OLION (cynhyrchiad theatr)


Cynhyrchiad theatr dair-rhan a phrosiect gymunedol yn ardal Hirael, Bangor ydi OLION, o waith cwmni theatr Frân Wen, a lwyfannwyd yn 2024. "Trioleg o grombil y Mabinogi", yw disgrifiad y cwmni o'r cynhyrchiad ar eu gwefan, "dyma ail-ddychmygiad cyfoes o chwedl Arianrhod".[1] Yn Rhan Un: Arianrhod cafwyd hanes boddi Caer Arianrhod, ac a lwyfannwyd yn Pontio Bangor ym mis Medi. Digwyddiad un diwrnod ar yr 28 Medi 2024 oedd Rhan Dau: Yr Isfyd, a ffilm fydd Rhan Tri: Y Fam, yn Hydref 2024. "Archwilio’r dewrder o fod yn ‘wahanol’ mewn byd anfaddeuol", yw diben y cynhyrchiad, yn ôl cyfarwyddwr artistig Frân Wen, Gethin Evans.[2]

OLION
Enghraifft o'r canlynolcynhyrchiad theatr a ffilm
CrëwrTheatr Frân Wen
Dyddiad cynharaf2023 - 2024
AwdurAngharad Elen a Sera Moore Williams
IaithCymraeg
Cysylltir gydaPedair Cainc y Mabinogi a Frân Wen

Cefndir

golygu

"Mae Olion, sy'n rhaglen 15 mis o weithgareddau hefyd yn cael ei gefnogi gan Gyngor Gwynedd", noda gwefan y cwmni; [3] "Mae’r prosiect wedi derbyn £252,911 gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU", ychwanegodd. Bu'r cwmni hefyd yn cyd-weithio gyda'r elusen GISDA a Storiel ym Mangor.

"Dechreuodd ein partneriaeth gyda GISDA a phrosiect Nabod ddwy flynedd yn ôl", eglura Gethin Evans; "Fe wnaeth y bobl ifanc sy’n rhan o’r prosiect lunio stori, naratif a chymeriadau dros 18 mis oedd yn dilyn thema eithaf penodol. Ar yr un pryd, roeddwn yn cael sgyrsiau gydag artistiaid amrywiol am bethau roedden nhw’n dyheu amdanyn nhw o ran prosesau creadigol - graddfa, uchelgais, cyd-greu, a chyfleoedd i weithio mewn ffyrdd newydd. Ac felly dyna ddechreuad OLION, gyda'r weledigaeth o gynnig rhywbeth gwahanol i artistiaid a chynulleidfaoedd".[2]

"Daeth y gair ‘Olion’ i’r amlwg pan dreuliais i [Gethin Evans] ddau ddiwrnod gyda Marc [Rees] fis Ionawr diwethaf. Mi wnaethon ni drafod y syniad o gymunedau coll, yr olion maen nhw'n eu gadael ar ôl a'r effaith ar gymuned cenedlaethau'n ddiweddarach. Roedden ni’n teimlo bod hyn yn berthnasol i sawl elfen o'r prosiect. Daeth OLION yn deitl gwych achos roedd o’n croesi dau fyd, y da, y drwg, y golau, y tywyllwch"[2]

Bu'r dramodydd Sera Moore Williams yn cyd-weithio efo'r bobol ifanc am gyfnod o 5 wythnos, ynghyd â'r llenor Angharad Elen.

Rhan Un: Arianrhod

golygu

Llwyfannwyd y rhan gyntaf yn Pontio Bangor yn ystod mis Medi 2024. Cyd-gyfarwyddwyr Gethin Evans ac Anthony Matsena yn enedigol o Simbabwe, ond bellach yn byw yn Abertawe; ysgrifenwyr: Angharad Elen a Sera Moore Williams; dramatwrg arweiniol: Angharad Elen; dylunydd set a gwisgoedd: Elin Steele; cyfansoddwr: Alex Comana; cynllunydd sain: Sam Jones; dylunydd goleuo: Ryan Joseph Stafford; cast:

  • Arianrhod - Rhian Blythe
  • Gwydion - Owain Gwynn
  • Elan - Chenai Chikanza
  • Goewin a Heulwen - Mirain Fflur
  • Madoc - Owen Alun
  • Dôn - Sharon Morgan
  • Seren - Aisha-May Hunte
  • Gilthfaethwy - Rhodri Trefor
  • Dawnswyr - Mischa Jardine, Amber Howells, Julia Costa, Keith Alexander a Harrison Claxton
  • Y Plant - Grace Evans, Maria Mbabaali, Pedro Sochukwykaima Enyi, Milly Ann Griffiths ac Owain Rhys Jones.

Rhan Dau: Yr Isfyd

golygu

Llwyfannwyd yr ail ran ar ddydd Sadwrn, 28 Medi 2024 yn ardal Hirael a'r Pier yn Bangor. Cyd-gyfarwyddwr Marc Rees a Gethin Evans; coreograffydd - Anthony Matsena; ysgrifenwyr: Angharad Elen a Sera Moore Williams; dramatwrg arweiniol: Angharad Elen; dylunydd set a gwisgoedd: Elin Steele; cyfansoddwr: Alex Comana; cynllunydd sain: Sam Jones; dylunydd goleuo: Ryan Joseph Stafford; cast:

  • Gwyneth - Rhian Blythe
  • Trefor - Owain Gwynn
  • Elan - Chenai Chikanza
  • Heulwen - Mirain Fflur
  • Madoc - Owen Alun
  • Seren - Aisha-May Hunte
  • a chast lleol o bob oed.

Rhan Tri: Y Fam

golygu

Ffilm fydd Rhan Tri yn Hydref 2024.

"Yr epilog. Ffilm fer sy’n cyfuno deunydd o ran I a II wrth i ni ddilyn stori teulu cyffredin o Fangor. Ond beth sy’n digwydd pan fydd siwrne seicedelig yn trawsnewid Hirael i mewn i fyd ffantasi Caer Arianrhod?" [3]

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Ail-ddiffinio'r dyfodol. Un sioe ar y tro". Frân Wen. Cyrchwyd 2024-09-30.
  2. 2.0 2.1 2.2 "Olion am adael ei farc". Frân Wen. Cyrchwyd 2024-09-30.
  3. 3.0 3.1 "Olion". Frân Wen. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2024-06-21. Cyrchwyd 2024-09-30.