Jiwdoka o Gymru yw Natalie Powell (ganwyd 16 Hydref 1990). Cafodd ei geni ym Merthyr Tudful[1] a chafodd ei magu yn Llanfair-ym-Muallt, Powys[2].

Natalie Powell
Ganwyd16 Hydref 1990 Edit this on Wikidata
Llanfair-ym-Muallt Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Galwedigaethjwdöwr Edit this on Wikidata
Taldra175 centimetr Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Dechreuodd Powell ei gyrfa Jiwdo gyda Chlwb Jiwdo Irfon yn Llanfair-ym-Muallt pan yn wyth mlwydd oed[3] ac yn ogystal â Jiwdo, roedd yn aelod o dîm pêl-rwyd Cymru ond penderfynodd ganolbwyntio ar Jiwdo yn llawn amser yn 2012[2].

Llwyddodd i ennill Pencampwriaeth Ynysoedd Prydain dan 78 kg yn 2012, 2013 a 2014[4] ac yng Ngemau'r Gymanwlad 2014 yn Glasgow, Yr Alban llwyddodd i ddod y Gymraes cyntaf i ennill medal aur Jiwdo wrth ennill y categori dan 78 kg[5].

Ym mis Ebrill 2016 llwyddodd Powell i guro Gemma Gibbons er mwyn sicrhau medal efydd ym Mhencampwriaethau Jiwdo Ewrop yn Kazan, Rwsia[6] a llwyddodd i sicrhau ei lle yn nhîm Prydain Fawr ar gyfer Gemau Olympaidd 2016 yn Rio de Janeiro, Brasil gyda medal efydd ym Mhencampwriaethau Meistri'r Byd yn Guadalajara, Mecsico ym mis Mai 2016[7].

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Natalie Powell". Glasgow2014. Glasgow2014.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-07-30. Cyrchwyd 2014-08-10.
  2. 2.0 2.1 "Judo champion Natalie Powell on the Olympics, Zika - and why she loves a cheeky kebab". Daily Telegraph. 2016-0716. Check date values in: |date= (help)
  3. "Natalie Powell: Ymweliad â Chlwb Judo Irfon". Clwb S4C (YouTube).
  4. "Profile: Natalie Powell". JudoInside.com.
  5. "Commonwealth Games 2014: Welsh judo ace Natalie Powell celebrates Glasgow gold". WalesOnline. WalesOnline.co.uk.
  6. "Powell wins battle of Brits to take European bronze". Team GB. TeamGB.com.
  7. "Natalie Powell seals Olympic Judo qualification with World Masters bronze in Mexico". WalesOnline. WalesOnline.co.uk.