Palflys Hatcher

rhywogaeth o fyd planhigion: un o lysiau’r afu
Palflys Hatcher
Barbilophozia hatcheri
Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Rhaniad: Marchantiophyta
Dosbarth: Jungermanniopsida
Urdd: Jungermanniales
Teulu: Scapaniaceae
Genws: Barbilophozia
Rhywogaeth: B. hatcheri
Enw deuenwol
Barbilophozia hatcheri

Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Palflys Hatcher (enw gwyddonol: Barbilophozia hatcheri; enw Saesneg: Hatcher's pawwort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Jungermanniales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida.

Mae’r rhywogaeth hon i’w chanfod yng Nghymru. Mae'n eitha prin yng Nghymru a Cumbria ond yn eitha cyffredin yn yr Alban.

Disgrifiad golygu

Y rhywogaethau tebycaf i Palflys hatcher yw'r Palflys cyffredin (B. floerkei) a Phalflys y gorllewin (B. atlantica).

Mae gan Palflys hatcher ddail 3-llabed, ac felly mae'n hawdd ei wahaniaethu oddi wrth y Lophozia. Maent yn wyrddfrown neu'n felynwyrdd. Yna aml mae'r blaguryn ifanc yn goch. Mae'r coesynnau'n 0.5–3 mm o led a'r dail yn 1–2 mm o led a rhwng 0.5 mm ac 1 mm o hyd.

Cynefin golygu

Yr ucheldir yw ei gynefin, yn enwedig mewn mwsog ar foncyn neu gangen wedi syrthio, neu ar dywarch ar lethrau sy'n wynebu'r gogledd. Weithiau fe'i ceir ar waliau sych.

Llysiau'r afu golygu

Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term "lysiau'r afu" am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[1] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg.

Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma.

  Safonwyd yr enw Palflys Hatcher gan un o brosiectau  . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.

Cyfeiriadau golygu

  1. Raven, Peter H.; Ray F. Evert & Susan E. Eichhorn (1999) Biology of Plants, W. H. Freeman, Efrog Newydd.