Drama lwyfan Gymraeg gan Gwenlyn Parry yw Y Ffin neu Y Ffîn, a gomisiynwyd gan Gwmni Theatr Cymru ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Cymru Dyffryn Clwyd 1973. Fe'i cyhoeddwyd gan Wasg Christopher Davies ym 1975, ac ail gyhoeddwyd ym 1986. Lleolir y ddrama ar ei chychwyn mewn 'cwt bugail ar ochor mynydd', ond sy'n cael ei weddnewid yn gyfangwbl erbyn yr ail act.[1] Wrth i Williams a Now ymweld â'r hen gwt, mae ymwelydd annisgwyl yn codi helynt rhwng y tri.

Y Ffin
Dyddiad cynharaf1973
AwdurGwenlyn Parry
CyhoeddwrChristopher Davies
GwladCymru
IaithCymraeg
PwncDramâu Cymraeg

Cefndir

golygu

"Fe ddechreuodd Y Ffin rhyngom ryw saith mlynedd yn ôl [1966] - mewn car ar daith o Gaernarfon i Gaerdydd," yn ôl John Hefin [Evans], pan gyhoeddwyd y ddrama am y tro cyntaf ym 1975:

"Roedd Wilias a Now a rhyw ferch anelwig yn eu cwt sinc wedi dechrau meddiannu dychymyg yr awdur yn y dyddiau pell hynny. Wrth wibio heibio i Langollen, Henffordd, a Llwydlo, cynyddodd fy mrwdfrydedd i wybod mwy am triawd, fesul milltir. Ond drama nesaf i'w chyhoeddi oedd Ty Ar Y Tywod - 'roedd Y Ffin yn parhau yn y groth, yn glyd yn y tywyllwch, a dim ond rhyw dwy flynedd yn ôl, [1973] pan gafodd gomisiwn gan Gwmni Theatr Cymru, y dechreuwyd ar Y Ffin o ddifri."[1]

Gwelwyd y ddrama fel yr olaf mewn cyfres o dair, gyda Saer Doliau a Tŷ Ar Y Tywod yn ei rhagflaenu. "Roedd hyn yn fwy eglur i Dafydd [David Lyn] a Gaynor, oherwydd bu'r ddau'n actio yn ddrama gyntaf - Saer Doliau," yn ôl John Hefin. "Sylwodd Eilian nad oedd yna'r un araith hir yn Y Ffin a'r gwahaniaeth amlwg rhwng y dechneg o'i chymharu â'r areithiau yn Tŷ Ar Y Tywod. Roeddem i gyd, yn enwedig Wil a Dewi, y Rheolwr Llwyfan, yn sylweddoli, gyda phryder, ar gymaint o waith fyddai'n rhaid wrtho i drawsnewid murddun anniben i dŷ twt o dan lygaid cynulleidfa.", ychwanegodd.[1]

Cymeriadau

golygu
  • Williams - gŵr tua hanner cant oed
  • Now - llanc tua ugain oed
  • Dringwr - dringwr tua deg ar hugain oed

Cynyrchiadau Nodedig

golygu

1970au

golygu
 
Hysbyseb drama Y Ffin gan Gwmni Theatr Cymru[2]

Llwyfannwyd y ddrama am y tro cyntaf gan Gwmni Theatr Cymru ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Cymru Dyffryn Clwyd 1973. Cyfarwyddwr John Hefin; cynllunydd Martin Morley; goleuo Murray Clark; rheolwr llwyfan Gwynfryn Davies; gwisgoedd Gwyneth Roberts; cynorthwywyr Duncan Scott, Dewi Huws, Mike Thomas, Emlyn Owen; cast:


Recordiwyd y ddrama ar gyfer y teledu gan BBC Cymru a'i dangos ar Nos Wener, 7fed o Fehefin, 1974. Cyfarwyddwr John Hefin; cynllunydd Pauline Harrison; cast:

Dolenni allanol

golygu

Rhestr llyfrau Cymraeg

Wicipedia:Wicibrosiect Llyfrau Gwales

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 Parry, Gwenlyn (1986). Y Ffin. Christopher Davies. ISBN 0 7154 0216 1.
  2. "Sep 20, 1973, page 30 - The North Wales Weekly News at Newspapers.com". Newspapers.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-09-12.