O.E. Roberts

Gwyddonydd

Roedd Owen Elias Roberts, neu'n fwy cyffredin mewn print, O.E. Roberts (19 Mehefin 190814 Hydref 2000), yn awdur gwyddonol ac yn ymgyrchydd dros hawliau'r Gymraeg a thros senedd i Gymru.[1]

O.E. Roberts
Ganwyd19 Mehefin 1908 Edit this on Wikidata
Llanystumdwy Edit this on Wikidata
Bu farw14 Hydref 2000 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethtechnegydd labordy Edit this on Wikidata

Ganed O.E. Roberts yn Llanystumdwy, Eifionydd ond wedi addysg elfennol symudodd i weithio fel technegydd labordy meddygol yn Lerpwl. Daeth, maes o law yn Brif Dechnegydd Labordy Ysbyty Broadgreen.[2] Yn ei lencyndod teithiau ar hyd gogledd Cymru a cyhoeddwyd erthyglau ganddo am ei brofiadau yng nghylchgrawn Y Ford Gron yn yr 1930au.[3] Wedi ymddeol dychwelodd i Gricieth i fyw ac yna i Gaerdydd i fod yn agosach at ei merch, Gwenan, sy'n briod â'r darlledwr, Wyndham Richards. Roedd yn briod â Margaret Florence (Fflorens) Roberts a gyhoeddodd lyfr Merch y Gelli gan Wasg Pantycelyn. Roedd ganddo ddau o wyrion.[4] Bu farw ar yn 92 oed.

Anrhydeddu

golygu

Yn 1972 derbyniodd radd MA er anrhydedd gan Brifysgol Cymru am ei waith arloesol i wyddoniaeth yn y Gymraeg. Derbyniodd y radd gan Syr John Meurig Thomas a'i ddisgrifiodd fel "y gŵr diymhongar [hwn] ei ddychymyg yn gyfoethog ei ryddiaeth yn farddonol a Beiblaidd".[1]

Bu hefyd yn Lywydd Anrhydeddus y Gymdeithas Wyddonol Genedlaethol.[2]

Eisteddfod Genedlaethol

golygu

Enillodd y Fedal Ryddiaith ddwywaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Enillodd yn Eisteddfod Aberystwyth, 1952 gyda Cyfrol o Ryddiaith: Cyfrinachau Natur[5]

Enillodd y Fedal Ryddiaith eto dwy flynedd wedyn yn Eisteddfod Ystradgynlais, 1954 am ei ysgrif Y Gŵr o Ystradgynlais (casgliad o ysgrifau).[5][6]

Enillodd hefyd yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng nghystadleuaeth y Llawlyfrau, gan ennill yn 1948 gyda Llawlyfr ar Fwydydd ac yn 1951 gyda Llawlfyr ar Wyddor Gwlad.

Ysgrifennu

golygu

Yn ogystal ag ysgrifennu'r i'r Ford Gron (a ddaeth i ben fel cylchgrawrn yn 1935) bu O.E. yn cyfrannu colofn wyddonol i'r Cymro. Cyhoeddodd ei lyfr gyntaf, Hela'r Meicrob yn 1945. Bu hefyd yn cyfrannu, bob yn ail gyda Dr Eirwen Gwynn, i'r Gwyddonydd.[1] gan gynnwys erthyglau megis Bwytawr Bacteria yn Cyfrol ii, rhif 2, Mehefin 1964.[7]

Teledu

golygu

Yn sgil ei lwyddiant yn poblogeiddio gwyddoniaeth yn y Gymraeg, ymddangosodd ar raglenni teledu yn yr iaith yn trafod y pwnc, gan gynnwysn trafod "Hela'r Meicrob" ar ddydd Sadwrn 7 Mai 1960 ar Telewele.[8]

Gwleidyddiaeth

golygu

Bu'n weithgar iawn gydag Undeb Cymru Fydd. Mae ei ohebiaeth i gymdeithasau Cymreig yng ngogledd a chanolbarth Lloegr yn enw UCF ar bwnc dyfodol Cymru ac, yn benodol sefydlu cyfundrefn a gwasanaeth darlledu arwahân i Gymru wedi eu cadw yn Archif Prifysgol Bangor.[9]

Llyfryddiaeth

golygu

Gweler Hefyd

golygu

Teyrngedau

golygu

Darllen Pellach

golygu

Gellir darllen hen rifynnau o Y Gwyddonydd, sy'n cynnwys erthyglau gan O.E. Roberts ar-lein ar dudlennau Cylchgronau Cymru Archifwyd 2019-08-19 yn y Peiriant Wayback ar wefan y Llyfrgell Genedlaethol.

Gellir hefyd ddarllen Y Ford Gron ar dudalennau Cylchgronau Cymru.[3]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 http://www.casglwr.org/pdf/Rhifyn%2078/78%2015.pdf
  2. 2.0 2.1 http://news.bbc.co.uk/hi/english/newyddion/newsid_974000/974755.stm
  3. 3.0 3.1 https://cylchgronau.llyfrgell.cymru/view/1371517/1371518/0#?xywh=-1552%2C-211%2C6226%2C4324
  4. https://www.theguardian.com/news/2000/oct/26/guardianobituaries2
  5. 5.0 5.1 "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-08-25. Cyrchwyd 2019-08-29.
  6. https://www.semanticscholar.org/paper/Y-g%C5%B5r-o-Ystradgynlais%2C-ac-erthyglau-eraill.-enwog.-Evans/d8bc3d7b4ac3615175ba005e8d74c78cfb0a902f
  7. https://cylchgronau.llyfrgell.cymru/view/1394134/1394945/4#?xywh=-1663%2C-219%2C6187%2C4297
  8. https://genome.ch.bbc.co.uk/schedules/bbctv/1960-05-07
  9. https://archiveshub.jisc.ac.uk/search/archives/99c2ee27-6a6f-31d9-b279-1977c650bf13?terms=%22O.%20E.%20Roberts%22