Nodyn:Pigion/Wythnos 34
Pigion
Mae newid hinsawdd yn gynnydd a welwyd yn nhymheredd cyfartalog y byd yn y degawdau diwethaf, a'r cynnydd pellach posibl a ddaw dros y blynyddoedd nesaf. Mae'r mwyafrif helaeth o wyddonwyr bellach yn credu bod cynhesu byd-eang yn digwydd, ar raddfa o gwmpas 0.3°C y ddegawd, a'i fod yn cael ei achosi gan gynnydd yng nghrynodiad y nwyon tŷ gwydr yn yr atmosffer. Y gydran bwysicaf oll o'r nwyon tŷ gwydr yw carbon deuocsid (CO2) oherwydd y maint a gynhyrchir, er fod gan nwyau eraill megis methan (CH4) fwy o effaith gan bob moliciwl. Y ffynonellau allyriant CO2 mwyaf yw gorsafoedd pŵer, cerbydau, diwydiant a defnydd ynni'r cartref. Mae llosgi tanwydd ffosil yn cyfrannu tuag 80% at allyriant CO2 dynol yn fyd-eang. |
Erthyglau dewis
|