Roedd Patrick Pat Munro (9 Hydref 1883 - 3 Mai 1942) yn chwaraewr rygbi'r undeb a chwaraeodd rygbi clwb dros Brifysgol Rhydychen ac yn rhyngwladol dros yr Alban. Roedd Munro hefyd yn wleidydd Ceidwadol a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Llandaf a'r Barri o 1931 hyd ei farwolaeth.[1]

Patrick Munro
Ganwyd9 Hydref 1883 Edit this on Wikidata
Partick Edit this on Wikidata
Bu farw3 Mai 1942 Edit this on Wikidata
Westminster Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Yr Alban Yr Alban
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd, chwaraewr rygbi'r undeb Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 37ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 36fed Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Geidwadol Edit this on Wikidata
PriodJessie Margaret Martin
Chwaraeon
Tîm/auTîm rygbi'r undeb cenedlaethol yr Alban, Clwb Rygbi Prifysgol Rhydychen Edit this on Wikidata
Saflemaswr Edit this on Wikidata

Cefndir

golygu

Ganwyd Munro yn Partick, Glasgow, yn bumed fab i Patrick Munro, ariannydd i gwmni The Scottish Provident Institution a Mary Helen Catherine (née Dormon) ei wraig,[2] Yn ei ieuenctid symudodd y teulu i Harrogate yn Swydd Efrog. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Leeds a Choleg Eglwys Crist, Rhydychen, lle graddiodd BA mewn Hanes ym 1906.[3]

Gyrfa Rygbi

golygu

Dechreuodd Munro chware i dîm rygbi'r undeb Prifysgol Rhydychen ym 1903 gan wasanaethu fel capten y tîm ym 1905. Ymddangosodd fel aelod o garfan ryngwladol yr Alban ym 1905, 1906, 1907 a 1911 gan wasanaethu fel capten y tîm yn 1907 a 1911. Derbyniodd hanner grys glas gan Brifysgol Rhydychen ym 1900 am gystadlu yn y naid uchel. Bu'n llywydd cymdeithas Vincent ym 1906-1907, sef cymdeithas chwaraewyr y Brifysgol oedd wedi ennill crys glas y brifysgol mewn unrhyw gamp. Ar ôl ymadael a'r coleg bu'n chwaraewr achlysurol i dîm Albanwyr Llundain. Roedd ei waith yn mynd a fo dramor yn aml, gan hynny, doedd dim modd iddo fod yn aelod rheolaidd o'r tîm.[4]

Rhwng 1939 a'i farwolaeth gwasanaethodd fel is lywydd Undeb Rygbi'r Alban.[5]

Ymddangosiadau rhyngwladol

golygu

Gyrfa wedi coleg

golygu

Ar ôl gadael Rhydychen ymunodd Munro â Gwasanaeth Gwleidyddol Swdan ym 1907. Roedd Gwasanaeth Gwleidyddol Swdan yn rhan o Wasanaeth Sifil tramor Prydain a oedd yn gweinyddu Swdan a rhannau eraill o ogledd ddwyreiniol Affrica, megis yr Aifft i'r Ymerodraeth Brydeinig.[11] Fel rhan o'i waith yn y Gwasanaeth Gwleidyddol gwasanaethodd Munro fel Llywodraethwr Talaith Darfur rhwng 1923 a 1924 ac fel Llywodraethwr Talaith Khartoum rhwng 1925 a 1929. Ym 1919 cafodd ei grybwyll mewn cadlythyrau a 10 mlynedd yn ddiweddarach cafodd ei dderbyn i Urdd y Nîl.

Gyrfa wleidyddol

golygu

Yn Etholiad cyffredinol 1931 safodd Munro fel yr Ymgeisydd Ceidwadol yn etholaeth Llandaf a'r Bari gan lwyddo i gipio'r sedd odd iwrth y Blaid Lafur. Cadwodd y sedd hyd ei farwolaeth.

Gwasanaethodd fel Ysgrifennydd Seneddol Preifat i'r Capten Euan Wallace pan oedd yn Is-ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref ym 1935 ac yna'n Ysgrifennydd Masnach Dramor. Aeth Munro ymlaen i fod yn Chwip Iau'r Llywodraeth ym 1937, gan ymddiswyddo ym mis Mawrth 1942. Ymunodd â chyflogres y llywodraeth fel Arglwydd Iau'r Trysorlys yn ddiweddarach y flwyddyn honno a gwasanaethodd hyd ei farwolaeth.[12]

Ym 1911 priododd Munro â Jessie Margaret merch E. P. Martin o ystâd Bryn y Fenni. Roedd eu cartref ym Mhrydain yn y Bwlch, Sir Faesyfed oedd yn rhan o ystâd y teulu. Ni fu iddynt blant

Marwolaeth

golygu

Ar 3ydd mai 1942 trefnodd y Swyddfa Rhyfel ymarferiad i weld sut byddai Whitehall ac ystâd y llywodraeth yn ymdopi efo cyrch gan luoedd yr Almaen. Cogiodd 15 mil o filwyr a gwirfoddolwyr eu bod yn filwyr o'r Almaen oedd wedi glanio yn Hyde Park a Phalas Buckingham. Bu rhai o'r ffug milwyr yn cogio ceisio meddiannu Palas San Steffan, cartref Tŷ'r Arglwyddi a Thŷ'r Cyffredin.[13] Roedd Munro yn aelod o Warchodlu Cartref Palas San Steffan ac yn ffugio amddiffyn a gwarchod yr adeiladau, yr aelodau a'r staff. Rhedodd i swyddfeydd y Blaid Ryddfrydol i roi rhybudd i arweinwyr y blaid o'r hyn oedd yn digwydd. Cafodd trawiad ar y galon a bu farw cyn y gellid rhoi cymorth meddygol iddo.[14] Gan ei fod ar ddyletswydd fel aelod o'r gwarchodlu, cyfrifid ei farwolaeth fel un o anaf ryfel.[15] Claddwyd ei weddillion ym Mynwent Eglwys San Fihangel ger ei gartref yn y Bwlch. Fel bedd un bu farw ar ddyletswydd filwrol mae'r bedd yng ngofal Comisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad.[16]

Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Charles Ellis Lloyd
Aelod Seneddol Llandaf a'r Barri
19311942
Olynydd:
Cyril Lakin

Cyfeiriadau

golygu
  1. Munro, Patrick, (9 Oct. 1883-3 May 1942), MP (U) Llandaff and Barry, Glamorgan, since 1931; Junior Lord of the Treasury, 1937-42. WHO'S WHO & WHO WAS WHO. (mynediad llyfrgelloedd cyhoeddus) adalwyd 5 Chwefror 2021
  2. Scotland's People 1883 MUNRO, PATRICK (Statutory registers Births 646/3 1371)
  3. The Daily Telegraph 30 Tachwedd 1906 tud 12 University Intelligence
  4. "Personal Pars - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1908-09-12. Cyrchwyd 2021-02-06.
  5. The Sunday Times 28 Awst, 1938 Ready for the Coming Rugby Football Season
  6. "ENGLAND v SCOTLAND - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1905-03-18. Cyrchwyd 2021-02-06.
  7. "GREAT INTERNATIONAL AT EDINBURGH - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1907-02-23. Cyrchwyd 2021-02-06.
  8. "SCOTLAND V WALES - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1905-02-03. Cyrchwyd 2021-02-06.
  9. "THESCOTTISHTEAM - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1906-01-20. Cyrchwyd 2021-02-06.
  10. "BOKS INTERNATIONAL - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1906-11-12. Cyrchwyd 2021-02-06.
  11. Collins, Robert (1972-07-01). "THE SUDAN POLITICAL SERVICE A PORTRAIT OF THE ‘IMPERIALISTS’". African Affairs 71 (284): 293–303. doi:10.1093/oxfordjournals.afraf.a096258. ISSN 0001-9909. https://academic.oup.com/afraf/article/71/284/293/16091.
  12. "Private Patrick Munro | Christ Church, Oxford University". www.chch.ox.ac.uk. Cyrchwyd 2021-02-06.
  13. "LONDON 'INVASION' STAGED; Troops Simulate Nazi Parachute Attack in Westminster Area (Published 1942)". The New York Times. 1942-05-03. ISSN 0362-4331. Cyrchwyd 2021-02-06.
  14. "Munro". www.parliament.uk. Cyrchwyd 2021-02-06.
  15. WESTMINSTER HALL WAR MEMORIALS 2nd World War adalwyd 6 Chwefror 2021
  16. Comisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad PRIVATE PATRICK MUNRO adalwyd 6 Chwefror 2021