau o bobl trwy greu brithwaith o dirweddau gwyrdd a ffrwythlon ledled Gogledd Affrica.
Math o gyfrwng | prosiect |
---|---|
Lleoliad | Sahel |
Prif bwnc | newid hinsawdd, diffeithdiro, coedwigo |
Gwefan | http://www.grandemurailleverte.org/, http://www.grandemurailleverte.org/, http://www.grandemurailleverte.org/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Y syniad gwreiddiol oedd llinell o goed o'r dwyrain i'r gorllewin yn ffinio Anialwch y Sahara. Mae nod y Mur Mawr Gwyrdd wedi esblygu i fod yn fosaig o ymyriadau sy'n mynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu'r bobl yn y Sahel a'r Sahara.[1] Mae'n rhaglen o ddatblygiad gwledig, gyda nod cyffredinol y bartneriaeth i gryfhau hydwythedd rhanbarthol a systemau naturiol gyda rheolaeth gadarn ar yr ecosystem, amddiffyn treftadaeth wledig, a gwell amodau byw.
Mae'r prosiect yn ymateb i effaith gyfunol sychder a diraddio adnoddau naturiol mewn ardaloedd gwledig.[2] Mae'n bartneriaeth sy'n cefnogi cymunedau sy'n gweithio tuag at reolaeth gynaliadwy a defnydd coedwigoedd ac adnoddau naturiol eraill. Mae'n ceisio helpu cymunedau i addasu at newid yn yr hinsawdd, yn ogystal â gwella diogelwch bwyd.
Disgwylir i boblogaeth y Sahel ddyblu erbyn 2039, sydd wedi ychwanegu brys at y prosiect.[1]
Hanes
golyguYn y 1950au gwnaeth yr archwiliwr Prydeinig Richard St. Barbe Baker alldaith yn y Sahara. Yn ystod yr alldaith 25,00 milltir cynigiodd "ffrynt gwyrdd" i weithredu fel byffer coed 30 milltir i ddal nôl yr anialwch a oedd yn ehangu.[2] Ail-ymddangosodd y syniad yn 2002, yn yr uwchgynhadledd arbennig yn N'Djamena, prifddinas Tsiad, ar achlysur Diwrnod y Byd i Frwydro yn Erbyn Diffeithdirio a Sychder. Fe'i cymeradwywyd gan Arweinwyr y Gynhadledd ac aelodau'r Gymuned Gwladwriaethau Sahel-Sahara yn ystod eu seithfed sesiwn a gynhaliwyd yn Ouagadougou, prifddinas Bwrcina Ffaso, ar 1–2 Mehefin 2005.[3] Cymeradwyodd yr Undeb Affricanaidd ef yn 2007 fel "Mur Mawr Gwyrdd y Sahara a Menter y Sahel" (GGWSSI).[4]
Arweiniodd gwersi a ddysgwyd o Argae Gwyrdd Algeria[5] a Mur Gwyrdd Tsieina at ddull amlsector integredig.[6] Menter plannu coed yr oedd yn wreiddiol, a esblygodd y prosiect yn rhaglen o ddatblygiad. Yn 2007, cyfarwyddodd CHSG y prosiect i fynd i'r afael ag effeithiau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol dirywiad tir a chynyddu'r anialwch. Wedi hynny, creodd y gwledydd Burkina Faso, Jibwti, Eritrea, Ethiopia, Mali, Mawritania, Niger, Nigeria, Senegal, Swdan a Chad yr Asiantaeth Led-Africanaidd y Mur Mawr Gwyrdd (PAGGW).[3]
Yn 2014, lansiodd yr Undeb Ewropeaidd a Sefydliad Bwyd ac Amaeth y Cenhedloedd Unedig, mewn cydweithrediad â phartneriaid Affricanaidd eraill, y rhaglen Gweithredu yn Erbyn Cynnydd yr Anialwch, i adeiladu ar y prosiect Mur Mawr Gwyrdd.[7] Creodd Nigeria asiantaeth dros dro i gefnogi datblygiad y Mur Mawr Gwyrdd.[8]
Erbyn 2016, roedd tua 15 y cant o'r ardal targed wedi'i blannu.[9] Yn 2016, roedd gan 21 o wledydd brosiectau yn ymwneud â'r Mur Mawr Gwyrdd, gan gynnwys adfywiad naturiol a gefnogir gan ffermwyr.[10]
Prif egwyddorion
golyguMae'r prosiect yn cwmpasu'r llain Sahara, ei ffiniau gogledd a de, gan gynnwys gwerddonau'r Sahara, a llefydd fel Cabo Verde. Mae'r Mur Mawr Gwyrdd yn bwriadu cryfhau'r mecanweithiau presennol i wella eu heffeithlonrwydd trwy synergedd a gweithgareddau gydlynu. Mae'r prosiect $8 biliwn yn bwriadu adfer 100 miliwn hectr (1 miliwn km²) o dir diraddiedig erbyn 2030, a fyddai'n creu 350,000 o swyddi gwledig ac yn amsugno 250 miliwn o dunelli o CO2 o'r awyrgylch.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 Puiu, Tibi (2019-04-03). "More than 20 African countries are planting a 8,027-km-long 'Great Green Wall'". ZME Science (yn Saesneg). Cyrchwyd 2019-04-16.
- ↑ 2.0 2.1 "The Man of the Trees and the Great Green Wall: A Baha'i's Environmental Legacy for the Ages". Wilmette Institute. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 November 2015.
- ↑ 3.0 3.1 Grande Muraille Verte.
- ↑ "Action Against Desertification". Food and Agriculture Organization (FAO) of the UN. Cyrchwyd 1 September 2019.
- ↑ Saifi, Merdas (2015). "The Green Dam in Algeria as a tool to combat desertification". Planet@Risk (Davos: Global Risk Forum) 3 (1): 68–71. ISSN 2296-8172.
- ↑ Harmonized regional strategy for implementation of the "Great Green Wall Initiative of the Sahara and the Sahel", http://www.fao.org/fileadmin/templates/europeanunion/pdf/harmonized_strategy_GGWSSI-EN_.pdf, adalwyd 12 March 2017
- ↑ "Background". Action Against Desertification. FAO. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 November 2015.
- ↑ "Nigeria creates agency for 'Great Green Wall' project". Premium Times. 9 September 2014. Cyrchwyd 1 September 2019.
The Federal Government has approved the establishment of the Interim Office of the National Agency for the Great Green Wall, GGW.
- ↑ Helen Palmer (2 May 2016). "Africa's Great Green Wall is making progress on two fronts". PRI. Public Radio International. Cyrchwyd 1 September 2019.
- ↑ Jim Morrison (23 August 2016). "The "Great Green Wall" Didn't Stop Desertification, but it Evolved Into Something That Might". Smithsonian.com. Smithsonian. Cyrchwyd 1 September 2019.